Cwm Clydach

Oddi ar Wicipedia
Cwm Clydach
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCwm Clydach Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.625°N 3.48°W Edit this on Wikidata
Cod OSSS982930 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auElizabeth (Buffy) Williams (Llafur)
AS/auChris Bryant (Llafur)
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion
Ysgol Cwm Clydach

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Rhondda Cynon Taf, Cymru, yw Cwm Clydach (Saesneg: Clydach Vale). Saif ger Tonypandy. Cymer ei enw oddi wrth Nant Clydach, llednant Afon Rhondda.

Pentrefi'n uno[golygu | golygu cod]

Cyn dyfodiad diwydiant yn yr ardal, nid oedd poblogaeth Cwm Clydach yn ddwys gan ei bod yn ardal amaethyddol. Dyffryn Clydach oedd yr enw ar yr ardal yn ystod yr 17g, gyda Cwmclydach a Blaenclydach yn bentrefi ar wahân. Erbyn hyn mae'r ddau bentref wedi tyfu ac uno. Mae Partneriaeth Cymuned Cwmclydach yn cynnwys aelodau o'r ddau bentref a'r gymuned ehangach, yn ogystal â Pharc Gwledig Cwmclydach a'r Goedwig Fynyddig.

Parc Gwledig Cwmclydach a'r Goedwig Fynyddig[golygu | golygu cod]

Mae Parc Gwledig Cwmclydach yn gorwedd rhwng dau lyn Cwm Clydach, ac mae'n hafan ar gyfer adar, blodau a glöynod byw. Mae dau brif lwybr ar gyfer cerddwyr a seiclwyr drwy'r parc, gyda nifer o lwybrau eraill yn arwain i'r mynyddoedd o'i amgylch.

Hanes[golygu | golygu cod]

Deuchreodd glo gael ei gloddio yn y dyffryn yn ystod yr 1840au, ond ar raddfa fechan ac ni adeiladwyd unrhyw byllau yn y cyfnod hwn. Tuag at diwedd y ganrif, cynyddodd y cloddio, ac agorwyd nifer o lofeydd, gan gynnwys Lefel-Y-Bush (1863), Blaenclydach (1863), Cwmclydach (1864) a Clydach Vale Colleries 1, 2 a 3.

Gwrthdaro diwydiannol[golygu | golygu cod]

Daeth enw Cwm Clydach yn gyfystyr â gwaith caled y gweithwyr ym maes glo de Cymru. Agorwyd glofa Clydach Vale Colliery No. 1 yn wreiddiol gan Osbourne Riches a Samuel Thomas ym 1872; erbyn 1894 roedd yn cael ei wasanaethu gan Reilffordd Dyffryn Taf. Yn dilyn marwolaeth Thomas ym 1879, daeth ei feibion yn bartneriad rheoli'r lofa, gan ffurfio Cambrian Colleries Ltd. ym 1895. Roedd y Cambrian Collieries yn ganolbwynt ar gyfer dadleuon rhwng yr undebau llafur, megis y South Wales Miners' Federation, a'r Cambrian Combine, rhwydwaith fusnes o gwmniau mwyngloddio a ffurfiwyd i reoli prisiau a chyflogau yn ne Cymru. Arweiniodd y gwrthdaro chwerw at Derfysg Tonypandy ym 1910.

Trychinebau'r glofeydd[golygu | golygu cod]

Ar 10 Mawrth 1905, digwyddodd ffrwydriad yn Cambrian Colliery No.1. Roedd hwn i'w glywed o amgylch y dyffrynoedd am filltiroedd. Bu farw 33 a dioddefodd 14 anafiadau difrifol. Digwyddodd y ddamwain rhwng sifft dydd a sifft nos, fel arall byddai'r nifer a laddwyd wedi bod yn llawer uwch.

Ar 17 Mai 1965, digwyddodd yr ail ddamwain mawr yn Cambrian Colliery. Achoswyd ffrwydriad gan firedamp, wedi i awyriad gwael adael i nwy fflamadwy gasglu, gan ladd 31 o lowyr. Canfwyd y pwynt tanio yn ddiweddarach, arch drydannol ar banel o fotymau a oedd yn agored ac yn cael ei weithio arni. Hwn oedd y damwain cloddio mawr olaf yn ne Cymru.

Llifogydd 1910[golygu | golygu cod]

Tua 4.00 y prynhawn ar dydd Gwener 11 Mawrth 1910, bu farw dau oedolyn a pedwar o blant pan fyrstiodd dŵr, a oedd wedi adeiladu mewn hen lofa gwag, allan a drwy'r pentref. Roedd fel petai ochr y mynydd wedi cae ei wthio o'r ffordd, fel petai'n ffrwydriad llosgfynydd, gyda ffrydlif o ddŵr, pridd, a malurion eraill, yn cael eu golchi i lawr y bryn. Gorweddai stryd Adams Terrace yn union yn ei lwybr, ac yn ôl adroddiadau papurau newydd o'r cyfnod, chwalwyd y tŷ cyntaf a ddaeth yn ei ffordd fel pac o gardiau, a bu farw'r preswylydd Mrs. Elizabeth Ann Williams a'i baban pedair mlwydd oedd. Dywed y paurau y chwalwyd un-ar-ddeg o dai a siop crudd.

Rhuthrodd y llif i lawr y dyffryn gan drapio ganoedd o blant yn Ysgol Cwm Clydach. Yn ffodus, digwyddodd hyn yr un adeg ag yr oedd nifer o lowyr ar y ffordd yn ôl o'r gwath ar ôl orffen sifft, ac aethont ati i achub y plant yn syth bin, gyda cymorth staff yr ysgol. Achubwyd pawb ond tri o'r plant[1][2]

Cyfrifiad 2011[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Cwm Clydach (pob oed) (2,799)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Cwm Clydach) (238)
  
8.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Cwm Clydach) (2590)
  
92.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Cwm Clydach) (528)
  
44.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Chwaraeon[golygu | golygu cod]

Mae Cwm Clydach yn gartref i glwb pêl-droed Cambrian & Clydach Vale B. & G.C.. Mae yno hefyd glwb rygbi'r undeb, Cambrian Welfare RFC.

Trigolion enwog[golygu | golygu cod]

Lluniau Cwm Clydach[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Clydach Vale history.
  2.  Lluniau'r llifogydd. Llyfrgell Rhondda Cynon Taf.
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]