Howell Elvet Lewis (Elfed)
- Am y bardd mae'r dudalen hon. Am ddefnyddiau eraill, gweler Elfed.
| Howell Elvet Lewis | |
|---|---|
| Ffugenw | Elfed |
| Ganwyd | 14 Ebrill 1860 Blaen-y-coed |
| Bu farw | 10 Rhagfyr 1953 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd |
| Plant | Malcolm Lewis |
Bardd ac emynydd oedd Howell Elvet Lewis (14 Ebrill 1860 – 10 Rhagfyr 1953), sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Elfed. Roedd yn weinidog Annibynnol ac yn Archdderwydd rhwng 1924 a 1928. Cysylltir ei enw â mudiad Y Bardd Newydd.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn y Gangell, Blaen-y-coed, Sir Gaerfyrddin, ac ef oedd yr hynaf o ddeg o blant a anwyd i was tŷ.[2] Derbyniodd addysg yn ysgol y capel lleol a dod yn athro-ddisgybl i'r plant iau, fel fyddai'n gyffredin i ddisgyblion medrus yn y cyfnod. Yn 14 oed aberthodd ei rieni tlawd lawer i'w anfon i ysgol ramadeg yng Nghastell Newydd Emlyn; roedd eisoes yn pregethu ac anfonwyd ef yn 16 oed i Goleg Presbyteraidd Caerfyrddin i hyfforddi fel gweinidog. Astudiodd yr iaith Almaeneg tra yn y coleg.[2]
Wedi cwblhau ei astudiaethau yn 1880, derbyniodd alwad i ddod yn weinidog ar eglwys Annibynol Saesneg ei hiaith ym Mwcle, Sir y Fflint. Wedi pedair mlynedd yno symudodd i eglwys yn Hull; lle'r arhosodd tan 1891;[2] er ei fod yn Lloegr am y cyfnod hwn fodd bynnag dyma pryd y dechreuodd ymhyfrydu yn llenyddiaeth Gymraeg, gan farddoni a chyfansoddi traethodau llenyddol.

Ail hanner yr 1880au a'r 1890au oedd anterth ei boblogrwydd fel bardd, wedi iddo ennill Coron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 1888 am ei bryddest, Y Sabbath yng Nghymru, ynghyd â'r rhieingerdd a thraethawd ar Ceiriog; soniwyd am Eisteddfod y flwyddyn honno fel 'Eisteddfod Elfed' oherwydd ei lwyddiannau niferus.[2] Enillodd y Goron am yr eildro yn Aberhonddu y flwyddyn olynnol am Llywelyn ein Llyw Olaf, a'r Gadair yng Nghaernarfon yn 1894 am awdl ar Hunan-Aberth. Cyhoeddwyd dwy gyfrol o farddoniaeth o'i eiddo dan y teitl Caniadau yn 1895 a 1901, ynghyd â chyfrol o ysgrifau, Plannu Coed yn 1898. I'r cyfnod hwn hefyd y perthyn llawer o'i emynau mwyaf poblogaidd.[2]
Reodd wedi dychwelyd i Gymru yn 1891 a dod yn weinidog mewn capel Saesneg yn Llanelli.[2] Roedd yn rhan o fudiad Cymru Fydd, a threchu cynnig ganddo ef mewm cyfarfod yng Nghasnewydd yn 1896 arweiniodd at ddymchwel y mudiad hwnnw.[3]

Yn 1898 symudodd i Lundain i wasanaethu fel Gweinidog ar gapel yn Harecourt; yn 1904 daeth yn Weinidog ar gapel Cymraeg y Tabernacl yn King's Cross, ei gapel olaf fel gweinidog, lle gwasanaethodd am nifer o ddegawdau gan ddod yn ffigwr dylanwadol iawn yng nghylchoedd Cymry'r ddinas. 1904 oedd blwyddyn y Diwygiad a chyfrannodd Elfed at ledaenu'r brwdfrydedd i Gymry alltud y brifddinas.
