Allet Ti Beswch!

Oddi ar Wicipedia
Allet Ti Beswch!
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurIeuan Rhys
CyhoeddwrY Lolfa
GwladCymru
IaithCymraeg
ArgaeleddAr gael
ISBN9781847717160

Hunangofiant Ieuan Rhys yw Allet Ti Beswch! a gyhoeddwyd yn 2013 gan Y Lolfa. Man cyhoeddi: Tal-y-bont, Cymru.[1]

I ddathlu 30 mlynedd o fod yn actor proffesiynol, dyma hunangofiant Ieuan Rhys, yr actor a'r diddanwr adnabyddus a fu'n chwarae rhan Sgt Glyn James, y bobi pentre, ar opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm am dair blynedd ar ddeg.

Eleni mae Ieuan Rhys yn dathlu 30 mlynedd o fod yn actor proffesiynol ac mae wedi gweithio ar nifer fawr o gynhyrchiadau teledu, theatr, radio a ffilm yng Nghymru, Lloegr ac hyd yn oed yn hysbyseb teledu yn yr Almaen. Fe'i ganwyd ar ddechrau'r 1960au yn Aberdâr, Morgannwg Ganol, yn blentyn ifancaf Gethin a Thelma Evans. Cafodd ei addysg yn ysgolion Ynyslwyd a Rhydfelen cyn mynd i Goleg Cerdd a Drama Cymru. Wedi gadael coleg cafodd ran yn y sebon Pobol y Cwm a dyna ble y bu am dair blynedd ar ddeg yn chwarae rhan y bobi pentre Sgt Glyn James.


Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017.