Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024
← Blaenorol | Nesaf → | |
Lleoliad | Parc Coffa Ynysangharad, Pontypridd | |
---|---|---|
Cynhaliwyd | 3–10 Awst 2024 | |
Archdderwydd | Mererid Hopwood |
Cynhalir Eisteddfod Genedlaethol Cymru Rhondda Cynon Taf 2024 ym Mhontypridd, Rhondda Cynon Taf, rhwng 3 - 10 Awst 2024. Hwn fydd Eisteddfod gyntaf yr Archdderwydd Mererid Hopwood.
Y Maes[golygu | golygu cod]
Yn Awst 2023 cyhoeddwyd mai Parc Coffa Ynysangharad ym Mhontypridd fyddai cartref yr Eisteddfod.[1] (51°36′09″N 3°20′15″W / 51.602575°N 3.337636°W)
Bydd Maes B yn cael ei gynnal ar gaeau Ysgol Uwchradd Pontypridd a bydd y maes Carafanau a gwersylla ar dir preifat rhwng Pontypridd a Glyn-coch. Mae Llwybr Tâf yn cysylltu y tri lleoliad.[2] Bydd y ganolfan groeso a swyddfa docynnau yn Llyfrgell Pontypridd a maes parcio hygyrch ym Maes Parcio Stryd y Santes Catrin. Defnyddiwyd tir Ysgol y Ddraenen Wen a Phrifysgol De Cymru, Trefforest, ar gyfer cyfleusterau Parcio a Theithio, yn ogystal â safle Parcio a Theithio presennol Abercynon.[3]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "Pontypridd i lwyfannu Eisteddfod drefol yn 2024". BBC Cymru Fyw. 2023-08-07. Cyrchwyd 2023-08-07.
- ↑ "Lleoliad Eisteddfod Genedlaethol 2024 | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2024-03-06.
- ↑ "Rhyddhau cynlluniau lleoliad ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf 2024". www.rctcbc.gov.uk. Cyrchwyd 2024-03-06.