Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022 yn Nhregaron, Ceredigion, rhwng 30 Gorffennaf - 6 Awst 2022. Roedd y Brifwyl hon fod i'w chynnal yn 2020 ond fe'i gohiriwyd ddwywaith yn dilyn pandemig COVID-19, felly dyma'r Eisteddfod gyntaf nôl ar Faes ers 2019.[2]
Cychwynnodd yr Eisteddfod gyda sioe gerdd yn y Pafiliwn ar y nos Wener. Ysgrifennwyd Lloergan gan Fflur Dafydd gyda chaneuon gan Griff Lynch a Lewys Wyn. Mae'r sioe wedi ei osod yn y flwyddyn 2050, lle mae'r ofodwraig Lleuwen Jones yn gwireddu breuddwyd oes o gael bod y ferch gyntaf ar y lleuad.
Dywedodd yr Eisteddfod bod nifer y cystadleuwyr ychydig i lawr yn 2022 - gyda chystadlaethau corau yn enwedig - ond bod y ffigyrau'n "galonogol". Roedd cyfnod COVID wedi effeithio ar allu nifer o grwpiau i ymarfer.[3]
Y Maes
[golygu | golygu cod]Lleolwyd y Maes i'r gogledd o Dregaron ar y tir rhwng yr A485 a’r B4343 (52°13′36″N 3°56′03″W / 52.226641°N 3.934259°W). Roedd y maes carafanau ar ochr orllewinol yr A485.[4] Paratowyd cynllun y Maes mewn amser pan oedd cyfyngiadau COVID yn llymach felly roedd fwy o ofodau a mannau agored nag o'r blaen, yn cynnwys y brif fynedfa, i osgoi pobl gronni yn yr un lle.
Roedd cynllun arbennig yn cynnig 15,000 o docynnau mynediad am ddim i "deuluoedd lleol sydd ddim fel arfer yn mynychu'r Eisteddfod" yn cynnwys teuluoedd difreintiedig a ffoaduriaid.[5] Daeth i'r amlwg wedyn bod nifer o bobl eraill anghymwys wedi hawlio'r tocynnau a byddai rhaid i'r Eisteddfod fynd drwy'r ceisiadau i'w annilysu. Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Tregaron, Elin Jones, fod pobl "farus" wedi hawlio tocynnau "ar draul plant mewn tlodi a ffoaduriaid". Fe setlwyd y mater erbyn dechrau'r Eisteddfod gyda chynllun newydd.[6]
Bythefnos cyn cychwyn yr Eisteddfod, nid oedd yr adeiladau wedi cyrraedd mewn pryd ar gyfer y Ganolfan Groeso, pafiliwn Maes B na'r Theatr, oherwydd problemau’n ymwneud â Brexit a COVID. Dywedodd Elin Jones, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith fod rhaid i'r trefnwyr fynd ar ofyn i ambell syrcas yng ngwledydd Prydain, drwy gyflenwi pabelli eraill yn eu lle.[7]
Daeth glaw trwm ar y nos Sadwrn cyntaf gan greu pyllau dŵr a mwd ar y Sul ond fe sychodd y maes yn gyflym, gyda tywydd braf weddill yr wythnos.[8]
Prif gystadlaethau
[golygu | golygu cod]Y Gadair
[golygu | golygu cod]Enillydd y Gadair oedd Llŷr Gwyn Lewis (ffugenw "Cnwt Gwirion"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Idris Reynolds, ar ran ei gyd-feirniaid Emyr Lewis a Twm Morys. Roedd 14 ymgeisydd am y wobr - y nifer fwyaf ers dros 30 mlynedd, a'r dasg oedd llunio awdl ar fwy nag un o'r mesurau traddodiadol, heb fod yn fwy na 250 o linellau, ar y teitl Traeth. Dywedodd y beirniaid fod y "safon gyffredinol drwyddi draw yn dipyn uwch na'r norm" - er nad oedd y tri yn unfrydol yn eu penderfyniad terfynol.[9]
Noddwyd y Gadair gan Gylch Cinio Dynion Aberystwyth, a rhoddir y wobr ariannol er cof annwyl am Eluned ac W Ambrose Bebb, gan eu plant a’u hwyrion. Cynlluniwyd a chrëwyd y Gadair gan Rees Thomas, Bow Street - cyn-athro gwaith coed yn Ysgol Gyfun Penweddig, Aberystwyth..[10]
Y Goron
[golygu | golygu cod]Enillydd y Goron oedd Esyllt Maelor (ffugenw "Samiwel"). Traddodwyd y feirniadaeth gan Cyril Jones ar ran ei gyd-feirniaid Glenys Mair Roberts a Gerwyn Wiliams. Cystadlodd 24, a'r dasg oedd cyflwyno casgliad o gerddi heb fod mewn cynghanedd gyflawn, heb fod dros 250 o linellau ar y testun Gwres. Dywedodd y beirniaid mai "digon cyffredin oedd ei hansawdd at ei gilydd" ond fod y dosbarth teilyngdod wedi eu "plesio yn arw". Roedd y beirniaid yn unfrydol mai Esyllt Maelor oedd yn fuddugol. Hi oedd y fenyw gyntaf i ennill cadair Eisteddfod yr Urdd yn 1977 yn Y Barri.
Yn cloi ei feirniadaeth, dywedodd Ceri Wyn "Ond yn gwbl annibynnol ar ein gilydd, cyn i ni drafod, roedd y tri ohonom yn gytûn taw eiddo Samiwel yw coron Ceredigion yma yn Nhregaron." Dywedodd ei bod hi'n "fraint" cael coroni "dewin geiriau go iawn".
Dyluniwyd a chynhyrchwyd y goron gan yr artist, Richard Molineux ac mae'n ddathliad o ddiwylliant Ceredigion a Chymru mewn cyfres o 12 o ffasedau gwydr lliw. Mae'r elfennau diwylliannol yn cynnwys Castell Aberteifi, Cors Caron, y barcud coch, Afon Teifi, Abaty Ystrad Fflur a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bridfa Ryngwladol Cobiau Cymreig Derwen oedd yn rhoi'r goron ac Ifor a Myfanwy Lloyd o'r fridfa sy'n rhoi'r wobr ariannol o £750.[11]
Gwobr Goffa Daniel Owen
[golygu | golygu cod]Yr enillydd oedd Meinir Pierce Jones o Nefyn, Llŷn. Tasg y gystadleuaeth oedd creu nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau. Y wobr oedd Medal Goffa Daniel Owen, yn rhoddedig gan Gareth, Cerys a Betsan Lloyd, Talgarreg - a £5,000 gan Brifysgol Aberystwyth. Daeth 14 cynnig ar y gystadleuaeth eleni a dywedodd y beirniaid bod "y safon yn gyffredinol yn uchel iawn eleni" er nad oedd y tri yn gytûn ar yr enillydd.
