Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr

Oddi ar Wicipedia

Ysgol gynradd Gymraeg yw Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr. Lleolir yr ysgol yng Nghwmdâr, Aberdâr. Adleolwyd yr ysgol o'i chyn safle ger pentref Aberaman yn 2003 oherwydd cyflwr gwael yr hen adeilad Fictorianaidd. Yr enw ar yr ysgol bryd hynny oedd Ysgol Gynradd Gymraeg Ynyslwyd. Prifathro yr ysgol yw Mr. David Davies.[angen ffynhonnell]

Cyfleusterau[golygu | golygu cod]

Mae'r ysgol newydd wedi ei lleoli yng nghanol Cwmdâr mewn adeilad fodern. Mae ganddi gae mawr i'w defnyddio yn yr haf, ac mae campfa yn cael ei defnyddio ar gyfer holl ddigwyddiadau yr ysgol, gwasanaethau ac fel ffreutur. Mae gan yr ysgol nifer o gyfrifiaduron a llyfrgell.[angen ffynhonnell]


Galeri - Lluniau Safle yr Ysgol (2003)[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.