Neidio i'r cynnwys

Jâms Thomas

Oddi ar Wicipedia
Jâms Thomas
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethactor, digrifwr Edit this on Wikidata

Mae Jâms Thomas yn actor, perfforimwir a digrifwr Cymreig yn Gymraeg a'r Saesneg.

Bywgraffiad

[golygu | golygu cod]

Mynychodd Ysgol Gyfun Rhydfelen. Roedd ei dad, Robert John Thomas, yn athro yn Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyslwyd lle bu'n athro ar yr actor Ieuan Rhys.[1]

Mae Jâms wedi actio mawr amrywiaeth o gyfresi drama yn y Gymraeg a'r Saesneg ac mewn ffilmiau.[2]

Teledu Cymraeg: ymysg ei ymddangosidau actio mae: Tair Chwaer (1997-1999), Caerdydd (2006), Y Pris (2007), Y Gwyll (2015), Gwaith/Cartref (2011-18), 35 Awr (2019).
Teledu Saesneg: District Nurse (1985), The Lifeboat (1994), London's Burning (1997-98), Torchwood (2006), The Indian Doctor (2011-12), Aberfan:The Fight for Justice (2016)
Ffilmiau: Yr Heliwr/A Mind to Kill (1991), Y Fargen (1996), Colonial Gods (2009)[3] Mr Nice (2010)[4], Pride (2014), Down the Caravan (2018)
Dramâu Llwyfan: The Curious Incident of the Dog in the Nightime [5], The Effect (2018)[6]
Comedi: Bu Jâms yn rhan o gylchdaith gomedi stand-yp Cymraeg ers yr 1990au gyda pherfformwyr eraill megis Daniel Glyn, Gethin Thomas, a Gary Slaymaker.[7] Mae wedi perfformio yn Sesiwn Fawr Dolgellau yn 2018,[8] ac yng Ngŵyl Gomedi Machynlleth yn 2014.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]