Cyfranodd yn ddiwyd hefyd at fywyd llenyddol ei oes gan ysgrifennu erthyglau a thraethodau beirniadol, gwasanaethu fel beirniad eisteddfodol gan gynnwys yn y prif Gystadleuthau ac fel Archdderwydd rhwng 1924 ac 1928; fodd bynnag dim ond ychydig iawn o farddoniaeth Gymraeg a gyfansoddodd ar ôl 1900. Yn 1909 cyfunwyd y ddwy gyfrol o Caniadau, oedd eisoes wedi'u cyhoeddi, mewn un llyfr ac ychwanegu'r awdl ar Hunan-Aberth a enillodd iddo'r Gadair, ond yn 1894 y lluniwyd y gerdd honno. Daliodd i gyfrannu at gyfnodolion, a chyhoeddodd cyfieithiad o ddrama Almaeneg Friedrich Schiller Gwilym Tel yn 1924 fel rhan o Gyfres y Werin; cyhoeddwyd cyfrol o farddoniaeth Saesneg, Songs of Assisi yn 1938, a chyfrol fer o ysgrifau a cherddi, Lampau'r Hwyr yn 1945.
Erbyn yr 1930au roedd yn gynyddol ddall, ond â chymorth ei drydedd gwraig, Mary Davies, llwyddodd i barhau fel Gweinidog hyd nes iddo ymddeol yn 1940.[2] Symudodd wedyn i Benarth. Yn 85 oed, roedd yn bresennol yn Eisteddfod 1945 pan gyhoeddwyd diwedd yr Ail Ryfel Byd; adroddodd gweddi gyhoeddus fel rhan o'r gwasanaeth diolchgarwch a drefnwyd.[4]
Bu farw ym Mhenarth yn 1953.
Bywyd Personol a Theulu
[golygu | golygu cod]Priododd Elfed deirgwaith. Priododd ei wraig gyntaf, Mary Taylor o Fwcle yn 1887, a ganwyd iddynt saith o blant. Bu farw hithau yn 1918; pum mlynedd yn ddiweddarach yn 1923 priododd Elfed Elizabeth Lloyd ond bu farw hithau yn 1927, ond wedi hynny cyfarfu â Mary Davies, aelod o'i gynulleidfa yn Nhabernacl Kings Cross, a'i phriodi hithau yn 1930.[2]
Daeth nifer o frodyr iau Elfed yn adnabyddus mewn meysydd amrywiol. Bu ei frawd Tom yn Athro Hebraeg ym Manceinion ac yn brifathro Coleg Diwinyddol Aberhonddu am 39 mlynedd. Roedd brawd arall, Dan, yn newyddiadurwr yn Lerpwl ac wedyn yn olygydd y Glamorgan Free Press ym Mhontypridd. Efallai mai'r enwocaf y tu allan i Gymru oedd y pensaer a pheirianwr sifil Lewis Holme Lewis. Teilwr oedd John Lewis, tadcu Elfed Lewys, ac yr unig un o'r brodyr a chwiorydd a fagodd blant yn Gymraeg.[5]
Gwaddol Llenyddol
[golygu | golygu cod]Ar ddiwedd y 19g roedd Elfed ymhlith beirdd mwyaf adnabyddus a llwyddiannus ei wlad. Ond er iddo brofi'n ffigwr cyhoeddus poblogaidd yn yr 20g a byw tan 1953, ysgrifennodd bron dim barddoniaeth Gymraeg ar ôl 1900 ac fel bardd mae'n perthyn felly i'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; "nid oes iddo ran o werth ym mywyd barddonol yr ugeinfed ganrif."[6]
Cymharol fach yw bri barddonaieth Elfed heddiw; mae'r Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru yn dweud yn blaen "Ni pherthyn dim arbenigrwydd i'w farddoniaeth, ag eithrio ei emynau."[1] Tueddir i'w gysylltu â mudiad Y Bardd Newydd er dylir nodi bod eraill wedi gwrthod y term wrth drafod Elfed.[7] Beirniadwyd y mudiad hwn am feithdeb ac aneglurdeb eu barddoniaeth, ac ystyrir y cyfnod pan oedd Elfed ar ei anterth fel bardd yn un o'r cyfnodau salaf yn hanes barddoniaeth Gymraeg.[8] Fodd bynnag, cydnabyddir hefyd bod rhai agweddau o waith Elfed yn rhagflaenu'r dadeni mewn barddoniaeth Gymraeg a welwyd mewn ymateb i'r Bardd Newydd ar ddechrau'r 20g yng ngwaith beirdd fel T. Gwynn Jones ac W. J. Gruffydd.[1][6] Roedd Elfed yn gyfarwydd â llenyddiaeth a thraddodiadau diwylliant gwerin Cymru a'r Chwedlau, yn ogystal â'r traddodiad Rhamantaidd ehangach,[1][6] ac yn ei farddoniaeth orau, gan gynnwys ei gerddi mwyaf adnabyddus fel 'Gwyn ap Nudd' (telyneg am frenin y Tylwyth Teg) a'r 'Ddau Frawd', llwyddodd "apelio at edmygwyr Ceiriog ac Islwyn drwy gyfuno pertrwydd y nail â rhyw fesur o fyfyrdod athronyddol y llall".[6] Yn ei gyfrol ar yr arwrgerdd Gymraeg nododd E. G. Millward bod pryddest Elfed ar Llywelyn ein Llyw Olaf yn fwy "llawer mwy darllenadwy na'r rhan fwyaf o'i gyfoeswyr".[9] Ym marn Robert Rhys Elfed yw "bardd mwyaf diddorol" ei gyfnod.[6]