Traddodwyd y feirniadaeth gan Manon Steffan Ros ar ran ei chyd-feirnaid, Emyr Llywelyn ac Ioan Kidd. Er nad oedd y beirniad yn unfryd, roedd Manon Steffan Ros a Ioan Kidd yn credu mai nofel Capten gan "Polly Preston" oedd nofel orau'r gystadleuaeth.[12]
Y Fedal Ryddiaith
[golygu | golygu cod]Enillydd y Fedal oedd Sioned Erin Hughes o Foduan gyda'i chyfrol Rhyngom dan y ffugenw "Mesen". Y dasg oedd ysgrifennu cyfrol o ryddiaith greadigol heb fod dros 40,000 o eiriau ar y testun 'Dianc' gyda gwobr ariannol o £750 yn ogystal a'r Fedal. Roedd 17 o ymgeiswyr a thraddodwyd y feirniadaeth gan Meg Elis ar ran ei chyd-feirniaid Dylan Iorwerth ac Eurig Salisbury. Roedd y tri yn unfrydol mai Mesen oedd yn deilwng o'r Fedal Ryddiaith.[13]
Tlws y Cerddor
[golygu | golygu cod]Enillydd y tlws oedd Edward Rhys-Harry (ffugenw "Picard") sy'n byw yn Llundain. Derbyniodd £750 ac ysgoloriaeth gwerth £2,000 i hyrwyddo'i yrfa. Y dasg oedd creu opera fer o un gân gorws a dwy gân i unawdwyr ynghyd ag amlinelliad cryno o'r opera gyfan, gan ddefnyddio geiriau Cymraeg gwreiddiol neu rhai sy'n bodoli eisoes.
Roedd 6 ymgais a thraddodwyd y feirniadaeth gan Gwion Thomas ar ran ei gyd-feirniaid, John Metcalf a Patrick Young. Dywedodd fod yr Eisteddfod wedi gosod "her hynod anodd i gyfansoddwyr ac i feirniaid".[14]
Y Fedal Ddrama
[golygu | golygu cod]Enillydd y Fedal Ddrama oedd Gruffydd Siôn Ywain, sy'n wreiddiol o Ddolgellau ond sydd bellach yn byw yn Llundain, am ei ddrama Nyth (ffugenw "Dy Fam"). Hwn oedd y tro cyntaf iddo gystadlu am y Fedal Ddrama. Traddodwyd y feirniadaeth gan Janet Aethwy ar ran ei chyd-feirniaid Sharon Morgan a Sera Moore Williams. Y dasg oedd ysgrifennu ddrama lwyfan heb unrhyw gyfyngiad o ran hyd.
Cyflwynwyd y Fedal er cof am Eiryth ac Urien Wiliam, rhoddedig gan eu plant, Hywel, Sioned a Steffan yn ogystal â gwobr o £750 (Cronfa Goffa Huw Roberts, Pwllheli). Cyflwynwyd rhan o’r gwaith buddugol yn Seremoni’r Fedal Ddrama gyda chefnogaeth Cronfa Goffa J. O. Roberts.[15]
Canlyniadau cystadlaethau
[golygu | golygu cod]Bandiau Pres
[golygu | golygu cod]1. Bandiau Pres Dosbarth 1 1. Band Arian Llaneurgain 2. Band Pres BTM 3. Band Markham a'r Cylch
2. Bandiau Pres Dosbarth 2 1. Seindorf Biwmares 2. Band Arian Tref Rhydaman
3. Bandiau Pres Dosbarth 3 1. Band Arian Cross Keys 2. Band RAF Sain Tathan 3. Seindorf Arian Crwbin
4. Bandiau Pres Dosbarth 4 1. Band Arian Cross Keys 2. Seindorf Arian Yr Oakeley 3. Band Arian Cwm Ogwr
Cerdd Dant
[golygu | golygu cod]5. Côr Cerdd Dant dros 20 mewn nifer 1. Lleisiau Tywi, Dyffryn Tywi 2. Côr Merched Llangwm, Sir Conwy 3. Côr Merched Canna, Caerdydd
6. Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer 1. Parti'r Gromlech 2. Parti'r Greal 3. Lodesi Dyfi
7. Parti Cerdd Dant o dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Adran Aberystwyth 2. Merched Plastaf
8. Triawd neu Bedwarawd Cerdd Dant 1. Triawd Aeron, Dyffryn Aeron 2. Elin, Lois, Catrin a Non, Ynys Môn
9. Deuawd Cerdd Dant 21 Oed a Throsodd 1. Ceri Haf a Ruth Erin, Caerdydd / Dinbych 2. Carys Griffiths-Jones a Dafydd Jones, Cwrt-newydd / Ciliau Aeron 3. Rhian a Rhonwen, Llanycil / Llandderfel
10. Deuawd Cerdd Dant o dan 21 oed 1. Gwenan ac Ynyr 2. Martha a Sophie 3. Fflur Davies a Leisa Gwenllian
11. Gwobr Aled Lloyd Davies - Unawd Cerdd Dant 21 oed a throsodd 1. Llio Meirion Rogers, Efenechtyd, Rhuthun 2. Siriol Elin, Abergele 3. Cai Fôn Davies, Bangor
12. Unawd Cerdd Dant 16 ac o dan 21 oed 1. Manw Robin 2. Gwenan Mars Lloyd 3. Fflur Davies
13. Unawd Cerdd Dant 12 ac o dan 16 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Ela Mablen Griffiths-Jones 3. Ioan Joshua Mabbutt
14. Unawd Cerdd Dant o dan 12 oed 1. Cari Lovelock 2. Lili Myrddin 3. Anest Gwilym Jones
15. Cystadleuaeth Cyfeilio - i delynorion sydd heb gyfeilio mewn gwyliau cenedlaethol 1. Alwena Mair Owen 2. Emma Cerys Buckley
Cerddoriaeth
[golygu | golygu cod]17. Côr Adloniant 1. Cywair 2. Côr Llanddarog 3. Côr Alawbama
18. Côr Cymysg heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côrdydd 2. Côr Llundain
19. Côr Meibion heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Côr Meibion Ar Ôl Tri, Aberteifi 2. Côr Meibion Machynlleth, Machynlleth 3. Bechgyn Bro Taf, Caerdydd
21. Côr i rai 60 oed a throsodd 1. Côr Hen Nodiant 2. Encôr Ynys Môn 3. Côr Nefi Blws
20. Côr Merched heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Aelwyd y Neuadd Fach 2. Ysgol Gerdd Ceredigion
22. Côr Ieuenctid o dan 25 oed heb fod yn llai nag 20 mewn nifer 1. Ysgol Gerdd Ceredigion 2. Côr Bechgyn Plasmawr 3. Ysgol Penweddig
23. Cystadleuaeth Gorawl Eisteddfodau Cymru 1. Côr Caerdydd 2. Côr Dre 3. Côr Hafodwenog
25. Tlws Arweinydd Corawl yr Ŵyl, er cof am Sioned James Islwyn Evans
26. Côr yr Wyl Côrdydd
27. Ensemble Lleisiol Agored 1. Rhys Meilyr/Rhys Archer/Owain Rowlands 2. Criw COR 3. Adran Aberystwyth
28. Ysgoloriaeth W Towyn Roberts 1. Eiry Price 2. Rhys Meilyr 3. Robin Gruffudd Hughes
