Neidio i'r cynnwys

Nantgarw

Oddi ar Wicipedia
Nantgarw
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFfynnon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5646°N 3.267°W Edit this on Wikidata
Cod OSST122858 Edit this on Wikidata
Cod postCF15 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Etholaeth y DUAlex Davies-Jones (Llafur)
Map

Pentref yng nghymuned Ffynnon Taf, ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Nantgarw.[1][2] Saif ar lannau Afon Taf ar ffordd yr A468. Ceir yma sinema a chanolfan bowlio 10 pin. Ceir campws Coleg Morgannwg yn y pentref. Gorwedd Castell Coch ger y pentref.

Mae'n adnabyddus am ei borslen, a gynhyrchwyd rhwng 1813–1814, ac yn nes ymlaen rhwng 1817–1820, yng Nghrochendy Nantgarw, a goffheir mewn amgueddfa leol. Yn ddiweddarach agorwyd pwll glo yn Nantgarw; fe'i caewyd yn 1982. Mae stad fasnachol Parc Nantgarw ar y safle rwan.

Campws Nantgarw Coleg Morgannwg
Pwll Glo Nantgarw yn 1962

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 30 Hydref 2021
Eginyn erthygl sydd uchod am Rondda Cynon Taf. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.