Ym maes yr emyn gwaneth ei gyfraniadau barddonol mwyaf poblogaidd, ac mae eu poblogrwydd yn parhau hyd heddiw gyda chymaint â 44 o emynau o'i eiddo yn y casgliad safonol Caneuon Ffydd, mwy nag unrhyw emynydd arall heblaw Williams Pantycelyn. Cyhoeddodd ei emyn gyntaf, O Dywysog Pob Daioni, yn 1881 ar ddechrau ei yrfa a daliodd i'w hysgrifennu am weddill ei oes.[10] Ymhlith yr enwocaf o'i emynau yw'r emyn wladgarol Cofia'n gwlad Benllywydd tirion, sydd wedi'i ddisgrifio fel "math o ail anthem genedlaethol";[11] mae ei emyn Saenseg Lord of Light, Your Name Outshining wedi'i chyhoeddi mewn llyfrau emynau ym Mhrydain ac Unol Daleithau America.[12]
Fel hanesydd llên, cyhoeddodd gyfrolau ar waith Ceiriog, Morgan Rhys ac Ann Griffiths; ym marn ei gofiannydd Dafydd Owen fodd bynnag nid oedd yn feirniad craff.[13]
Llyfryddiaeth ddethol
[golygu | golygu cod]Gwaith Elfed
[golygu | golygu cod]- My Christ and other poems (1891). Cerddi Saesneg.
- Caniadau (Dwy gyfrol: 1895, 1901; daethpwyd a'r ddwy ynghyd gyda rhai ychwanegiadau mewn un llyfr yn 1909). Cerddi Cymraeg.
- Planu Coed (1898). Ysgrifau.
- Gwilym Tel (1924). Cyfieithiad o Ddrama.
- Songs of Assisi (1938). Cerddi Saesneg.
- Lampau'r Hwyr (1945). Ysgrifau a cherddi Cymraeg.
Astudiaethau
[golygu | golygu cod]- Emlyn G. Jenkins, Cofiant Elfed 1860-1953 (Aberystwyth 1957)
- Dafydd Owen, Elfed a'i Waith (Abertawe 1964)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 Stephens, Meic (gol.) (1997) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.435
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 2.7 "Lewis, Howell Elvet ('Elfed'; 1860–1953), gweinidog (A); emynydd, bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ Millward, E. G. 1998 Yr Arwrgerdd Gymraeg: Ei Thwf a'i Thranc, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t280
- ↑ Llwyd, Alan (2006) Y Gaer Fechan Olaf, Cyhoeddiadau Barddas. t.119
- ↑ Elfed - Cawr ar goesau byr. Ioan Robers. Lolfa 2000
- ↑ 6.0 6.1 6.2 6.3 6.4 Rhys, Robert "Llenyddiaeth Gymraeg y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg" yn Geraint Jenkins (gol.) (1999) Gwnewch Bopeth yn Gymraeg, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.261.
- ↑ J. Dyfnallt Owen, "Coffâd y Parch. H. Elvet Lewis", Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion, 1953, t.118.
- ↑ Stephens, Meic (1997), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, t.36.
- ↑ Millward, E. G. 1998 Yr Arwrgerdd Gymraeg: Ei Thwf a'i Thranc, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t278
- ↑ Jarvis, Branwen (1990–91). "Elfed: Emynydd yn ei Oes". Bwletin Cymdeithas Emynau Cymru 3 (3): 94–107. https://journals.library.wales/view/1045025/1045818/1#?xywh=-2516%2C-233%2C7495%2C3968. Adalwyd 3 April 2020.
- ↑ Jarvis, Branwen (2004). "Lewis, Howell Elvet [pseud. Elfed] (1860–1953)". Oxford Dictionary of National Biography (Arlein). Prifysol Rhydychen.
- ↑ "Lord of Light, Whose Name Outshineth". Hymnary.org.[dolen farw]
- ↑ Dafydd Owen (1964), Elfed a'i Waith Abertawe