29. Unawd Soprano 25 oed a throsodd 1. Sara Davies, Llandysul 2. Joy Cornock, Talyllychau 3. Eiry Price, Pwllheli
30. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Uwchdenor 25 oed a throsodd 1. Ceri Haf Roberts, Dinbych 2. Helen Jones, Crai 3. Jennifer Parry, Aberhonddu
31. Unawd Tenor 25 oed a throsodd 1. Elis Jones, Rhuthun 2. Efan Williams, Lledrod 3. Aled Wyn Thomas, Llanwnnen
32. Unawd Bariton / Bas 25 oed a throsodd 1. Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn 2. Siôn Eilir Roberts, Rhuthun 3. Kees Huysmans, Llanbedr Pont Steffan
33. Gwobr Goffa David Ellis: Y Rhuban Glas 1. Ceri Haf Roberts, Dinbych
34. Canu Emyn i rai 60 oed a throsodd 1. Vernon Maher 2. Glynn Morris 3. Gwynne Jones
35. Unawd Lieder / Cân Gelf 25 oed a throsodd 1. Elis Jones, Rhuthun 2. Efan Williams, Lledrod 3. Peter Totterdale, Blaendulais, Castell-nedd
36. Unawd Lieder / Cân Gelf o dan 25 oed 1. Rhys Meilyr, Llangefni 2. Kathy Macaulay, Caerdydd 3. Llinos Haf Jones, Penarth
37. Unawd yr Hen Ganiadau 19 oed a throsodd 1. Owain Rowlands, Llandeilo 2. Barry Powell, Llanfihangel-y-Creuddyn 3. Gwyn Morris, Aberteifi
38. Unawd Soprano 19 ac o dan 25 oed 1. Lisa Dafydd, Rhuthun 2. Tesni Jones, Llanelwy 3. Glesni Rhys Jones, Bodedern
39. Unawd Mezzo-Soprano / Contralto / Uwchdenor 19 ac o dan 25 oed 1. Llinos Haf Jones 2. Erin Swyn Williams
40. Unawd Tenor 19 ac o dan 25 oed 1. Rhys Meilyr, Llangefni 2. Rhys Archer, Y Fflint
41. Unawd Bariton / Bas 19 ac o dan 25 oed 1. Owain Rowlands 2. Tomos Heddwyn Griffiths 3. Daniel O'Callaghan
42. Gwobr Goffa Osborne Roberts - Y Rhuban Glas 1. Lisa Dafydd, Rhuthun 2. Owain Rowlands, Llandeilo 3. Llinos Haf Jones, Penarth 4. Rhys Meilyr, Llangefni
43. Unawd o Sioe Gerdd 19 oed a throsodd 1. Cai Fôn Davies 2. Fflur Davies 3. Taylah James
44. Ysgoloriaeth Goffa Wilbert Lloyd Roberts 1. Fflur Davies
45. Unawd o Sioe Gerdd o dan 19 oed 1. Lili Mohammad 2. Nansi Rhys Adams 3. Manw Robin
46. Unawd i Ferched 16 ac o dan 19 oed 1. Eiriana Jones-Campbell 2. Lea Morus Williams 3. Lili Mohammad
47. Unawd i Fechgyn 16 ac o dan 19 oed 1. Twm Tudor 2. Ynyr Lewys Rogers 3. Iolo Tomos Evans
48. Unawd i Ferched 12 ac o dan 16 oed 1. Ela Mablen Griffiths-Jones 2. Branwen Medi Jones 3. Beca Marged Hogg
49. Unawd i Fechgyn 12 ac o dan 16 oed 1. Ioan Joshua Mabbutt 2. Peredur Hedd Llywelyn 3. Trystan Bryn Evans
50. Unawd o dan 12 oed 1. Cari Lovelock 2. Lili Myrddin 3. Anest Gwilym Jones
51. Gwobr Goffa Eleri Evans Cystadleuaeth Cyfeilio ar y Piano Enillydd: Joseph Cavalli-Price
52. Grŵp Offerynnol Agored 1. Ensemble Taf, Caerdydd 2. Parti'r Efail, Llanrhystud
53. Deuawd Offerynnol Agored 1. Aisha a Mared 2. Deuawd Taf 3. Soffia ac Elenor
54. Rhuban Glas Offerynnol 19 oed a throsodd 1. Mared Emyr Pugh-Evans
55. Unawd Chwythbrennau 19 oed a throsodd 1. Mali Gerallt Lewis 2. Lleucu Parri
56. Unawd Llinynnau 19 oed a throsodd 1. Hannah Lowri Roberts
59. Unawd Telyn 19 oed a throsodd 1. Mared Emyr Pugh-Evans 2. Aisha Gwyneth Palmer 3. Anwen Mai Thomas
61. Rhuban Glas Offerynnol 16 ac o dan 19 oed 1. Charlotte Kwok
62. Unawd Chwythbrennau 16 ac o dan 19 oed 1. Chris Sabisky
63. Unawd Llinynnau 16 ac o dan 19 oed 1. Soffia Nicholas 2. Rémy Segrott 3. Carwyn Lloyd
64. Unawd Piano 16 ac o dan 19 oed 1. Charlotte Kwok 2. Lefi Aled Dafydd 3. Beca Lois Keen 3. Lisa Morgan
65. Unawd Offerynnau Pres 16 ac o dan 19 oed 1. Glyn Porter
66. Unawd Telyn 16 ac o dan 19 oed 1. Efa Peak 2. Heledd Wynn Newton 3. Chris Sabisky 3. Emma Cerys Buckley
68. Rhuban Glas Offerynnol o dan 16 oed 1. Cerys Angharad
69. Unawd Chwythbrennau o dan 16 oed 1. Lea Mererid Roberts 2. Catrin Edwards
72. Unawd Offerynnau Pres o dan 16 oed 1: Ianto Caradog Evans
Dawns
[golygu | golygu cod]83. Tlws Coffa Lois Blake 1. Dawnswyr Talog, Sir Gaerfyrddin 2. Dawnswyr Nantgarw, Pontypridd
85. Parti Dawnsio Gwerin o dan 25 oed 1. Dawnswyr Talwenog, Sir Gaerfyrddin 2. Bro Taf, Morgannwg Ganol 3. Dawnswyr Penrhyd, Rhydaman
86. Dawns Stepio i Grŵp 1. Bro Taf, Pontypridd 2. Dawnswyr Talwin, Sir Gaerfyrddin 3. Dawnswyr Seithenyn, Aberystwyth
87. Deuawd, Triawd neu Bedwarawd Stepio 1. Daniel a Morus,Creigiau, Caerdydd 2. Mared Esyllt Evans a Cadi Fflur Evans, Tre-lech 3. Enlli a Lleucu, Caerdydd
88. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn 18 oed a Throsodd 1. Daniel Calan Jones, Caerdydd 2. Elwyn Williams, Caerdydd 3. Ioan Wyn Williams, Caerdydd
89. Dawns Stepio Unigol i Ferched 18 oed a Throsodd 1. Lleucu Parri, Caerdydd 2. Cadi Fflur Evans, Tre-lech 3. Sara Brown, Llanpumsaint
90. Dawns Stepio Unigol i Fechgyn o dan 18 oed 1. Morus Jones 2. Dion Jones 3. Abel Rees
91. Dawns Stepio Unigol i Ferched o dan 18 oed 1. Elen Morlais Williams 2. Erin Jones 3. Esther Defis
94. Dawns Greadigol/ Gyfoes Unigol 1. Elin Lloyd 2. Amy Morgan 3. Alisha Teasdale
95. Dawns Greadigol Gyfoes 1. The Studio
