Gwrgant ap Rhys

Oddi ar Wicipedia
Gwrgant ap Rhys
Bu farw1158 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd Edit this on Wikidata

Bardd Cymraeg oedd Gwrgant ap Rhys (bu farw 1158). Roedd yn fardd llys y tywysog Morgan ab Owain o Wynllŵg yn ne-ddwyrain Cymru, a oedd y pryd hynny yn rhan o Forgannwg.

Ceir yr unig gyfeiriad hanesyddol ato ym Mrut y Tywysogion. Yn y flwyddyn 1158, ymosododd Ifor Bach (Ifor ap Meurig), arglwydd Senghennydd, ar luoedd Morgan ab Owain o Wynllwg a'i ladd ef a'r 'bardd gorau', Gwrgant ap Rhys:

Blwyddyn wedy hynny y llas Morgant fab Owain drwy dwyll y gan wŷr Ifor fab Meurig, a chyd ag ef y prydydd goreu a oedd, Gwrgant fab Rhys.[1]

Dyma'r unig wybodaeth ddilys am y bardd, a oedd yn amlwg yn uchel ei barch. Does dim o'i waith wedi goroesi.

Ar ddiwedd y 18g, cydiodd Iolo Morganwg yn yr hanesyn wrth ysgrifennu ei gronicl ffug Brut Aberpergwm, a dadogir ganddo ar Garadog o Lancarfan, ac felly daeth yn rhan o'r Forgannwg chwedlonol a grëwyd gan Iolo ac a ddaeth yn gyfarwydd i Gymry darllengar y 19g. Yn ôl Iolo, roedd Gwrgant yn ŵyr i Iestyn ap Gwrgant (1045-1093), brenin olaf Morgannwg, ac 'y gŵr dysgediccaf o Brydydd a gaid yn ei amser'. Does dim sail hanesyddol i honiadau Iolo.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Brut y Tywysogyon, gol. Thomas Jones (Caerdydd, 1941), 104
  2. G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Caerdydd, 1948), tud. 4