Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerfyrddin 1867
Gwedd
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1867 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Caerfyrddin |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1867 yng Nghaerfyrddin ar 3-6 Medi 1867, o ddydd Mawrth i ddydd Wener.[1]
Cynigiwyd y Gadair am awdl ar y testun "Milflwyddiant". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a'r beirniaid oedd Caledfryn a Cynddelw. Nid oedd y ddau yn gallu cytuno ar enillydd rhwng dwy awdl ddaeth i'r brig, felly trosglwyddwyd y penderfyniad at Ceiriog i dorri'r ddadl; penderfynodd mai 'Samuel Hopkins' oedd yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd y Parch Richard Parry (Gwalchmai). Nid oedd yn bresennol felly cadeiriwyd ei gynrychiolydd Mr J.P. Williams.[2]
Ym 1867 y cyflwynwyd cystadleuaeth y bryddest i’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro y cyntaf, ond medal oedd y wobr y flwyddyn honno, nid coron.[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Yr Eisteddfod Genedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
- ↑ "YREISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN NGHAERFYRDDIN MEDI 3 4 5 a 6 - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1867-09-07. Cyrchwyd 2017-03-17.
- ↑ "Cadair a Choron". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 15 Rhagfyr 2025.