Neidio i'r cynnwys

Aled Pugh

Oddi ar Wicipedia
Aled Pugh
Ganwyd1980 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor, actor teledu Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw Aled Pugh (ganwyd tua 1980. Yng Nghymru daeth i enwogrwydd pan oedd yn blentyn am chwarae'r cymeriad Rhys yn y gomedi sefyllfa Hapus Dyrfa. Ar draws gwledydd Prydain mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae Bobby yn y gyfres ddrama Stella.[1]

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Magwyd Aled yn Nhŷ-croes ger Rhydaman. Mynychodd Ysgol Gyfun Maes-yr-Yrfa [2]

Roedd Aled wedi chwarae'r digrifwr Ryan Davies mewn gwahanol gynyrchiadau ers oedd yn ei arddegau ac roedd nifer wedi sylwi ei fod yn debyg o rhan pryd a gwedd. Yn 2005 ymddangosodd Pugh fel Ryan mewn drama am fywyd y ddeuawd comedi Cymreig 'Ryan a Ronnie',[3] ac yn ddiweddarach cymerodd yr un rhan mewn addasiad ffilm deledu.[4] Enillodd Pugh y wobr "Actor Gorau" yn seremoni BAFTA Cymru 2010 am ei rhan yn y ffilm [5]

Ffilmyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Teledu

[golygu | golygu cod]
Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1990-1992 Hapus Dyrfa Rhys
2007 Y Pris Bryn
2009 Ar Y Tracs Gwenci Ffilm deledu
2009 Ryan a Ronnie Ryan Davies Ffilm deledu
2011-2012 Alys Kevin
2012–presennol Stella Bobby Sky 1
2014–2015 Gwaith/Cartref Dewi Cyfres 4–5
2016 Ordinary Lies Lenny BBC, Cyfres 2

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Cyfweliad Stella
  2.  Sgrîn, Cylchgrawn Gwylwyr S4C - Rhifyn 13. S4C (Rhagfyr 2009).
  3. "Ryan and Ronnie relived on stage". BBC News (yn Saesneg). 5 Hydref 2005. Cyrchwyd 9 Mai 2017.
  4. "Ryan and Ronnie are back!". WalesOnline (yn Saesneg). 2 Mawrth 2009. Cyrchwyd 9 Mai 2017.
  5. Wales Online (Saesneg).

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]