Steffan Cennydd

Oddi ar Wicipedia
Steffan Cennydd
Ganwyd1995 Edit this on Wikidata
Caerfyrddin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw Steffan Cennydd (ganwyd 1995).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Magwyd Steffan yn Llangynnwr ger Caerfyrddin a mynychodd Ysgol Gyfun Bro Myrddin. Bu'n aelod o Ysgol Berfformio Dyffryn Tywi rhwng 10 a 15 oed lle cafodd ei brofiad cyntaf o actio. Enillodd wobr Richard Burton yn Eisteddfod Genedlaethol 2014.[1]

Aeth i astudio yn Ysgol y Guildhall, Llundain. Yn ystod ei gyfnod yn y coleg, perfformiodd mewn nifer o gynyrchiadau drama yn cynnwys chwarae Michael Lloyd yn August, addasiad Julian Mitchell o Uncle Vanya gan Chekhov, rhan Scott yn Herons gan Simon Stephens a rhan Bela Zangler yn sioe gerdd haf y coleg, Crazy For You. Cynrychiolodd y coleg yng Ngŵyl Sam Wanamaker Festival yn Theatr y Glôb a cystadlodd yn rownd derfynol Gwobr Michael Bryant yn y National Theatre. Yn 2017 enillodd wobr fawreddog y coleg, y Wobr Aur am Actio.[2] Graddiodd o'r Coleg yng Ngorffennaf 2017 gyda Gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf.[3]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ei ran cyntaf ar ffilm oedd Kevin yn y ffilm Gymreig Last Summer.[3] Yn 2019 ymddangosodd yn y gyfres ddrama Enid a Lucy. Am y rhan yma fe'i enwebwyd yn y categori Torri Trwodd yng ngwobrau BAFTA Cymru 2019.[4] Ymddangosodd hefyd yn 2il gyfres Craith.[5]

Yn 2021 ymddangosodd mewn prif ran yn Yr Amgueddfa, cyfres ddrama gan Fflur Dafydd.[6] Yr un flwydd, chwaraeodd ran Guto yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod]

Ffilm[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2018 Last Summer Kevin Morris
2021 Gwledd Guto
2021 Sweetheart Nathan

Teledu[golygu | golygu cod]

Blwyddyn Teitl Rhan Cynhyrchiad Nodiadau
2019 Enid a Lucy Denfer S4C
2019 Craith Connor Pritchard S4C 2il gyfres
2021 The Pembrokeshire Murders Jack Wilkins ITV Drama ffeithiol
2021 Yr Amgueddfa Caleb S4C
2024 Criminal

Record

DC Jed

Stanning

Apple TV Drama

ffuglen

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Steffan to appear in major new S4C drama .
  2.  The Guildhall School of Music & Drama announces the Gold Medal winners for Acting and Technical Theatre 2017. Guildhall School of Music & Drama (16 Awst 2017). Adalwyd ar 28 Mai 2020.
  3. 3.0 3.1  Watermill Theatre - Under Milk Wood. Adalwyd ar 28 Mai 2020.
  4. 23 o enwebiadau BAFTA Cymru i S4C , S4C.
  5.  Steffan Cennydd (Connor Pritchard). BBC (3 Chwefror 2020). Adalwyd ar 28 Mai 2020.
  6.  Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus. S4C (7 Ionawr 2021). Adalwyd ar 27 Mai 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]