Terfysg Tonypandy

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Plismyn yn blocio'r stryd yn ystod y terfysgoedd.

Anghydfod rhwng glowyr a pherchnogion Glofa'r Cambrian yn Ne Cymru, oedd Terfysg Tonypandy (neu Terfysg y Rhondda), a ddigwyddodd yn ardal Tonypandy a'r Rhondda yn 1910 a 1911.[1] Ymyrrodd Winston Churchill yn yr anghydfod, a ffyrnigodd y Cymry'n arw drwy ddanfon milwyr a heddweision o Loegr yn hytrach na chaniatau trafodaethau rhwng y glowyr a'u cyflogwyr.

Cefndir[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd yr anghydfod ar ôl i gwmni Naval Colliery Company agor gwythïen newydd ym Mhwll Ely ym Mhen-y-graig. Yr oedd y perchnogion yn dadlau bod y glowyr yn fwriadol yn gweithio'n arafach nag y gallent. Ar y llaw arall mynnai'r glowyr fod y wythien newydd yn fwy anodd i'w gweithio nag eraill. Telid y glowyr wrth y dunnell ac nid yn ôl yr awr felly ni fyddai'r glowyr wedi elwa o weithio'n arafach.[2]

Ar 1 Medi 1910, cyhoeddodd perchnogion y lofa bosteri'n nodi eu bwriad i gau pob gwythien, a fyddai'n effeithio pob un o 950 gweithiwr y lofa.[2]:[p175] Aeth y dynion ar streic a galwodd y Cambrian Combine ddynion o du allan i'r ardal i dorri'r streic. Ffurfiodd y glowyr linellau piced a chynhaliodd Ffederasiwn Glowyr De Cymru falot, ac aeth 12,000 o lowyr cwmni'r Cambrian Combine ar streic.[2]:[p175] Gwrthododd y glowyr y cynnig o 2s 3c y tunnell.[2]:[p175]

Ar 2 Tachwedd, galwodd yr awdurdodau am gymorth milwrol i ddod a'r streic i ben ac i ddeilio gyda'r glowyr.[3]:[p109]

Y terfysg cyntaf: Tonypandy[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 6 Tachwedd roedd pob glofa yn ne Cymru o eiddo Cambrian Combine, ar wahân i Lwynypia, wedi cau.[4] Amgylchynwyd Glofa Llwynypia gan lowyr a oedd ar streic, ac a oeddent yn gwrthwynebu'r ffaith fod streic-dorrwyr ar y ffordd yno i gadw'r lofa ar agor. Yn groes i gyngor yr arweinyddion, dechreuodd rhai glowyr daflu cerrig ar un o'r adeiladau; ar hyn, aeth yn frwydr rhwng y glowyr a heddlu Morgannwg. Ymledodd y terfysg i'r dref, hyd ddau o'r gloch y bore. Sylweddolodd Lionel Lindsay, prif heddwas Morgannwg na allai ymdopi gyda chynifer o bobl ac anafiadau ar y ddwy ochr a galwodd am gymorth milwyr.[4]

Danfonwyd heddlu Metropolitanaidd Llundain, milwyr ar feirch y diwrnod wedyn, a'r milwyr o'r 18th Hussars i gyrraedd Pontypridd am 8:15 am.[3]:[p122] ar 9 Tachwedd. Roedd terfysg mewn sawl trf erbyn hyn ac aeth rhai ohonynt i Aberaman, Llwynypia, y Porth a mannau eraill.[3]:[p122]

Nid aeth y rhan fwyaf o'r glowyr am driniaeth meddygol, gan y byddent wedyn yn cael eu herlyn am fod yn derfysgwyr. Gwyddom, fodd bynnag, i'r glowr Samuel Rhys farw wedi iddo gael ei drywanu gan blismon, ac y clwyfwyd 80 deddwas a 500 o bobl.[5] Erbyn hyn roedd aelodau o'r Lancashire Fusiliers hefyd wedi cyrraedd.

Yn Rhagfyr erlidiwyd 13 o lowyr o'r Gilfach Goch am eu rhan a chafwyd protestiadau enfawr y tu allan, gyda dros 10,000 o bobl yn cefnogi'r glowyr. Bu'r glowyr ar streic am gyfanswm o 10 mis, gan ddychwelyd yn Awst 1911.

Credir i'r Terfysgoedd hyn ysgogi deddf newydd a orfodai'r cyflogwr i roi lleiafswm o gyflog i'w weithwyr.[6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Evans, Gwyn; Maddox, David (2010). The Tonypandy Riots 1910–11. Plymouth: University of Plymouth Press. ISBN 978-1-84102-270-3. 
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Lewis, E.D. (1959). The Rhondda Valleys. London: Phoenix House. 
  3. 3.0 3.1 3.2 Herbert, Trevor, ed. (1988). Wales 1880–1914: Welsh History and its sources. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0967-4. 
  4. 4.0 4.1 Tonypandy heritage Cyngor Rhondda Cynon Taf
  5. Powerhouse Development Plans at Rhondda Cynon Taf Council website
  6. Jones L Cwmardy (first published 1937), a Lawrence & Wishart 1978, Nodyn:ISBN