Crochendy Nantgarw
Plat Nantgarw, c. 1813-1822 | |
Math | busnes |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | The Pottery, Nantgarw |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5646°N 3.267°W |
Mae Crochendy Nantgarw yn ffatri porslen, a fu hefyd yn gwneud mathau eraill o grochenwaith yn ddiweddarach, a leolir yn Nantgarw ar lan ddwyreiniol Camlas Morgannwg, 8 milltir (13 km) i'r gogledd o Gaerdydd.[1] Bu'r ffatri yn cynhyrchu porslen o ansawdd uchel iawn, yn enwedig yn y blynyddoedd o 1813-1814 a 1817-1820. Roedd y corff yn wyn iawn ac yn dryloyw, a rhoddwyd iddi addurniad troswydryn o ansawdd uchel, yn bennaf yn Llundain neu mewn mannau eraill yn hytrach nag yn y ffatri. Roedd y nwyddau yn ddrud, ac yn cael eu dosbarthu'n bennaf trwy werthwyr Llundain. Platiau oedd y cynnyrch mwyaf cyffredin a wnaed. Fel rheol cawsant eu darlunio efo garlantau o flodau mewn helaethrwydd o liwiau, arbenigedd y sylfaenydd, William Billingsley. Ynghyd â phorslen Abertawe, roedd Nantgarw yn un o'r ffatrïoedd olaf i wneud porslen meddal, pan oedd ffatrïoedd Lloegr wedi newid i lestri asgwrn, a'r rhai cyfandirol ac Asiaidd yn parhau i wneud porslen caled.[2]
Mae hanes perchnogaeth a rheolaeth y ffatri yn gymhleth. Roedd y fformiwla gyntaf, a ddefnyddiwyd yn 1813-14, yn rhoi canlyniadau ardderchog, ond roedd ganddi gyfradd gwastraff annerbyniol o uchel, yn dueddol o anffurfio yn ystod tanio. Roedd y fformiwla hon hefyd yn cael ei defnyddio yn Abertawe, a gall darnau fod yn amhosibl eu dyrannu rhwng y ddau yn hyderus. Ar ôl cyfnod o arbrofi, defnyddiwyd y fformiwla wreiddiol o 1817-1820 eto.
Ar ôl peidio â gwneud neu addurno porslen yn y 1820au, a chyfnod o gau, ail agorwyd y crochenwaith ym 1833. Roedd yn cynhyrchu priddlestri a llestri caled, yn ogystal â chetynau clai, cyn cau yn y pendraw ym 1920, pan ddaeth sigaréts i ddisodli cetynau. Mae'r safle bellach yn amgueddfa, ac mae hefyd yn grochenwaith sy'n gweithio. Yn 2017 gwnaed swm cyfyngedig o borslen yno, gan ddefnyddio adferiad o'r fformiwla wreiddiol.[3]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlu
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd Gwaith Nantgarw ym mis Tachwedd 1813, wedi i'r artist a chrochenydd William Billingsley a'i fab-yng-nghyfraith Samuel Walker, technegydd medrus, rhentu Tŷ Nantgarw ar lan ddwyreiniol Camlas Morgannwg, wyth milltir i'r gogledd o Gaerdydd yn Nyffryn Taf, Sir Forgannwg. Adeiladwyd odynau a'r offer ategol ar dir y tŷ a oedd yn angenrheidiol i drawsnewid yr adeilad yn grochenwaith porslen bach.[4]
Roedd Billingsley wedi bod yn allweddol wrth ddatblygu'r rysáit porslen ar gyfer cwmni Flight, Barr & Barr yn Royal Worcester, Caerwrangon. Roedd ef a Walker wedi llofnodi cytundeb i beidio â datgelu eu rysáit porslen newydd i drydydd parti, ond nid oedd cymal yn eu hatal rhag defnyddio'r rysáit honno eu hunain. Roeddynt wedi gadael Caerwrangon yn gyfrinachol [5] gan ddechrau'r fenter yn Nantgarw gyda dim ond £250 i fuddsoddi yn y prosiect rhyngddynt. Erbyn Ionawr 1814, roedd yr entrepreneur a'r Crynwyr, William Weston Young, eisoes wedi dod yn brif ddeiliad y cyfranddaliad yn y fenter, wedi buddsoddi £630 i'r cyfnod cynhyrchu cyntaf yn Nantgarw. Fel mae ei ddyddiaduron yn Archifdy Morgannwg yn tystio, lle cofnodir taliadau i Mr "Bealey;" ffugenw bu Billingsley yn ei ddefnyddio ers gadael Royal Worcester .
