Neidio i'r cynnwys

Llwydcoed

Oddi ar Wicipedia
Llwydcoed
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,674 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.7333°N 3.4667°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000690 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruVikki Howells (Llafur)
AS/au y DUGerald Jones (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Tâf, Cymru, yw Llwydcoed (hefyd Llwytgoed). Fe'i lleolir yng ngogledd Cwm Cynon, ger tref Aberdâr. Roedd yn lleoliad pwysig o ran y diwylliant Haearn yn y cwm, gan fod gweithfeydd haearn Aberdâr wedi'u hagor yno ym 1800. Mae'r rheilffordd yn dal i gludo glo o waith glo agored Hirwaun (a adnabuwyd gynt fel 'Glofa'r Tŵr) yn rhedeg trwy Llwydcoed.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Gerald Jones (Llafur).[1][2]

Cyn dyfodiad y chwyldro diwydiannol yn Llwydcoed, cymuned amaethyddol oedd yn bodoli yno fel gweddill Cwm Cynon, a chymoedd eraill De Cymru yn ystod y cyfnod yma. Pan gyrhaeddodd y chwyldro diwydiannol roedd datblygiad cychwynnol y pentref wedi'i leoli o amgylch ardal Tregibbon, sef y man lle, ym 1801, fe adeiladodd Thomas ap Shencin ap Gibbon o Fferm Fforchaman lawer o dai gan gynnwys 'Rhes y Glöwr', 'Rhes y Sefydlwyr' a 'Thai'r Scales'. Mae enwau'r strydoedd hyn yn olrhain eu gwreiddiau cynnar; roedd teulu'r Scales yn un o sefydlwyr y gwaith haearn, ac yn dal yn bartneriaid yno tan 1846.

Yn ystod ail hanner y 19g cafwyd twf yn sgîl datblygiad cyflym y diwydiant glo yn yr ardal. Agorwyd Gwaith glo Dulas gan Matthew Wayne o waith haearn y Gadlys ym 1840, ac fe agorwyd gwaith glo Ysguborwen gan Samuel Thomas a Thomas Joseph ym 1849. Ymhlith y tai a godwyd yn ystod y cyfnod hwn y mae: 'Plas Moriah', 'Teras Horeb', a 'Plas Llwyd.' Fe adeiladwyd 'Rhes yr Arddangosfa' ym 1851 ac fe'i enwir ar ôl yr Arddangosfa Mawr a gynhaliwyd ym Mhalas Grisial Llundain y flwyddyn hono.

Canol Llwydcoed.

Roedd wyth tafarn yn Llwydcoed yn ystod y cyfnod hwn megis: 'Yr Iarll Llwyd', 'Y Llwynog a'r Helgwn', 'Y Fuwch Goch', 'Tŷ Cornel', 'Y Masons', 'Tafarn y Glöwr', 'Tafarn Dinefwr', a'r 'Croes Bychan'. Yr adeg honno, cannwyd y gloch olaf ganol nos, a disgrifia traethodwr lleol am natur dymhestlog y miri: "Dywedir fod mwy o gwrw wedi'i golli (gwastraffu) pan fu'r ffwrnesi, y gweithfeydd glo, a'r gweithfeydd haearn yn cael eu gweithio (yn enwedig ar ddechrau'r mis, ac ar Nos Sadwrn y tâl), na sy'n cael eu yfed yn nhafarndau Llwydcoed y dydd hwn" [3] Mae tafarnau 'Y Fuwch Goch' a 'Thŷ Cornel' yn dal yn agored heddiw.[angen ffynhonnell]

Tirnodau

[golygu | golygu cod]

Mae cofgolofn rhyfel ar ffurf obelisg i'w chael yn y parc lleol. Datguddiwyd y gofgolofn ym 1921. Mae eglwys Sant James yn llwydcoed, ac fe llysenwir yr eglwys yn 'Yr Eglwys Goch' am ei bod wedi'i ei hadeiladu o friciau coch. Mae yna ganolfan gymunedol hefyd yn Llwydcoed.

Trafnidiaeth

[golygu | golygu cod]

Fe gyrhaeddodd brif Reilffordd Cwm Nedd gyda llinell o Gastell Nedd i Ferthyr Tydfil ym 1853, pan agorwyd gorsaf reilffordd Llwydcoed yr un flwyddyn. Fe'i trosglwyddwyd i Great Western Railway ym 1923, ac fe barhaodd y linell tan i Arglwydd Beeching ei chau ym 1963. Gellir dal i weld ôl y cledrau yn Llwydcoed hyd heddiw.

Yr unig drafnidiaeth cyhoeddus trwy Lwydcoed (2012) oedd bws rhif 6 a redwyd gan gwmni Stagecoach. Mae'r gwasanaeth yn cychwyn yng ngorsaf canolog Aberdâr, ac yn parahau drwy Drecynon, trwy Lwydcoed, ac yna'n mynd ymlaen i Ferthyr.

Addysg

[golygu | golygu cod]

Mae yna ysgol gynradd leol yn Llwydcoed o'r enw "Llwydcoed Primary". Mae'r ysgol yn bwydo ysgolion uwchradd 'Ysgol Sant Ioan' (Ysgol yr Eglwys yng Nghymru), 'Ysgol Uwchradd Aberdâr' (Ysgol i fechgyn), ac 'Ysgol y Merched Aberdâr'. Mae'r ysgol yn darparu ei haddysg drwy gyfrwng y Saesneg (a Chymraeg fel ail iaith). Mae'n rhaid i blant sydd am gael eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg fynychu Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr, sydd wedi'i lleoli yng Nghwmdâr.

Chwaraeon

[golygu | golygu cod]

Mae tîm pêl-droed yn chwarae ym mhentref Llwydcoed sef 'C.P.D.A Llwydcoed' sy'n chwarae o fewn Adran Dau o Gynghrair Pêl-droed Cymru. Sefydlwyd y clwb ym 1931 gyda'r enw 'Lles Llwydcoed' (Llwydcoed Welfare) gan y gymuned glofäol leol. Mae'r tîm yn gwisgo crys streipiog du a gwyn, trowsus byr du, a sannau du. Maent yn chwarae eu gemau cartref ar Y Parc Lles yn Llwydcoed.

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llwydcoed (pob oed) (1,302)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llwydcoed) (183)
  
14.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llwydcoed) (1151)
  
88.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Llwydcoed) (225)
  
40.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Pobl o Lwydgoed

[golygu | golygu cod]

Ganed yr actor Ioan Gruffudd yn y pentref ar 6 Hydref 1963.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan y Cynulliad;[dolen farw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  2. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  3. A Glance at the History of Llwydcoed wedi'i gyfieithu gan D Williams a D L Davies.
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]