Jimmy Wilde

Oddi ar Wicipedia
Jimmy Wilde
GanwydWilliam James Wilde Edit this on Wikidata
15 Mai 1892 Edit this on Wikidata
Mynwent y Crynwyr Edit this on Wikidata
Bu farw10 Mawrth 1969 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethpaffiwr Edit this on Wikidata
Taldra159 centimetr Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonCymru Edit this on Wikidata
Darlun olew gan William Howard Robinson o Wild yn cael ei longyfarch gan Edward VIII wedi iddo drechu Joe Lynch o America wedi 15 rownd.

Paffiwr proffesiynol o Gymro a chyn bencampwr y byd oedd Jimmy Wilde (12 Mai 189210 Mawrth 1969). Roedd ei lysenwau'n cynnwys "The Mighty Atom" a "The Tylorstown Terror". Disgrifiwyd Wilde gan yr awdur bocsio Nat Fleischer, yr hyfforddwr enwog Charley 'Broadway' Rose a llawer iawn o focswyr eraill fel "the greatest flyweight ever."[1]

Y dyddiau cynnar[golygu | golygu cod]

Cafodd ei eni yn yr ardal honno a adnabyddir heddiw fel 'y Graig': rhwng Mynwent y Crynwyr, Merthyr Tudful a Nelson, Caerffili - fel y dengys ei dystysgrif geni. Ychydig wedyn, pan oedd Wilde yn 12 mlwydd oed, symudodd y teulu i Bendyrus yng Nghwm Rhondda ym mwrdeisdref sirol Rhondda Cynon Taf.[2] Mab i löwr ydoedd a gweithiodd yn y pyllau glo; oherwydd ei fod mor fychan yn gorfforol gyrrwyd ef i gropian drwy fylchau yn y graig. Yn 14 mlwydd oed cychwynodd focsio mewn ffeiriau, ble roedd y tyrfaoedd wedi'u cyffroi gan ei gryfder a'i ddycnwch, a'i allu i drech dynion llawer mwy nag ef.

Ym 1910 priododd Elizabeth a chawsant blentyn y flwyddyn honno. Gadawodd Lofa Pendyrus ym 1913. Ym 1916 ymunodd â'r fyddin ac fe'i danfonwyd i Aldershot fel hyfforddwr addysg gorfforol.

Tlysau[golygu | golygu cod]

Cipiodd 137 o dlysau; collodd 4 gwaith yn unig, cafodd 2 ornest gyfartal ac 8 gornest heb enillydd. Roedd 100 allan o'r 137 gornest yn ganlyniad i knockout; mae hyn yn ei wneud yn un o'r enillwyr mwyaf a fu yn hanes bocsio. Yn 2003 cafodd ei enwi gan Ring Magazine fel y 3ydd paffiwr gorau erioed a'r paffiwr pwysau ysgafn gorau erioed yn hanes bocsio; cyhoeddwyd yr ail o'r rhain ganddynt ddwywaith: ym Mawrth 1975 ac ym Mai 1994. Yn Hydref 1999 cyhoeddodd yr un cylchgrawn restr o baffwyr gorau yr holl bwysau a fu'n paffio yn yr 20g, gan ei leoli fel y 13fed.

Ym 1990 cafodd ei ethol i'r International Boxing Hall Of Fame gan rannu'r fraint gyda bocswyr fel Sugar Ray Robinson, Harry Greb, Benny Leonard and Henry Armstrong. Ym 1992 fe'i derbyniwyd i'r Welsh Sports Hall of Fame.

Enwyd ef fel Rhif 1 pwysau ysgafn yn hanes bocsio gan y Mudiad Rhyngwladol Ymchwil i Baffio yn 2006.[3]

Yn 2014 pleidleisiwyd ef y Greatest Bantamweight Ever gan yr Houston Boxing Hall Of Fame. Mae'r HBHOF yn agoredd i gyn-focswyr a bocswyr cyfoes yn unig.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Davies, Sean (2006-12-17). "90 years on...". BBC Sport. Cyrchwyd 2010-03-07.
  2. "Jimmy Wilde, Boxing legend dubbed the Mighty Atom". BBC South East. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-03-08. Cyrchwyd 2010-03-07.
  3. "IBRO Rankings". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-12-01. Cyrchwyd 2012-02-12.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]