Meinir Pierce Jones
Meinir Pierce Jones | |
---|---|
Ganwyd | 1957 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | awdur, cyfieithydd |
Plant | Casia Wiliam |
Cyfieithydd, golygydd ac awdur o Gymraes yw Meinir Pierce Jones (ganed 1957). Addysgwyd Meinir yn Ysgol Nefyn, Ysgol Glan y Môr, Pwllheli a Choleg Prifysgol Cymru, Bangor.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf ar gyfer oedolion, Y Gongol Felys yn 2005 ac fe'i dewisiwyd ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006.[1] Mae hi wedi ysgrifennu dau lyfr i blant yn y gyfres Chwedlau o Gymru, sef Bargen Siôn ac Y Bychan Benthyg.
Enillodd Gwobr Goffa Daniel Owen am ei nofel Capten yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ceredigion 2022.[2]
Gwaith
[golygu | golygu cod]Ei swydd gyntaf oedd swyddog golygyddol gyda'r Cyngor Llyfrau yn Aberystwyth. Ers hynny bu'n gweithio fel awdur a chyfieithydd a sgriptwraig yn bennaf. Bu hefyd yn gweithio fel rheolwr prosiect i ailagor a rhedeg Amgueddfa Forwrol Llŷn rhwng 2011 a 2019.
Yn fwy diweddar roedd yn gweithio fel golygydd creadigol gyda Gwasg y Bwthyn yng Nghaernarfon.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Cafodd ei magu ar fferm ar gyrion Nefyn ac ar ôl crwydro dipyn daeth adref, ac yno y mae hi a'i chymar Geraint yn byw ers chwarter canrif a mwy. Mae ganddyn nhw bedwar o blant - Math, Casia, Efa a Sabel.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau plant
[golygu | golygu cod]- Pen Tymor (Gwasg Gomer, 1986)
- Loti (Gwasg Gomer, Ionawr 1989)
- Modryb Lanaf Lerpwl (Gwasg Gomer, Ionawr 1991)
- Iechyd Da, Modryb! (Gwasg Gomer, Ionawr 1994)
- Campiaith 1 - Llyfr Canllawiau Iaith i Blant 7-9 Oed (Gwasg Taf, Ionawr 1997)
- Campiaith 2 - Llyfr Canllawiau Iaith i Blant 9-11 Oed (Gwasg Taf, Ionawr 1997)
- Bargen Siôn (Gwasg Gomer, Gorffennaf 1998)
- Y Bychan Benthyg (Gwasg Gomer, Mai 1999)
- Viva Cymro! (Gwasg Gomer, Awst 2000)
- Looking for Cymro (Pont Books, Awst 2000)
- Un o Fil (Gwasg Gomer, Medi 2001)
- Taid ar Binnau (Gwasg Gomer, Awst 2004)
- Mymryn o Dric! (Gwasg Gomer, Tachwedd 2005)
- Y Cwestiwn Mawr (Y Lolfa, Mawrth 2010)
Llyfrau oedolion
[golygu | golygu cod]- Y Gongol Felys (Gwasg Gomer, Mai 2005)
- Lili Dan yr Eira (Gwasg Gomer, Chwefror 2008)
Eraill
[golygu | golygu cod]- Cyfres Llyfrau Cwis: Llyfr Cwis, gyda Geraint Williams (Gwasg Gwynedd, Rhagfyr 2001)
- Y Gongol Felys, crynoddisg, addasiad llafar/talfyriad, adroddwyd gan Jennifer Vaughan) (Tympan, Tachwedd 2007)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Rhestr Awduron Cymru > JONES, MEINIR PIERCE. Llenyddiaeth Cymru. Adalwyd ar 16 Mehefin 2011.
- ↑ Meinir Pierce Jones yn ennill Gwobr Goffa Daniel Owen , BBC Cymru Fyw, 2 Awst 2022.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Adnabod Awdur: Meinir Pierce Jones Archifwyd 2010-02-24 yn y Peiriant Wayback, Cyngor Llyfrau Cymru