Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014
 ← Blaenorol →  Nesaf
Lleoliad Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli
Cynhaliwyd 2 - 8 Awst 2014
Archdderwydd Christine James
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Gethin Thomas
Llywydd John Meurig Thomas
Nifer yr ymwelwyr 143,502
Enillydd y Goron Guto Dafydd
Enillydd y Gadair Ceri Wyn Jones
Gwobr Daniel Owen Lleucu Roberts
Gwobr Goffa David Ellis Andrew Matthews
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Elliw Alwen
Gwobr Goffa Osborne Roberts Meinir Wyn Roberts
Gwobr Richard Burton Steffan Cennydd
Y Fedal Ryddiaith Lleucu Roberts
Medal T.H. Parry-Williams Alun Jones
Y Fedal Ddrama Dewi Wyn Williams
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Joella Price
Tlws y Cerddor Sioned Eleri Roberts
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Eirlys Myfanwy Davies
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Sean Edwards
Medal Aur am Grefft a Dylunio Susan Phillips
Gwobr Ivor Davies Marian Delyth
Gwobr Dewis y Bobl Mai Thomas
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Sera Wyn Walker
Medal Aur mewn Pensaernïaeth Loyn & Co
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Richard Timmins
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Goronwy Wynne
Gwefan www.eisteddfod.org.uk

Llanelli oedd lleoliad Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014, a gynhaliwyd, fel ag yn 2000, ar faes arfordirol Llanelli. Cyhoeddwyd yr Eisteddfod yng Ngŵyl y Cyhoeddi ar 29 Mehefin 2013 gyda dros fil o bobl yn gorymdeithio drwy dref Caerfyrddin.[1] Cyfanswm nifer yr ymwelwyr oedd 143,502.[2]

Cafwyd sawl cyngerdd gan gynnwys: Gala Agoriadol gyda chaneuon o sioeau cerdd poblogaidd gan gynnwys Grav, Nia Ben Aur, Pum Diwrnod o Ryddid ac Er Mwyn Yfory. Ar y nos Sadwrn cyntaf, cynhaliwyd cyngerdd gyda: Wynne Evans, John Owen-Jones, Shan Cothi, a Kizzy Crawford. Ymhlith y perfformwyr eraill roedd: Nigel Owens, Tri Tenor Cymru, Huw Chiswell, Gillian Elisa, Gwenda a Geinor a Chôr y Wiber. Noson glasurol oedd ar y nos Iau, sef Messe Solennelle, Gounod a Requiem, Faure gyda Fflur Wyn, Trystan Llŷr Griffiths, Gwion Tomos, a Cherddorfa Siambr Cymru, dan arweiniad Grant Llewellyn.

O fewn tafliad carreg i'r maes y sefydlwyd y Maes Carafanau a'r Gwersylla Teuluol - ar dir Castell y Strade.

Llenyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Crëwyd y Goron gan Angharad Pearce Jones a chafodd ei rhoi'n wobr am ddilyniant o ddeg o gerddi di-gynghanedd heb fod dros 250 llinell, dan y teitl ‘Tyfu’. Guto Dafydd oedd enillydd y Goron. Yn ôl Dylan Iorwerth, un o'r beirniaid, Maen nhw'n gerddi sy'n cyffroi wrth eu darllen ac wrth weithio yn y meddwl.[3] ‘Lloches’ oedd teitl y Gadair ac fe'i rhoddwyd am awdl ar fwy nag un o’r mesurau caeth heb fod dros 250 llinell. Yr Athro Prifysgol, Damian Walford Davies o Brifysgol Aberystwyth oedd yn ail.[4]

Robert Hopkins, crefftwr lleol, oedd gwneuthurwr y Gadair a'r enillydd oedd Ceri Wyn Jones. Dau o'r tri beirniaid yn unig a fynegodd fod ei gerdd yn deilwng o'r Gadair; anghytunodd Alan Llwyd gan fynegi: Mae Cadwgan yn gynganeddwr hynod o fedrus, mae'n amlwg, ond methodd gyda'r awdl hon, yn fy marn i.[5] Ar y llaw arall, barn Idris Reynolds oed, Fe'm cyffyrddwyd gan awdl "Cadwgan". Mae'n fardd disglair ac yn llwyr deilyngu Cadair Eisteddfod Sir Gâr eleni.

Enillydd y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen oedd Lleucu Roberts sy'n wreiddiol o Bow Street, Ceredigion ond sy'n byw ers tua 1992 yn Rhostryfan ger Caernarfon. Rhoddwyd Gwobr Daniel Owen am nofel heb ei chyhoeddi a mynegodd Bethan Mair, un o'r tri beirniaid, Fe'm rhwydwyd gan y nofel gymesur, hardd a theimladwy, "Rhwng Edafedd"... Saith stori fer a enillodd iddi'r Fedal Ryddiaith, yn olrhain oes merch, drwy wahanol gyfnodau saith o ferched mewn gwahanol rannau o Gymru. Dyma lenor penigamp, medd Catrin Beard, sydd wedi saernïo pob stori'n grefftus a chaboledig.

Dewi Wyn Williams oedd enillydd y Fedal Ddrama.

Gwaith buddugol coll Cyfansoddiadau a Beirniadaethau[golygu | golygu cod y dudalen]

Ni ymddangosodd gwaith buddugol y gystadleuaeth Monolog yng Nghyfansoddiadau a Beirniadaethau yr Eisteddfod. “Nid yw’r Eisteddfod yn ystyried bod y deunydd arobryn yn addas, am wahanol resymau, i’w gyhoeddi yng nghyfrol y Cyfansoddiadau a Beirniadaethau.” oedd sylw'r Eisteddfod am waith Rhodri Trefor.[6]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Enillydd Tlws y Cerddor oedd Sioned Eleri Roberts sydd o Fangor ac sy'n gweithio'n aml gydag Ensemble Cymru ac sy'n arbenigo ar y clarinet. Mae hi hefyd yn diwtor ym Mhrifysgol Bangor a dyma oedd y tro cyntaf iddi gystadlu mewn cystadleuaeth gyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.[7]

Maes B[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymhlith yr artistiaid a ymddangosodd ym Maes B roedd: Y Bandana, Yr Ods, Sen Segur, Colorama, Gwenno Saunders, Y Reu, Mellt, Gramcon, Al Lewis Band, Y Cledrau, Sŵnami a Chowbois Rhos Botwnnog.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol; adalwyd 23 Awst 2014
  2. Gwefan yr Eisteddfod Genedlaethol; Teitl: Ffigurau Ymwelwyr Eisteddfod 2014; adalwyd 23 Awst 2014
  3. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; tudalen 33
  4. Golwg 360; Teitl: Damian yn ail am y Goron; Awst 7, 2013; adalwyd 23 Awst 2014.
  5. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; tudalen 11
  6.  Awdur monolog “sociopath” yn fodlon sensro er mwyn cyhoeddi. golwg360.com (20 Awst 2014). Adalwyd ar 26 Awst 2014.
  7. Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014; tudalen 46