96. Dawns Aml-gyfrwng i Bâr neu Driawd mewn unrhyw arddull 1. Elin, Alisha a Rose 2. Anna ac Amy 3. Caitlin ac Asha
97. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd 12 oed a throsodd 1. Jessica Sier
98. Dawns Unigol Disgo, Hip Hop neu Stryd o dan 12 oed 1. Olly Louis Fraser Jones 2. Francessca Cooper
99. Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd i Bâr neu Driawd 1. Gwen Rowley ac Awen Pritchard
100. Dawns Disgo/Hip Hop/Stryd i Grŵp 1. Y Cellwair Gwyllt 2. Y Drych 3. Ysgol Bro Pedr
Alawon Gwerin
[golygu | golygu cod]101. Côr Alaw Werin dros 20 mewn nifer 1. Côr yr Heli, Llyn, Eifionydd a Chaernarfon 2. Côr Merched Canna, Caerdydd 3. Côr Gwerin Ger y Lli, Aberystwyth
102. Parti Alaw Werin hyd at 20 mewn nifer 1. Merched Soar 2. Staff Ysgol Bro Teifi 3. Lodesi Dyfi
103. Parti Alaw Werin dan 25 oed hyd at 20 mewn nifer 1. Adran Aberystwyth 2. Merched Plastaf 3. Aelwyd Yr Ynys
104. Gwobr Goffa y Fonesig Ruth Herbert Lewis 21 oed a throsodd 1. Llinos Haf Jones, Penarth 2. Cai Fôn Davies, Bangor 3. Carys Hâf, Caio
105. Unawd Alaw Werin 16 ac o dan 21 oed 1. Lili Mohammad 2. Sophie Jones 3. Cadi Gwen Williams
106. Unawd Alaw Werin 12 ac o dan 16 oed 1. Branwen Medi Jones 2. Ela Mablen Griffiths-Jones 3. Nia Menna Compton
107. Unawd Alaw Werin o dan 12 oed 1. Gwennan Lloyd Owen 2. Cari Lovelock 3. Nêst Mars-Lloyd
108. Perfformiad Gwreiddiol 1. Ysgol Glanaethwy
109. Grŵp Offerynnol neu offerynnol a lleisiol Cydradd gyntaf: Parti'r Efail a Sesiynwyr Clera
110. Unawd ar unrhyw offeryn gwerin 1. Alwena Mair Owen 2. Heledd Davies 3. Angharad Fflur Thomas
111. Cyflwyno Cân Werin hunangyfeiliant 1. Rhiannon O'Connor
Dysgwyr
[golygu | golygu cod]118. Côr Dysgwyr rhwng 13 a 40 mewn nifer 1. Côr Dysgwyr Ceredigion 2. Côr DAW (Dysgwyr Ardal Wrecsam) 3. Côr Dysgu Cymraeg Sir Benfro 4. Côr Cyd Aberystwyth
119. Parti Canu, hyd at 12 mewn nifer 1. Parti Cyd Aberystwyth 2. Côr Bach DAW
120. Ymgom 1. Grwp y Llannau 2. John Pearman
121. Cyflwyniad Grŵp, hyd at 5 munud ar destun 'Fy ardal i' 1. Grwp Diane
123. Unawd lleisiol 1. Sarah Bee
Llefaru
[golygu | golygu cod]132. Côr Llefaru dros 16 mewn nifer 1. Côr Sarn Helen,Llanbedr Pont Steffan, Llandysul ac Aberaeron 2. Côr Merched Tawe, Pontarddulais a'r Cyffiniau 3. Lleisiau Cafflogion, Efailnewydd a Llanaelhaearn
133. Parti Llefaru hyd at 16 mewn nifer 1. Aelwyd Cwm Rhondda 2. Parti Man a Man 3. Lleisiau RhymniCwm
134. Gwobr Goffa Llwyd o'r Bryn 21 oed a throsodd 1. Siôn Jenkins, Llandysilio, Sir Benfro
135. Llefaru Unigol Agored 1. Cai Fôn Davies, Bangor 2. Daniel O'Callaghan, Pwll-trap 3. Meleri Morgan, Bwlch-llan
136. Perfformio Darn Digri Agored 1. Gwion Dafydd Bowen 2. Mair Jones 3. Rhys Owen Jones
138. Llefaru Unigol 16 ac o dan 21 oed 1. Owain Siôn 2. Zara Evans 3. Erin Swyn Williams
139. Llefaru Unigol 12 ac o dan 16 oed 1. Beca Dwyryd 2. Erin Llwyd 3. Ela Mablen Griffiths-Jones
140. Llefaru Unigol o dan 12 oed 1. Awel Grug Lewis 2. Meia Elin Evans 3. Gwennan Lloyd Owen
141. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur 16 oed a throsodd 1. Steffan Alun Leonard 2. Lisa Jones 3. Daniel O'Callaghan
142. Llefaru Unigol o'r Ysgrythur o dan 16 oed 1. Mai Owen 2. Olwen Roberts 3. Trystan Bryn Evans
Theatr
[golygu | golygu cod]168. Actio Drama neu Waith Dyfeisiedig 1. Cwmni Drama'r Gwter Fawr 2. Cwmni Drama Licris Olsorts
169. Actor Gorau Cystadleuaeth 168 1. Gweni King
170. Cyfarwyddwr Gorau Cystadleuaeth 168 1. Mel Morgans
171. Gwobr Richard Burton 19 oed a throsodd 1. Cedron Sion
172. Deialog 1. Zara Evans a Megan Dafydd, Tregaron / Llangeitho 2. Ela Mablen Griffiths-Jones a Swyn Efa Tomos, Cwrt-newydd / Pencarreg
173. Monolog 16 ac o dan 19 oed 1. Owain Siôn 2. Manw Robin 3. Glain Llwyd Davies
174. Monolog 12 ac o dan 16 oed 1. Swyn Efa Tomos 2. Mai Owen 3. Neli Rhys
Anrhydeddau'r Orsedd
[golygu | golygu cod]Gohiriwyd Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion yn 2020 ond penderfynodd yr Orsedd gyhoeddi enwau’r rheiny a oedd i’w hanrhydeddu ar y Maes yn Nhregaron. Ni chafwyd cyfle i gynnal y seremoni urddo tan 2022. Cafodd y canlynol eu hurddo ar Faes yr Eisteddfod, ar fore dydd Gwener, 5 Awst 2022.[16]
Yn ogystal, yng Ngorffennaf 2022, cyhoeddwyd y byddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn cael ei dderbyn i'r Orsedd hefyd ar ran "holl weithwyr allweddol Cymru" yn sgil eu cyfraniad yn ystod y pandemig.[17] Urddwyd Huw Edwards y flwyddyn hon hefyd ond penderfynodd Llys yr Eisteddfod ei ddiarddel o'r Orsedd yn Awst 2024.[18]
Gwisg werdd
[golygu | golygu cod]- Deian Creunant, Aberystwyth - Yn un o’r lleisiau Cymraeg cyntaf ar Radio Ceredigion, cafodd gyfnodau yn gweithio gyda’r Urdd, y Gronfa Loteri Fawr a Llywodraeth Cymru, a bellach mae’n gyfarwyddwr cyfathrebu gyda FOUR Cymru. Mae’n is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion, yn cyd-arwain menter Ffoto Aber a bu’n gadeirydd Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Ngheredigion yn 2010.
