Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Aberhonddu 1889 yn Aberhonddu, Brycheiniog (Powys), o ddydd Mawrth 27 Awst hyd ddydd Gwener 30 Awst, 1889, ar faes yng Ngherrigcochion, Aberhonddu. Roedd y pafiliwn anferth, a gynllunwyd i'r pwrpas gan un Mr Clark o Stoke-on-Trent, yn medru dal 8,000 o bobl. Cawsai'r Eisteddfod Genedlaethol ei chyhoeddi ar y Maen Llog yn Aberhonddu ar 10 Gorffennaf 1888 gan yr Archdderwydd Clwydfardd gyda chymorth Hwfa Môn, Dewi Wyn o Essyllt, Watcyn Wyn, Tudno ac eraill. Dywedir fod dros 2,000 wedi gwylio'r orymdaith trwy'r dref.
Darllenodd John Morris-Jones bapur ar bwnc orgraff yr iaith Gymraeg sy'n garreg filltir yn hanes sefydlu'r orgraff diweddar.
Enillwyd y Gadair gan E. Davies (Dyfed) am awdl ar y Beibl Cymraeg.
Enillwyd y Goron gan Howell Elvet Lewis (Elfed) am "arwrgerdd" ar y testun "Llywelyn Ein Llyw Olaf".
Enillodd Pedr Hir y wobr am gyfansoddi rhamant (yn cyfateb i'r Fedal Ryddiaith heddiw) am ei stori 'Rhamant Syr Rhys ap Thomas'; y beirniad oedd neb llai na'r nofelydd enwog Daniel Owen.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- Cofnodion a chyfansoddiadau buddugol Eisteddfod Aberhonddu, 1889, dan olygyddiaeth E. Vincent Evans (Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1889).