Ifor Bach

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Gweler hefyd Ifor Bach (gwahaniaethu).

Roedd Ifor ap Cadifor, a elwid yn Ifor Bach (fl. c. 1158) —a elwir yn Ifor Meurig yn y Brutiau, Ifor ap Cadifor yn achau'r 16eg a'r 17g — yn arglwydd Senghennydd, 'arglwyddiaeth ddibynnol' ar arglwyddiaeth Morgannwg ac yn cynnwys yr ardal fynyddig yn ymestyn o Aberhonddu yn y gogledd, crib Cefn Onn yn y de, afon Taf yn y gorllewin, ac afon Rhymni yn y dwyrain.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1158 ymosododd ar Morgan ab Owain o Wynllwg a Chaerllion ar Wysg a'i ladd ef a'r 'bardd gorau,' Gwrgant ap Rhys. Cofir amdano yn arbennig oblegid ei ymosodiad sydyn ym mherfeddion nos ar gastell Caerdydd yn yr un flwyddyn, a mynd â William, Iarll Caerloyw, Hawys ei wraig, a'u mab Robert i'w amddiffynfeydd coediog ef ei hun, a gwrthod eu rhyddhau nes i William ddychwelyd y tiroedd a ladratasai oddi arno a rhoi iddo diroedd ychwanegol yn iawndal. Dyma ddisgrifiad Gerallt Gymro o Ifor Bach a'r digwyddiad honno :

Yn awr yr oedd William, Iarll Caerloyw, fab yr iarll Rhobert, a ddaliai, yn ôl deddf etifeddiaeth, yn ogystal â'r castell a enwyd [sef Caerdydd], holl dalaith Gwlad Forgan, wedi digwydd bod yn rhyfela yn erbyn un o'i wŷr a elwid Ifor Bach. Canys gŵr o gorffolaeth fach ydoedd, ond o ddewrder difesur : a chanddo yn ei feddiant, yn ôl arfer y Cymry, rai tiroedd mynyddig a choediog, yr oedd yr iarll... yn ymdrechu naill ai i'w dwyn oddi arno yn llwyr, neu ynteu i'w rhannu. Un noswaith, ynteu, er bod Castell Caerdydd yn ymddangos wedi ei amddiffyn yn gadarnaf posibl gan ei gylch muriau, a'i lu o wylwyr, er bod y ddinas yn orlawn o filwyr, chwe ugain ohonynt, a heblaw hynny lu o saethyddion, a hefyd warchodlu niferus iawn o amddiffynwyr... gan ddwyn ysgolion a dringo'r muriau yn ddirgel, dug yr Ifor uchod yr Iarll a'r Iarlles allan, ynghyda'u mab bychan, eu hunig blentyn, a'u harwain gydag ef i'r coedydd. Ac ni ryddhaodd hwynt nes iddo ennill yn ôl bopeth a ddygesid yn anghyflawn oddi arno, a pheth dros ben.
Hanes y Daith Trwy Gymru[1]

Priododd Ifor Bach Nest, chwaer yr Arglwydd Rhys yn ôl Brut y Saeson. Credir fod Ifor Bach yn gyfrifol am godi castell ar safle Castell Coch heddiw, ger Caerdydd. Dilynwyd ef cyn 1170 gan ei fab Gruffudd. Parhaodd disgynyddion Ifor Bach mewn grym yn Senghennydd yn wyneb y Normaniaid a'r Saeson am ganrif neu ragor. Roedd y disgynyddion hynny yn cynnwys Morgan Gam, ŵyr Ifor, a'i or-ŵyr Llywelyn Bren.

Etifeddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth Ifor Bach yn anwyl yng nghof gwerin Morgannwg, a bu ei ymosodiad ar gastell Caerdydd yn destun hynod boblogaidd yn eisteddfodau'r 19g. Sefydlwyd cymdeithas lenyddol wlatgar yr Iforiaid yn ogystal.

Enwir un o glybiau nos mwyaf adnabyddus Caerdydd yn Glwb Ifor Bach.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Thomas Jones (cyf.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1938), tt. 62-3.