- Anthony Evans, Caerdydd - Yn wreiddiol o Crosshands mae’n gyn bennaeth celf Ysgol Glantaf, yn ddarlunydd llyfrau plant, ac yn arlunydd gwleidyddol a gefnogodd ymgyrch streic y glowyr a’r mudiad gwrth-apartheid. Bu’n weithgar dros Glwb y Bont, yn ysgrifennydd Sir i UCAC, ac un o sylfaenwyr Cwmni Artistiaid yr Hen Lyfrgell, Oriel Canfas ac Elusen Awen.
- Rhiannon Evans, Blaenpennal - Yn adnabyddus am ei gemwaith, sefydlodd Gemwaith Rhiannon a Chanolfan Cynllun Crefft Cymru yn 1971. Mae Rhiannon wedi arwain datblygu economaidd gwledig trwy gyd-sylfaenu ‘ATOM Tregaron’ yn y 1970au, a bu’n fentor i Awdurdod Datblygu Cymru, ac yn aelod o fenter Curiad Cymru.
- Angharad Fychan, Pen-bont Rhydybeddau, Aberystwyth - Ers 2011, bu’n ysgrifennydd cydwybodol ac egnïol Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru, gan ddarlithio’n gyson ar y pwnc. Mae'n aelod o dîm safoni enwau lleoedd Comisiynydd y Gymraeg. Gwnaeth gyfraniad mawr hefyd yn ei gwaith fel Golygydd Hŷn ar staff Geiriadur Prifysgol Cymru, ac mae graen a brwdfrydedd yn nodweddu ei gwaith bob amser.
- Robat Gruffudd, Tal-y-bont, Ceredigion - Dechreuodd ymgyrchu pan oedd yn fyfyriwr ym Mangor, ac yn 1965, gyda’i ffrind, Penri Jones, cyhoeddodd y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn dychanol, Lol. Yn 1967, sefydlodd wasg Y Lolfa, un o brif weisg Cymru erbyn heddiw. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen ddwywaith, a chyhoeddi cyfrol o gerddi, A Gymri di Gymru?, yn 2008, a’i ddyddiaduron, Lolian, yn 2016.
- Jeffrey Howard, Caerdydd - Mae'n un o gyfeilyddion swyddogol yr Ŵyl ers dros ugain mlynedd. Mae wedi gweithio gyda sefydliadau cerddorol blaenaf Cymru, gan gynnwys Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru. Derbyniodd Wobr Joseph Parry am ei gyfraniad i gerddoriaeth yng Nghymru yn 2018.
- Elin Haf Gruffydd Jones, Aberystwyth - Mae wedi gweithio am dros 30 mlynedd mewn rhwydweithiau a phrosiectau sy’n cysylltu Cymru a’r Gymraeg gyda chyfandir Ewrop, Yn 2017, fe’i penodwyd yn aelod o grŵp Cyngor Ewrop sy’n adolygu’r Siarter Ewropeaidd ar gyfer ieithoedd lleiafrifol a rhanbarthol. Mae’n Athro ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, yn aelod o Fwrdd Rheoli’r Eisteddfod Genedlaethol ac yn Gadeirydd Cwmni Theatr Arad Goch.
- Wynne Melville Jones, Llanfihangel-Genau’r-Glyn - Yn wreiddiol o Dregaron, mae'n gyfarwydd fel arloeswr PR, fel Tad Mistar Urdd ac artist. Mae’n Llywydd Anrhydeddus mudiad Urdd Gobaith Cymru. Sefydlodd StrataMatrix, cwmni cyfathrebu dwyieithog cyntaf Cymru, a’i redeg yn llwyddianus am 30 mlynedd ac mae’n un o sylfaenwyr Golwg Cyf. Wedi ymddeol, ail-gydiodd mewn Celf a bu’n hynod gynhyrchiol a llwyddiannus.
- Helgard Krause, Aberaeron - Yn wreiddiol o ardal Pfalz, Yr Almaen, daeth i Gymru yn 2005. Cafodd swydd gyda Chyngor Llyfrau Cymru yn marchnata llyfrau dramor. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ymrwymodd i ddysgu Cymraeg er mwyn dod yn Bennaeth Marchnata’r Cyngor, ac ymhen rhai misoedd, roedd yn rhugl. Yn dilyn cyfnod fel Cyfarwyddwr Gwasg Prifysgol Cymru, dychwelodd i’r Cyngor Llyfrau yn 2017, wedi’i phenodi’n Brif Weithredwr y sefydliad.
- Emyr Llywelyn, Ffostrasol - Yn ystod ei gyfnod fel myfyriwr yn Aberystwyth, roedd ar flaen y gad yn y trafodaethau i sefydlu neuadd Gymraeg, ymgyrch a arweiniodd at sefydlu Neuadd Pantycelyn. Fe’i carcharwyd yn 1963 am achosi difrod i safle adeiladu argae Tryweryn, cyn cyhoeddi na fyddai’n defnyddio trais eto. Bu’n gyfrifol am sefydlu ac arwain Mudiad Adfer o ddechrau’r 1970au ac ef yw golygydd cylchgrawn Y Faner Newydd.
