Ieuan Rhys
Ieuan Rhys | |
---|---|
Ganwyd | 24 Rhagfyr 1961, 1961 Trecynon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor teledu |
Actor yw Ieuan Rhys (ganwyd 24 Rhagfyr 1961) sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Daw Ieuan Rhys o Drecynon ger Aberdâr. Ganwyd yn fab i John Gethin Evans a Thelma Evans. Bellach mae Ieuan yn byw yng Nghaerdydd.
Cyhoeddodd ei hunangofiant Allet Ti Beswch! yn 2013.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ers iddo droi’n actor, mae gwaith Ieuan wedi bod yn amrywiol i ddweud y lleiaf. Ym myd teledu, mae e wedi gweithio fel cymeriad cyson yng nghyfres sebon y BBC Pobol y Cwm, ac yn cyflwyno gêm deledu Siôn a Siân i HTV. Mae'n gyflwynydd achlysurol ar y rhaglen adloniant Noson Lawen. Mae e wedi chwarae carcharor a oedd yn hoff o drawswisgo yn y gyfres Diamond Geezer gyda David Jason ac fel Crabtree ym mhennod The Idiot’s Lantern o’r gyfres Doctor Who gyda David Tennant.
Mae e hefyd yn actor Shakespearaidd gyda rhannau mewn nifer o gynyrchiadau gan gynnwys cynyrchiadau Cymraeg a Saesneg o Hamlet o dan gyfarwyddyd Michael Bogdanov. Mae’n adnabyddus hefyd am ei waith mewn sioeau cerdd a chafodd adolygiadau clodwiw am ei bortread o Alfred Doolittle yng nghynhyrchiad Bogdanov o My Fair Lady.
Mae ei waith ar ffilm yn cynnwys y ffilm bytholwyrdd gyda Hugh Grant The Englishman Who Went Up A Hill But Came Down a Mountain.
Yn 2011 gweithiodd ar y gyfres Zanzibar (cynhyrchiad Rondo Cyf i S4C). Ymddangosodd fel Eurig Bell ar 4 cyfres o'r ddrama Gwaith/Cartref ac yn 2016 roedd mewn pennod o Y Gwyll.