Neidio i'r cynnwys

Gwaith/Cartref (cyfres S4C)

Oddi ar Wicipedia
Gwaith/Cartref
Genre Drama Teledu
Cyfarwyddwyd gan Dafydd Palfrey
Andy Newbery
Hefin Rees
Gwlad/gwladwriaeth Cymru
Iaith/ieithoedd Cymraeg
Nifer cyfresi 9
Nifer penodau 90
Cynhyrchiad
Cynhyrchydd Sophie Fante
Nora Ostler
Amser rhedeg 60 munud (2011-2015),
30 munud (2016-2017)
60 munud (2018)
Cwmnïau
cynhyrchu
Fiction Factory
Darllediad
Sianel wreiddiol S4C (2011-2018)
Rhediad cyntaf yn 18 Medi 2011
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol

Cyfres ddrama oedd Gwaith/Cartref a ddarlledwyd ar S4C rhwng 2011 a 2018. Mae'n dilyn helyntion disgyblion ac athrawon ysgol yn ne Cymru. Cawn weld bywydau proffesiynol ac allgyrsiol y cymeriadau. O'r gyfres gyntaf, mae'r ddrama wedi sôn am themâu difrifol megis godineb, galar, bwlio, cancr a salwch meddyliol.

Cynhyrchiad

[golygu | golygu cod]

Yn y pum cyfres cyntaf roedd y gyfres wedi ei leoli yn ysgol ddychmygol "Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Taf". Darlledwyd y cyfresi gwreiddiol ar nos Sul am 9 y.h. Ar ôl darllediad y gyfres gyntaf yn 2011, cafodd yr ail gyfres ei darlledu yng ngwanwyn 2012, y drydedd gyfres ym Mawrth 2013, y bedwaredd yn Ionawr-Mawrth 2014 a'r pumed yn Ionawr-Mawrth 2015.

Ar gyfer y chweched cyfres yn Ionawr 2016, newidiwyd y rhaglen yn sioe hanner awr wedi ei ddarlledu ar nos Fercher am 8.30 y.h. fel arfer. Symudwyd i ysgol ffuglennol newydd "Porth y Glo" yng Nghwm Rhymni a roedd rhan fwyaf o'r cymeriadau yn newydd.[1] Dangoswyd seithfed cyfres yn Medi 2016 a Tachwedd 2016[2] wythfed cyfres yn Ionawr 2017. Cychwynnodd nawfed cyfres yn Chwefror 2018 gan ddychwelyd i rhaglen awr o hyd.

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Dr Stephanie Murphy - Prifathrawes - Siwan Morris
  • Eurig Bell - Dirprwy brifathro - Ieuan Rhys
  • Llywela Harding - Athrawes Cymraeg - Sue Roderick
  • Mei Huws - Gofalwr yr ysgol - Bradley Freegard
  • Donna Isaacs - Ysgrifenyddes yr ysgol - Shelley Rees
  • Colin Isaacs - Athro Cemeg - Jâms Thomas
  • Dylan Isaacs - myfyriwr - Jacob Oakley
  • Phoebe Isaacs - myfyriwr - Mabli Jen Eustace
  • Math Roberts - Athro Mathemateg - Aled Bidder
  • Aled Jenkins - Athro Cymraeg - Gareth Jewell, cyfres 1-6
  • Annest 'Birdy' Haf - Athrawes Drama - Lowri Palfrey
  • Ceri Gravelle - Athrawes Bioleg - Lisa Jen Brown
  • Sian Bowen-Harries - Dirprwy Brifathrawes yn Ysgol Bro Tâf,
  • Prifathrawes yn Ysgol Llwyn Dafydd - Janet Aethwy - cymeriad rheolaidd cyfres 1-5, cymeriad gwadd cyfres 6