- Huw Rhys-Evans, Harrow - A'i wreiddiau yn ardal Tregaron a phlwyf Llanddewi Brefi, mae wedi gwneud enw iddo’i hun fel tenor llwyddiannus sydd wedi teithio a pherfformio ledled y byd, gan roi Cymru ar y map ar lwyfannau megis Neuadd Carnegie, Efrog Newydd, Tŷ Opera Bastille, Paris, a Neuadd Albert, Llundain. Yn enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts. Mae’n dysgu canu i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Llundain ac yn canu i godi arian at achosion Cymraeg yn Llundain yn rheolaidd.
- Carlo Rizzi, Penarth - Yn wreiddiol o Milan, mae'n arweinydd opera adnabyddus dros y byd. Bu’n gyfarwyddwr cerdd Opera Cenedlaethol Cymru rhwng 1992 a 2001 ac eto rhwng 2004 a 2008, ac mae’n dychwelyd at y cwmni’n rheolaidd i weithio. Mae’n fwyaf enwog am ei waith athrylithgar yn dehongli ac arwain operâu Verdi, ac fe’i cydnabyddir yn un o arweinyddion gorau’r byd yn y maes hwn. Mae wedi dysgu Cymraeg ac yn magu’i blant drwy gyfrwng yr iaith.
- Geraint Roberts, Caerfyrddin - Mae’n genhadwr dros Gerdd Dafod ac yn weithgar yn lleol a chenedlaethol. Ef yw sefydlydd Ysgol Farddol Caerfyrddin, a’i frwdfrydedd a’i ddawn trefnu ef sydd wedi sicrhau parhad yr ysgol fywiog hon dros gyfnod o 30 mlynedd. Ef hefyd, ers rhyw ddeng mlynedd, sy’n trefnu tîm yr Ysgol Farddol Fach, sy’n cynnig gwersi blasu’r cynganeddion yn ardal Caerfyrddin dros yr haf.
- Eilir Rowlands - Brodor o Sarnau a Chefnddwysar ac ni symudodd erioed o’i fro. Bu’n ffermio am flynyddoedd cyn defnyddio’i ddoniau cynllunio i fod yn dir-luniwr sy’n creu gerddi. Yn genedlaethol, mae’n un o ymddiriedolwyr Cronfa Goffa D. Tecwyn Lloyd, a sefydlwyd i hybu addysg Gymraeg a’n diwylliant, cronfa sydd o gymorth mawr i sefydliadau ar draws Cymru.
- Delwyn Siôn, Caerdydd - Yn wreiddiol o Aberdâr, cyfansoddwr caneuon hudolus fel ‘Un Seren’ a ‘Niwl ar Fryniau Dyfed’, clasuron sydd yr un mor boblogaidd nawr ag erioed. Yn ogystal â’i gyfraniad i’n diwylliant, fe’i hanrhydeddir am ei waith gydag elusen Bobath, yn dilyn genedigaeth ei fab. Bu’n rhan o sefydlu yma yng Nghymru gangen o’r elusen, sy’n gweithio i wella ansawdd bywyd plant sydd â pharlys yr ymennydd a chyflyrau niwrolegol cysylltiedig.
Gwisg Las
[golygu | golygu cod]- Cledwyn Ashford, Cefn-y-bedd, Wrecsam - Mae wedi gweithio gyda rhai o sêr mwyaf y byd pêl droed, gan eu mentora pan yn ifanc a chadw llygad agos ar eu datblygiad dros y blynyddoedd. Ond mae ‘Cled’ yn fwyaf adnabyddus i ni fel aelod hanfodol o’r tîm sy’n rhedeg Maes yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos. Cled yw un o arwyr tawel y Brifwyl, ac fe’i hanrhydeddir eleni am ei gyfraniad hynod i’r Eisteddfod dros gyfnod o flynyddoedd lawer.
- Anwen Butten, Llanbedr Pont Steffan - Bowls sy’n mynd â bryd ac e’i hanrhydeddir am ei chyfraniad i’r gamp ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol, dros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain. Mae Anwen bellach yn canolbwyntio ar hyfforddi, ac wedi’i dewis yn aelod o Gomisiwn Athletwyr Tîm Cymru ar gyfer Gemau’r Gymanwlad y tro nesaf. Yn ogystal mae gan Anwen yrfa lwyddiannus fel nyrs arbenigol cancr y pen a’r gwddf yn Ysbyty Glangwili, gan weithio ar draws ardal Bwrdd Iechyd Hywel Dda.
- Jeff Davies, Y Fenni - Bu'n yn allweddol yn llwyddiant yr Eisteddfod yn Sir Fynwy yn 2016, Blaenau Gwent yn 2010 a Chasnewydd yn 2004. Yn dilyn Eisteddfod Casnewydd 1988, roedd Jeff yn un o’r criw a frwydrodd i sicrhau bod ysgol gynradd Gymraeg yn agor yn Y Fenni, a roedd Jeff yn un o’r llywodraethwyr cyntaf. Mae ganddo ddiddordeb byw mewn byd natur, ac mae’n arwain teithiau cerdded i adnabod bywyd gwyllt yn y Gymraeg ac mae hefyd yn arbenigwr ar hanes lleol ei ardal.
- Mary Davies, Dre-fach, Llanybydder - Mae wedi gweithio’n ddiflino dros fudiadau a digwyddiadau – nid yn ysbeidiol ond gyda dyfalbarhad a dycnwch – dros ddegawdau. Bu Mary’n ymwneud â phapur bro Clonc ers ei sefydlu, ac mae hefyd wedi chwarae rôl allweddol yn llwyddiant eisteddfodau lleol a chenedlaethol yn yr ardal. Mae’i chyfraniad i fudiadau lleol, gan gynnwys y Ffermwyr Ifanc, yr Urdd, ac Undodiaid y Smotyn Du, wedi bod yn enfawr dros y blynyddoedd.
- Glan Davies, Rhydyfelin, Aberystwyth - Un o Frynaman yn wreiddiol ac yn adnabyddus i genedlaethau o Gymry fel actor a digrifwr. Yn arweinydd carismatig nosweithiau llawen ledled Cymru, bu’n chwarae rhan Clem Watkins yn Pobol y Cwm o 1988 tan 1997. Cafodd ei ddewis i dywys Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth yn 2017. Mae’n adnabyddus am ei waith elusennol ac hefyd yn rhan greiddiol o’r elusen Calonnau Cymru, a lwyddodd i sicrhau dros 70 o ddiffibrilwyr cyhoeddus yng Ngheredigion a thros 1,300 ar draws Cymru gyfan.
