Neidio i'r cynnwys

Castell Coch

Oddi ar Wicipedia
Castell Coch
Mathcastell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTongwynlais Edit this on Wikidata
SirTongwynlais Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr101.1 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.535839°N 3.254797°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
Arddull pensaernïolyr Adfywiad Gothig Edit this on Wikidata
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddtywodfaen, calchfaen, Pennant Measures Edit this on Wikidata
Dynodwr CadwGM206 Edit this on Wikidata

Mae Castell Coch (Castell y Tylwyth Teg) yn gastell o'r 19g yn arddull yr Adfywiad Gothig, a adeiladwyd ar safle adfeilion caer go iawn. Saif ar fryn uwchben pentref Tongwynlais, ger Nantgarw, i'r gogledd o Gaerdydd.

Y castell canoloesol

[golygu | golygu cod]

Mae'n debyg i gastell gael ei sefydlu ar y safle yn gynnar yn y 13g gan Ifor Bach. Cafodd y safle ei hawlio gan y teulu Normanaidd, De Clare, yn hwyrach yn y ganrif honno oherwydd ei bwysigrwydd strategol. Edrychai dros wastadeddau'r ardal yn ogystal â'r ffordd i mewn i Ddyffryn Taf. Ailadeiladwyd y castell i gynnwys gorthwr, tyrau, buarth caeëdig a phorthdy.

Ond erbyn oes y Tuduriaid, roedd y castell ar chwâl.

Y ffug gastell

[golygu | golygu cod]

Erbyn y 19g, ychydig iawn oedd ar ôl o'r bensaernïaeth Normanaidd. Gorchmynnodd Trydydd Ardalydd Bute, John Crichton-Stuart, i'r safle gael ei glirio o falurion a llystyfiant ym 1871. Lluniodd ei bensaer William Burges gynlluniau ar gyfer ail-godi'r castell. Roedd Burges a'r Ardalydd eisoes wedi bod gweithio ar ailgodi Castell Caerdydd ers tair blynedd, a'r bwriad oedd codi Castell Coch yn yr un arddull o'r 13g, sef arddull yr Adfywiad Gothig.

Mae set o luniadau ar gyfer yr ail-godi yn dal i fodoli, ynghyd â chyfiawnhad pensaernïol llawn gan Burges. Mae'n amheus iawn y bu gan y castell hanesyddol y toeau conigol nodweddiadol sydd i'w gweld ar yr adeilad presennol. Roedd Burges eisiau'r toeau rhain ar gyfer eu heffaith gweledol, gan gyfaddef eu bod yn "gwbl ddychmygol" ond yn "fwy darluniadaidd" ac yn "cynnig mwy o le".

Canlyniad y gwaith ailgodi oedd castell ffantasi. Mae'r addurno y tu fewn yn debyg i'r hyn yr oedd Burges eisoes wedi cyflawni yng Nghastell Caerdydd. Gofalodd Burges i fanteisio cymaint â phosibl ar yr hyn oedd ar ôl o'r castell gwreiddiol a gynlluniwyd gan y teulu De Clare.

Yn dilyn marwolaeth Burges ym 1881, parhaodd y gwaith ar du fewn y castell am ddeng mlynedd arall. Ni fwriadwyd defnyddio'r castell fel cartref parhaol ar gyfer Ardalyddion Bute. Anaml y byddai'r teulu'n ymweld â'r castell ond mi wnaeth yr Ardalyddes a'i merch, y Fonesig Margaret Crichton-Stuart, fyw yn y castell am gyfnod yn dilyn marwolaeth yr Ardalydd ym 1900.

Y castell heddiw

[golygu | golygu cod]

Ym 1950 rhoddodd y pumed Ardalydd y castell yng ngofal y Weinidogaeth Gweithiau. Gofalai Cadw am y castell heddiw. Mae'n atyniad twristaidd gweddol boblogaidd, a gellir ei logi ar gyfer cynnal priodasau a defnyddir mewn cyfresi teledu a ffilmiau ar adegau hefyd.

Ymddangosodd y castell gyntaf mewn ffilm Hollywood ym 1954, The Black Knight, a serenodd Alan Ladd. Defnyddiodd y ffilm y chwedl y bu twnnel cudd yn cysylltu Castell Coch a Chastell Caerdydd. Yn yr 1980au defnyddiwyd fel amddiffynfa Michael, Dug Strelsau mewn addasiad y BBC o The Prisoner of Zenda.

Mae cynyrchiadau teledu eraill yn cynnwys The Worst Witch, Tracey Beaker's Movie Of Me a Robin Hood.

Caiff y castell ei gyfeirio ato mewn nofel Target ar sail The Ark, Doctor Who, pan mae Dodo Chaplet yn ymhlygu ei bod wedi ymweld â'r castell. Ymddangosodd yn ddiweddarach yng nghyfres deledu Doctor Who, fel castell Almaenig ger Nuremberg, yn y bennod Journey's End.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  • Mark Girouard, The Victorian Country House (1979) Gwasg Prifysgol Yale
  • Peter Floud, Castell Coch: Official Guide (1980) Y Swyddfa Gymreig
  • J. Mordaunt Crook, William Burges and the High Victorian Dream (1981) John Murray
  • J. Mordaunt Crook, The Strange Genius of William Burges (1981) Amgueddfa Genedlaetho Cymru
  • David McLees, Castell Coch: Official Guide (2005) Cadw

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]