William Burges
Gwedd
| William Burges | |
|---|---|
| Ganwyd | 2 Rhagfyr 1827 Llundain |
| Bu farw | 20 Ebrill 1881 The Tower House |
| Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | pensaer, cynllunydd, dylunydd gemwaith, gemydd |
| Adnabyddus am | Eglwys Gadeiriol Sant Fin Barre, Eglwys Christ the Consoler, Eglwys Sant Mihangel a'r Holl Angylion, Lowfield Heath |
| Tad | Alfred Burges |
Pensaer a chynllunydd o Loegr oedd William Burges (2 Rhagfyr 1827 – 20 Ebrill 1881), a gynlluniai yn yr arddull Gothig adfywiedig. Mae'n fwyaf adnabyddus am adfer Castell Caerdydd a Chastell Coch ar gyfer ei noddwr, Ardalydd Bute.[1]
Cafodd ei eni yn Llundain, yn fab i'r peiriannydd sifil cyfoethog, Alfred Burges a derbyniodd ei addysg yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Un o'i ffrindiau ysgol oedd Dante Gabriel Rossetti. Gweithiodd i'r pensaer Edward Blore yn Abaty Westminster cyn troi at Matthew Digby Wyatt.[2]
Ni phriododd erioed a bu farw yn 53 oed yn y "Gwely Coch" yn ei gartref, y "Tower House", Kensington.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Prout, David (1996). Burges, William. Grove Dictionary of Art. Gwasg Prifysgol Rhydychen. Adalwyd ar 17 Ionawr 2014.
- ↑ Smith, Helen (1984). Decorative painting in the domestic interior in England and Wales, c. 1850–1890 (yn Saesneg). Garland Pub. ISBN 978-0-8240-5986-6.
Oriel
[golygu | golygu cod]- Eglwys Gadeiriol Sant Fin Barre, Corc
- Castell Coch, Caerdydd
- Tower House, Llundain