- Cyril Evans, Tregaron - Bu’n gweithio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru am bron i ddeng mlynedd ar hugain, gan gyfrannu’n helaeth i fywyd a gwaith y sefydliad hwnnw. Fe’i hanrhydeddwyd gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru am ei ymroddiad i Eisteddfod Gadeiriol Tregaron, fel ysgrifennydd a chadeirydd y pwyllgor. Mae’n un o’r rhai sy’n cadw Ysgoldy Llanio, hen gartref ei deulu, ar agor, gan gynnal gwasanaeth a chwrdd yno’n rheolaidd.
- Anne Gwynne, Tregaron - Ymysg y cymdeithasau a’r sefydliadau sydd wedi elwa o’i gwaith mae cangen Bronnant o Ferched y Wawr, lle bu’n gyfrifol am gasglu deunydd ar gyfer cyfrol i ddathlu 50fed pen-blwydd y gangen, a Chymdeithas Hanes Tregaron. Mae hi hefyd yn gyfrifol am ddosbarth o ddysgwyr Cymraeg yn Nhregaron ond mae’i chyfraniad mwyaf efallai i Gymdeithas Edward Llwyd. Bu’n arwain nifer o deithiau cerdded o’r cychwyn, ac er 2004, bu’n cofnodi’r teithiau misol yn fanwl, ynghyd â nifer o luniau, gan greu archif amhrisiadwy ar gyfer y Gymdeithas.
- Ronan Hirrien - Magwyd mewn pentref bach yn ardal Brest, Llydaw, yn ddi-Lydaweg, ond yn ddwy ar bymtheg oed, aeth ati i ddysgu’r iaith mewn dosbarthiadau nos ac yn y brifysgol, cyn troi’i law at ddysgu’r Gymraeg. Cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu yw Ronan wrth ei waith. Cynhyrchodd ffilm ddogfen Aneirin Karadog: Barzh e Douar ar Varzhed, gan ddangos cryfder y diwylliant Cymraeg trwy gyfrwng y byd barddol, yr Eisteddfod a’r Orsedd.
- Arfon Hughes, Dinas Mawddwy - Ysgrifennydd Cwmni Nod Glas, a chyda cefnogaeth y tîm wedi sicrhau grantiau niferus i’r ardal er mwyn prynu Hen Siop yng nghanol y pentref, a’i throi’n gaffi crefft llwyddiannus a fflatiau ar gyfer pobl leol. Sefydlodd noson Y Fari Lwyd yn yr ardal ugain mlynedd yn ôl, ac mae’n trefnu’r Plygain yn lleol ers degawd a mwy. Mae’n un o sefydlwyr papur bro cylch Dolgellau, Llygad y Dydd.
- Dr Ruth Hussey, Lerpwl - Ymddeolodd o’i swydd fel Prif Swyddog Meddygol Cymru yn 2016. Bu’n gyfrifol am ddelio â’r epidemig mwyaf o’r frech goch yn ne Cymru ers i’r rhaglen brechu gychwyn. Ers ymddeol, mae galw am ei phrofiad a’i gwasanaeth o hyd yng Nghymru a Lloegr mewn sawl sefydliad a phwyllgor sy’n ymwneud â strategaethau iechyd. Yn wreiddiol o Lanrwst, mae ei chyfraniad i’r GIG yn arbennig, ac yn deillio o’i hawydd i weithio dros wella iechyd cymunedau cyfan, yn hytrach nag unigolion yn unig.
- Llŷr James, Caerfyrddin - Cyfrifydd siartredig hwn sy’n rhedeg ei fusnes ei hun ers yr 1980au. O’r cychwyn, roedd ei gwmni’n darparu gwasanaeth trwyadl Gymraeg. Dros y blynyddoedd, mae wedi pwyso i sicrhau bod yr awdurdodau’n cydnabod ffurflenni a dogfennau yn yr iaith. Bu’n hael ei gefnogaeth, gan noddi nifer o ddigwyddiadau a sefydliadau Cymraeg, ac mae’n Drysorydd ar Ysgol Farddol Caerfyrddin – ac mae yntau bellach yn cynganeddu hefyd.
- Y Barnwr John Milwyn Jarman, Penarth - Yn wreiddiol o ardal Y Drenewydd, gwasanaethodd fel bargyfreithiwr o 1980 tan 2007 pan ddaeth yn farnwr. Daeth yn drysorydd y gylchdaith ac yn bennaeth siambr adnabyddus, 9 Plas y Parc, Caerdydd. Fe’i penodwyd yn Gofiadur Llys y Goron yn 2000 ac yn Gwnsler y Frenhines yn 2001. Dysgodd y Gymraeg yn rhugl, ac mae’n cynnal achosion yn y Gymraeg, gan gryfhau Cymreictod ein cyfraith a’n llysoedd a dod â chyfiawnder yn nes at bobl Cymru.
- Siôn Jobbins, Aberystwyth - Fe’i ganed yn Zambia, ond symudodd y teulu i Gaerdydd pan oedd yn faban. Ers ei gyfnod yn fyfyriwr yn Aberystwyth, mae Siôn wedi ymgyrchu’n frwd dros y Gymraeg ac annibyniaeth i Gymru. Sefydlodd Ras yr Iaith yn 2014, ymgyrch sy’n mynd â’r iaith drwy gymunedau Cymru bob dwy flynedd ac ef yw sylfaenydd Parêd Gŵyl Ddewi Aberystwyth. Mae’n gadeirydd ‘Yes Cymru’ yn gyd-drefnydd y gorymdeithiau llwyddiannus dros annibyniaeth, a bu’n un o arweinwyr y cais i ennill parth dotCYMRU (.cymru) ar y we.
- Janet Mair Jones, Pencader - Mae wedi rhoi oes o wasanaeth yn lleol a chenedlaethol, ac mae’i drws bob amser yn agored os oes angen help. Mae’n gydlynydd ‘County Cars’, gwasanaeth lleol i unigolion oedrannus sy’n methu defnyddio bws neu yrru car. Mae’n rhan allweddol o dîm arolygwyr yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae hi a’i gŵr, Eric, wedi gwasanaethu’r Brifwyl am flynyddoedd, gyda Janet yn gofalu am fynediad yr Orsedd i’r Pafiliwn.
- Dr Esyllt Llwyd, Llanrug, Caernarfon - Meddyg teulu sy’n arwain dwy feddygfa leol gyda thua 6,000 o gleifion. Mae hefyd yn cynghori myfyrwyr lleol sy’n ystyried astudio meddygaeth. Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Cymru Marie Curie, a chefnogodd yr ymgyrch i sefydlu Ysgol Feddygol ym Mangor. Mae’n is-gadeirydd llywodraethwyr Ysgol Brynrefail.
