Abernant, Rhondda Cynon Taf

Oddi ar Wicipedia
Abernant
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRhondda Cynon Taf Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.721°N 3.428°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map
Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Abernant (gwahaniaethu).

Pentref ger Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf yw Aber-nant.[1] Yn Saesneg tueddir i ddefnyddio'r sillafiad "Abernant", a arferid gynt yn Gymraeg cyn y safoni a fu ar sillafiadau enwau lleoedd Cymru yn 1957.[2] Saif Aber-nant i'r de-ddwyrain o Aberdâr, yng Nghymoedd De Cymru. Pentref glofaol ydoedd a gafodd ei sefydlu yn 1801 pan sefydlwyd gwaith haearn yn Aberdâr.[3] Ymhlith y tai cyntaf i'w codi yno roedd Little Row a Moss Place.

Mae strydoedd Aber-nant yn adlewyrchu pwysigrwydd y diwydiant glo a dur yn yr ardal yn y 19eg ganrif gydag enwau'r strydoedd yn brawf o hynny: Engineer's Row, Foreman's Row a Collier's Row ayb.[3]

Llifogydd yn y pentref yn Rhagfyr 1912.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[4][5]

Gorsaf reilffordd[golygu | golygu cod]

Agorwyd Gorsaf Reilffordd Aber-nant yn 1854 ar hyd Dyffryn Nedd a hyd at Merthyr Tudful.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Comisiynydd y Gymraeg;[dolen marw] Cyrchwyd 12 Awst 2020
  2. [ Rhestr o Enwau Lleoedd: A Gazetteer of Welsh Place-names. Pwyllgor Iaith a Llenyddiaeth Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru. 1996. (Argraffiad Cyntaf: 1957). Golygwyd gan Elwyn Davies (1912-1994). ISBN 0708310389.]
  3. 3.0 3.1 "Abernant". Rhondda Cynon Taff Library. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-18. Cyrchwyd June 7, 2010.
  4. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014