Trecynon
![]() Neuadd y dref a'r llyfrgell | |
Math |
pentref ![]() |
---|---|
| |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Rhondda Cynon Taf ![]() |
Gwlad |
![]() |
Cyfesurynnau |
51.7212°N 3.4563°W ![]() |
Cod OS |
SN995035 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Vikki Howells (Llafur) |
AS/au | Ann Clwyd (Llafur) |
Pentref ger Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf, de Cymru yw Trecynon.
Cynrychiolir yr ardal hon yn y Cynulliad Cenedlaethol gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Ann Clwyd (Llafur).[1][2]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Yn Nhrecynon y codwyd yr 'Hen Dŷ Cwrdd', y capel Anghydffurfiol hynaf yng Nghwm Cynon. Sefydlwyd y capel gwreiddiol yn 1751 a chafodd ei adeiladau yn 1862. Nid yw'n cael ei ddefnyddio fel addoldy erbyn heddiw, ond mae'n adeilad rhestredig Graddfa 1.[3]
Mae Parc Aberdâr, a agorwyd yn 1869, yn atyniad lleol poblogaidd.
Ysgolion[golygu | golygu cod y dudalen]
Lleolir campws Aberdâr o Goleg Morgannwg ar gyrion gogleddol y pentref. Sefydlwyd Ysgol Ramadeg i Fechgyn Aberdâr (Aberdare Boys' Grammar School) yn Threcynon yn 1896. Erbyn heddiw, ar safle newydd, mae'n cael ei adnabod fel Ysgol Gyfun i Fechgyn Aberdâr. Ceir dwy ysgol elfennol yn y pentref hefyd, ar safleoedd cyfagos, sef Ysgol Babanod Comin ac Ysgol Gynradd Comin.
Enwogion[golygu | golygu cod y dudalen]
- Gwyn Morgan - awdur
- Mihangel Morgan - awdur Cymraeg ac academydd
- Ieuan Rhys - actor (ganed Ieuan Evans)
- Griffith Rhys Jones - arweinydd y 'Côr Mawr' enwog
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan y Cynulliad; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
- ↑ Nodiadau am y capel a lluniau
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Llwybr Treftadaeth Trecynon
Aberaman · Abercwmboi · Abercynon · Aberdâr · Abernant · Aberpennar · Y Beddau · Blaenclydach · Blaencwm · Blaenllechau · Blaenrhondda · Brynna · Brynsadler · Cefn Rhigos · Cefnpennar · Cilfynydd · Coed-elái · Coed-y-cwm · Cwmaman · Cwm-bach · Cwm Clydach · Cwmdâr · Cwm-parc · Cwmpennar · Y Cymer · Dinas Rhondda · Y Ddraenen Wen · Efail Isaf · Fernhill · Ffynnon Taf · Y Gelli · Gilfach Goch · Glan-bad · Glyn-coch · Glyn-taf · Y Groes-faen · Hirwaun · Llanharan · Llanhari · Llanilltud Faerdref · Llantrisant · Llanwynno · Llwydcoed · Llwynypïa · Y Maerdy · Meisgyn · Nantgarw · Penderyn · Pendyrus · Penrhiw-ceibr · Penrhiw-fer · Penrhys · Pentre · Pentre'r Eglwys · Pen-yr-englyn · Pen-y-graig · Pen-y-waun · Pont-y-clun · Pont-y-gwaith · Pontypridd · Y Porth · Y Rhigos · Rhydyfelin · Ton Pentre · Ton-teg · Tonypandy · Tonyrefail · Tonysguboriau · Trealaw · Trebanog · Trecynon · Trefforest · Trehafod · Treherbert · Trehopcyn · Treorci · Trerhondda · Trewiliam · Tynewydd · Wattstown · Ynys-hir · Ynysmaerdy · Ynysybŵl · Ystrad Rhondda