- Ann Bowen Morgan, Llanbedr Pont Steffan - Yn wreiddiol o’r Rhyl, ers symud i Lambed mae’n chwarae rhan flaenllaw mewn pob math o weithgareddau cymdeithasol a diwylliannol, gan hyrwyddo’r Gymraeg ym mhob agwedd arni. Mae’n diwtor Cymraeg i Oedolion ym Mhrifysgol Aberystwyth. Bu’n flaenllaw yn y gwaith o sefydlu Gorymdaith Gŵyl Ddewi yn y dref, ac mae’n ymroddgar i brosiectau fel y Pwyllgor Croesawu Ffoaduriaid sy’n cefnogi teuluoedd o Syria sy’n byw yn lleol.
- Begotxu Olaizola, o Zarautz, Gwlad y Basg - Yn sicr hi ywr Fasges fwyaf adnabyddus yng Nghymru, a thros gyfnod o ddeng mlynedd ar hugain, cyfrannodd yn helaeth at feithrin a hyrwyddo’r berthynas rhwng Cymru a Gwlad y Basg. Cyflawnodd hyn fel sylwebydd a dehonglydd, fel trefnydd teithiau i unigolion a dirprwyaethau, fel tywysydd ac fel cyfieithydd. Daeth yn gyfarwydd i gylchoedd ehangach wrth gyfrannu i raglenni Cymraeg dros y blynyddoedd, gan sylwebu ar ddigwyddiadau yng Ngwlad y Basg a Sbaen yn gyffredinol.
- Glyn Powell, Pontsenni - Ysgolhaig, awdur, athro, amaethwr, arweinydd a chofnodwr hanes ei bobl. Treuliodd ei yrfa ym myd addysg, ac ymgyrchodd dros addysg Gymraeg mewn ardal a oedd yn dalcen caled, gan lwyddo i ennill cefnogaeth y gymuned yn ei chyfanrwydd ac adennill parch tuag at yr iaithyn lleol. Cyfrannodd yn helaeth i fyd amaeth, gan gynnwys fel arweinydd yr ymgyrch dros Epynt yn ystod cyfnod heriol clwy’r traed a’r genau, a phan oedd Cwm Senni dan fygythiad i’w foddi.
- Carys Stevens, Aberaeron - Anrhydeddir am ei chyfraniad i ofal diwedd-oes yng ngorllewin a chanolbarth Cymru yn enfawr. Mae’n argyhoeddedig fod gan bawb yr hawl i fyw a marw gydag urddas. Sefydlodd gyswllt â phob practis meddygol lleol, gan sicrhau bod tîm o staff, yn wirfoddolwyr a staff cyflogedig, wrth law i gefnogi cleifion a’u teuluoedd. Sefydlodd wasanaeth Hosbis yn y Cartref i fynd i’r afael â heriau darparu gofal lliniarol diwedd-oes i drigolion mewn cymunedau gwledig lleol.
- John Thomas, Yr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd yng Nghwm Tawe - Anrhydedir am ei gyfraniad i’r Gymraeg drwy’r system gyfiawnder. Bu’n Farnwr Uchel Lys ac yn Farnwr Llywyddol Cylchdaith Cymru cyn ei ddyrchafu i’r Llys Apêl, ac yn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr. Drwy’i waith yn cadeirio’r Comisiwn am Gyfiawnder yng Nghymru, gwnaeth argymhellion pellgyrhaeddol er lles pobl ein gwlad, gan gynnwys datganoli cyfrifoldeb dros faes cyfiawnder i Senedd Cymru, ac argymhellion cadarn am y Gymraeg ym maes y gyfraith a gweinyddu cyfiawnder.
- Clive Wolfendale, Llandrillo yn Rhos - Yn gyn-Brif Gwnstabl dros dro gyda Heddlu Gogledd Cymru, yn brif weithredwr CAIS, yr Asiantaeth Cyffuriau ac Alcohol yng Nghymru. Dysgodd y Gymraeg gyda’r heddlu, ac mae'n cefnogi a hyrwyddo pwysigrwydd gwasanaethau Cymraeg ar gyfer pobl sy’n dioddef o ddibyniaeth, salwch meddwl a sgil-effeithiau trawma. Mae’n drysorydd Nant Gwrtheyrn, ar ôl iddo ef ei hun brofi gwerth y Ganolfan wrth ddysgu Cymraeg. Mae’n ymddiddori mewn cerddoriaeth ac mae’n gyn-arweinydd Band Tref Llandudno ac yn arweinydd Band Swing Llandudno.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyn Nicholas yn ennill Medal Goffa Syr TH Parry-Williams. Eisteddfod Genedlaethol (20 Mai 2022). Adalwyd ar 1 Awst 2022.
- ↑ Lluniau Dydd Sadwrn: Eisteddfod Ceredigion , BBC Cymru Fyw, 30 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd ar 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Eisteddfod: Covid 'wedi cael effaith' ar faint sy'n cystadlu , BBC Cymru Fyw, 30 Gorffennaf 2022.
- ↑ Cyrraedd y Maes (31 Gorffennaf 2022). Adalwyd ar 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ 'Siom' yr Eisteddfod Genedlaethol wedi 'twyll' tocynnau am ddim , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Elin Jones: 'Gorhawlio' tocynnau Eisteddfod 'wedi'i setlo' , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Yr Eisteddfod “wedi mynd ar ofyn” syrcas yn sgil diffyg adeiladau , Golwg360, 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ 'Mesurau mewn lle' i ddelio â glaw ar y maes , BBC Cymru Fyw, 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Llŷr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion , BBC Cymru Fyw, 5 Awst 2022.
- ↑ Llyr Gwyn Lewis yn ennill Cadair Eisteddfod Ceredigion. Eisteddfod Genedlaethol (5 Awst 2022).
- ↑ Eisteddfod Genedlaethol 2022: Esyllt Maelor yn ennill y Goron , BBC Cymru Fyw, 1 Awst 2022.
- ↑ Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 2 Awst 2022.
- ↑ Sioned Erin Hughes yn ennill Medal Ryddiaith Eisteddfod Ceredigion , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2022.
- ↑ Eisteddfod 2022: Edward Rhys-Harry yn ennill Tlws y Cerddor , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2022.
- ↑ Eisteddfod 2022: Gruffydd Siôn Ywain yn ennill y Fedal Ddrama , BBC Cymru Fyw, 4 Awst 2022.
- ↑ "Cyhoeddi Urddau'r Orsedd Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2025-08-03.
- ↑ "Mark Drakeford i gael ei urddo i Orsedd yr Eisteddfod Genedlaethol". newyddion.s4c.cymru. 2025-08-03. Cyrchwyd 2025-08-03.
- ↑ "Huw Edwards wedi'i ddiarddel o'r Orsedd". BBC Cymru Fyw. 2024-08-08. Cyrchwyd 2024-08-08.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod 2022 ar wefan yr Eisteddfod Genedlaethol Archifwyd 2022-07-31 yn y Peiriant Wayback
- Eisteddfod 2022 ar wefan BBC Cymru
