Yr Amgueddfa

Oddi ar Wicipedia
Yr Amgueddfa
Genre Drama
Serennu Nia Roberts
Steffan Rhodri
Steffan Cennydd
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 2
Nifer penodau 12 (Rhestr Penodau)
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd
gweithredol
Jon Williams
Cynhyrchydd Paul Jones
Golygydd Dafydd Hunt
Lleoliad(au) Caerdydd
Sinematograffeg Paul Andrew
Amser rhedeg 60 munud
Cwmnïau
cynhyrchu
Boom Cymru
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C
Fformat llun 1080i (16:9 HDTV)
Darllediad gwreiddiol 30 Mai 2021
Cysylltiadau allanol
Proffil IMDb

Rhaglen ddrama Gymraeg yw Yr Amgueddfa sydd wedi ei leoli yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd. Creuwyd a sgriptiwyd y gyfres gan Fflur Dafydd ac fe'i gynhyrchwyd gan Boom Cymru.

Disgrifwyd y ddrama gan S4C fel thriller cadwraethol, sydd yn datguddio byd tywyll a pheryglus trosedd celf. Cychwynwyd ffilmio'r gyfres yn Ionawr 2021, gyda'r darllediad cyntaf ar ddiwedd Mai 2021. Fe'i darlledwyd yn y slot ddrama arferol am 9pm nos Sul.[1]

Ar 26 Rhagfyr 2022, rhyddhawyd holl benodau yr ail gyfres i'w ffrydio ar Clic ac iPlayer. Dangoswyd yr ail gyfres yn wythnosol ar S4C gan gychwyn o nos Sul, 1 Ionawr 2023.

Mae'r ddrama yn cynnwys Clogyn aur yr Wyddgrug

Cast[golygu | golygu cod]

Penodau[golygu | golygu cod]

Cyfres 1[golygu | golygu cod]

# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [2]
1"Pennod 1"Rhys PowysFflur Dafydd30 Mai 2021 (2021-05-30)o dan 17,000
Drama yn olrhain cwymp hunan ddinistriol Della Howells, Cyfarwyddwr Amgueddfa yn ei 40au sy'n dechrau perthynas beryglus gyda dyn ifanc, ac yn disgyn o fod yn ddynes dosbarth canol barchus i fod yn rhan o is-fyd troseddol y byd celf.
2"Pennod 2"Rhys PowysFflur Dafydd6 Mehefin 2021 (2021-06-06)o dan 19,000
Wrth i Della Howells gychwyn ar ei swydd newydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yr Amgueddfa, mae ei pherthynas cymhleth gyda Caleb yn dwyshau. Beth yw cymhellion Caleb wrth iddo feithrin perthynas gyda Della a'i mab, Daniel, ar yr un pryd?
3"Pennod 3"Rhys PowysFflur Dafydd13 Mehefin 2021 (2021-06-13)o dan 17,000
Mae perthynas Della a Caleb yn dwysau. Yn ystod ymweliad boreol Della â chartref Caleb, pwy sy'n galw heibio'n gwbl ddirybudd ond Daniel, ei mab. Am ba mor hir mae'r ddau gariad yn mynd i fedru cadw eu perthynas yn gyfrinach?
4"Pennod 4"Rhys CarterFflur Dafydd20 Mehefin 2021 (2021-06-20)o dan 17,000
Mae perthynas Della a Caleb yn dwysau. Yn ystod ymweliad boreuol Della â chartref Caleb, pwy sy'n galw heibio'n gwbl ddirybudd ond Daniel, ei mab. Am ba mor hir mae'r ddau gariad yn mynd i fedru cadw'u cyfrinach.
5"Pennod 5"Rhys CarterFflur Dafydd27 Mehefin 2021 (2021-06-27)o dan 16,000
Mae bywyd Della yn dirywio ymhellach. Wedi iddi gweryla â Sadie, mae ei ffrind gorau yn rhedeg at Elfryn, sydd yn datgelu cyfrinach fawr am ddilysrwydd un o luniau mwyaf gwerthfawr yr Amgueddfa.
6"Pennod 6"Rhys CarterFflur Dafydd4 Gorffennaf 2021 (2021-07-04)25,000
Mae byd a bywyd Della bellach yn ddeilchion o'i chwmpas. Wedi bradychu ei gwr a'i mab, mae'n gorfod gadael ei chartref - ond nid cyn gwneud darganfyddiad ysgytwol.