Cymeriadau blaenorol

[golygu | golygu cod]
  • Grug Matthews - Athrawes Mathemateg - Rhian Blythe (cyfres 1-5)
  • Beca Matthews - Athrawes Ymarfer Corff - Hannah Daniel (cyfres 1-5)
  • Wyn Rowlands - Athro Cymraeg a Astudiaethau'r Cyfryngau - Richard Elis (cyfres 3-5)
  • Rhydian Ellis – Prifathro - Rhodri Evan (cyfres 1-5)
  • Mrs. Gwen Lloyd – Pennaeth Addysg Grefyddol - Rhian Morgan (cyfres 1-5)
  • Gemma Haddon – Ysgrifenyddes yr ysgol - Siw Hughes (cyfres 1-5)
  • Brynmor Davies - Athro Mathemateg dros dro, yna'n barhaol - Bryn Fôn (cyfres 3-5)
  • Louise Stevenson - Athrawes Anghenion Arbennig - Sara Lloyd
  • Tanwen Llwyd - Myfyriwr Bro Tâf - Sian Davies
  • Heuls - Perchennog 'Crwban' a chwaer Aled Jenkins - Elin Llwyd (cyfres 3-5)
  • Miss Perkins - Ysgrifenyddes ysgol - Andrea Edwards (cyfres 1-2)
  • Dan James - Athro Daearyddiaeth - Huw Rhys (cyfres 1-2)
  • Simon Watkins - Athro Daearyddiaeth - Rhys ap Trefor (cyfres 1-2, gwadd cyfres 3)
  • Dewi Pritchard - Athro Hanes - Aled Pugh (cyfres 5)
  • Lisa Morris - Athro Ffrangeg a Pennaeth Gofal Bugeiliol yn Ysgol Llwyn Dafydd - Ffion Williams (cyfres 3-5)
  • Zara Dudek - Dynes cinio yn Ysgol Llwyn Dafydd - Carys Eleri (cyfres 3-5)
  • Jack Lewis - Myfyriwr Bro Tâf. Blwyddyn 10 - Sam Davies
  • Nerys Edwards - Astudiaeth Drama/Cyfryngau - Catrin Fychan (cyfres 1-2)
  • Aneurin Rees - Athro Mathemateg dan hyfforddiant - Arwyn Jones (cyfres 1)
  • Emyr Tomos - Athro Cymraeg - Lee Haven-Jones (cyfres 1)
  • Sara Harries - Athro Celf - Lauren Phillips (cyfres 1-3)
  • Nadine Smith - Myfyriwr Bro Tâf. Blwyddyn 9 - Manon Grocott (cyfres 3)
  • Llinos Preece - Athro Gwyddoniaeth - Elin Phillips (cyfres 3)
  • Mr Hassan - Rheolwr mosg - Ike Khan (cyfres 3)

Llwyddiannau

[golygu | golygu cod]
  • Enillydd - BAFTA Cymru 2014 am Actores Gorau (Rhian Blythe)
  • Enwebu - BAFTA Cymru 2014 am Actores Gorau (Siw Hughes)
  • Enillydd gwobr am gyfres ddrama orau 2013 - Celtic Media Festival yn Abertawe,
  • Enwebu - BAFTA Cymru 2013 am Ffotograffiaeth a goleuo (Rory Taylor)
  • Enwebu - BAFTA Cymru 2012 am ddylunio cynnyrch (Bill Bryce), Golygu ffuglen (Mike Hopkins a Rhys ap Rhobert) Gwallt a cholur (Gwenno Penrhyn), Gwisg (Sian Jenkins), Drama deledu (Sophie Fante), Actores (Rhian Morgan)[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwaith/Cartref centres around the fictional school Porth y Glo and it's filmed in the Rhymney Valley (en) , WalesOnline, 21 Ionawr 2016. Cyrchwyd ar 2 Mawrth 2016.
  2.  Wynebau newydd yn achosi anhrefn ym Mhorth y Glo. S4C (1 Medi 2016). Adalwyd ar 18 Ionawr 2017.
  3. Fiction Factory

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]