Pendyrus

Oddi ar Wicipedia
Pendyrus
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6494°N 3.4395°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000709 Edit this on Wikidata
Cod OSSS955965 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map

Pentref a chymuned yng Nghwm Rhondda ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf yw Pendyrus (Saesneg: Tylorstown). Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,715. Ystyrir ward Pendyrus yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig gorllewin Ewrop.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd y pentref gan Alred Tylor, a agorodd bwll glo yno yng nghanol y 1800au. Ar 28 Ionawr 1896, collodd 57 o lowyr eu bywydau mewn tanchwa yma. Caeodd y pwll olaf yma yn y 1960au, ac ers hynny mae diweithdra wedi bod yn broblem.

Pendyrus
Tomen wastraff glo, Pendyrus

Diwylliant[golygu | golygu cod]

Mae Côr Meibion Pendyrus yn adnabyddus ac yn dod o'r ardal.

Pobl o Bendyrus[golygu | golygu cod]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Pendyrus (pob oed) (4,546)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Pendyrus) (443)
  
10.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Pendyrus) (4036)
  
88.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Pendyrus) (1,045)
  
51.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]