Cyfres 2[golygu | golygu cod]

# Teitl Cyfarwyddwr Awdur Darllediad cyntaf Gwylwyr [2]
1"Pennod 1"Rhys PowysFflur Dafydd1 Ionawr 2023 (2023-01-01)I'w gyhoeddi
Mae Della bellach wedi gadel ei swydd yn yr Amgueddfa yng Nghaerdydd ac wedi cychwyn ar secondiad i Amgueddfa fechan Sir Gâr. Mae Caleb a Della wedi symud i fyw i dy rent dafliad carreg o'u gwaith. Mae rhuthr bywyd yn dipyn arafach yng nghefn gwlad Cymru, ac mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn sut mae'r Amgueddfa fechan wedi bod yn cael ei rhedeg. Mae Heddwyn y Curadur yn gweithio mewn ffordd wahanol iawn i Della.
2"Pennod 2"Rhys PowysFflur Dafydd8 Ionawr 2023 (2023-01-08)I'w gyhoeddi
Mae'r dŵr yn rhedeg yn ddu yng nghartref newydd Della a Caleb ac mae yna swn annaearol yn tarddu o'r pibau hefyd, tra bod dwr sy'n ymddangos ar lawr yr atig yn llythrennol mynd a dod. Mae Elinor yn cael ei chyflwyno i Heddwyn ac mae'r ddau yn cymryd diddordeb mawr yn ei gilydd, ond ydy Heddwyn, sydd â chof ffotograffig, wedi cyfarfod ag Elinor o'r blaen'
3"Pennod 3"Rhys PowysLlinos Gerallt / Fflur Dafydd15 Ionawr 2023 (2023-01-015)I'w gyhoeddi
Mae Clogyn Aur Yr Wyddgrug ar ei ffordd o'r Amgueddfa Brydeinig i Amgueddfa fechan Sir Gar. Ydy hwn am fod yn benderfyniad doeth i'r sefydliad o ystyried hanes Della gyda chreiriau amhrisiadwy'
4"Pennod 4"Rhys CarterElgan Rhys / Fflur Dafydd22 Ionawr 2023 (2023-01-22)I'w gyhoeddi
Mae Della a Glyn yn aros yn bryderus i'r Clogyn Aur gyrraedd ar ddiwedd ei siwrne o Lundain ond mae un unigolyn arall yn aros yr un mor eiddgar i weld y clogyn amhrisiadwy'n cyrraedd yr Amgueddfa - Fioled.
5"Pennod 5"Rhys CarterLlinos Gerallt / Fflur Dafydd29 Ionawr 2023 (2023-01-29)I'w gyhoeddi
Tybed bellach os yw Della'n difaru symud o Gaerdydd i'r Amgueddfa yng Nghaerfyrddin' Mae'r Rembrandt enwog hefyd wedi ei dilyn i Gaerfyrddin, ac wedi dod i glawr yn nhy Heddwyn.
6"Pennod 6"Rhys CarterFflur Dafydd15 Chwefror 2023 (2023-02-015)I'w gyhoeddi
Y bennod olaf ac angladd Heddwyn. Mae'r teulu wedi gofyn i Della neud y deyrnged. A fydd Della'n gallu ymdopi o ystyried beth ddigwyddodd y tro diwethaf iddi weld Heddwyn yn fyw'

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus. S4C (7 Ionawr 2021). Adalwyd ar 27 Mai 2021.
  2. 2.0 2.1 Ffigyrau gan S4C. Gweler [1], Ffigyrau Gwylio S4C.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]