Tybir bod Young yn gyfarwydd â Billingsley drwy gyd gyfaill, yr addurnwr pridd Thomas Pardoe. Cysylltodd Billingsley a Pardoe Nghrochendy Cambrian Abertawe, wrth chwilio am waith ym 1807. Efallai y byddai gwaith Young ar draws Sir Forgannwg fel syrfëwr wedi ei roi mewn sefyllfa i gynghori Billingsley cyn iddo ymadael a Royal Worcester, o addasrwydd y safle yn Nantgarw. Roedd ei agosrwydd at Gamlas Morgannwg yn galluogi llongau trwm o glai llestri, yn ogystal â nwyddau porslen cain y crochenwaith i gael eu cludo'n ddidrafferth i docynnau Caerdydd gan gychod camlas.
Symud i Abertawe
[golygu | golygu cod]Wedi sefydlu'r crochenwaith, roedd Billingsley yn ceisio cynhyrchu porslen meddal. Gwnaed porslen Nantgarw i fformiwla gyfrinachol Billingsley. Cafodd esgyrn, wedi'u llosgi a'u cymysgu â chlai eu malu gan David Jones mewn melin wrth ymyl tŷ tafarn y Cross Keys, yn y pentref. Cafodd yr olwyn ddŵr ei bweru gan ddyfrffos a oedd yn rhedeg o'r gamlas i Afon Taf. Roedd y tymheredd uchel oedd ei angen i gynhyrchu darnau yn gwneud dull pastio meddal Billingsley yn anodd. Roedd y mwyafrif helaeth o'r darnau yn gam neu'n chwalu yn y broses tanio. Yn fuan, daeth adnoddau'r tri chydymaith i ben a aethant at Bwyllgor Masnach a Phlanhigfeydd Llywodraeth Prydain (Y Bwrdd Masnach), i ofyn am grant o £ 500,[6] gan gyfeirio at y cymhorthdal a roddir i Ffatri porslen enwog Sèvres gan Lywodraeth Ffrainc. Nid oeddent yn llwyddiannus. Ond bu un aelod o'r pwyllgor, un brwdfrydig am borslen, Syr Joseph Banks, ac awgrymu bod ei gyfaill, y crochenydd Lewis Weston Dillwyn, o Grochendy Cambrian, Abertawe, gwneud archwiliad ac adrodd yn ôl ar y mater.
Gwnaeth Dillwyn ei arolygiad, gan arsylwi bod 90% o'r porslen yn cael ei difetha yn y tanio,[7] ond roedd wedi plesio gydag ansawdd y darnau a oedd yn goroesi. Rhoddodd gwahodd i Billingsley a Walker i ddefnyddio ei gyfleusterau yng Nghrochendy Cambrian i geisio gwella eu rysáit a'u proses. Adeiladwyd estyniad ar gyfer cynhyrchu porslen yng Nghrochendy Cambrian, lle fu Walker a Billingsley yn gweithio o ddiwedd 1814. Cafodd y rysáit ei addasu a'i wella, ond roedd yn dal yn rhy wastraffus ym marn Dillwyn. Rhoddwyd gorau i'r prosiect ym 1817, pan ddychwelodd y pâr i Nantgarw. Roedd ymdrechion Royal Worcester i erlyn Dillwyn, Billingsley a Walker am dorri contract yn rheswm arall i Dillwyn roi'r gorau i gynhyrchu'r porslen yng Nghrochendy Cambrian.
Yn ôl yn Nantgarw
[golygu | golygu cod]Yn ail gyfnod cynhyrchiad Nantgarw, buddsoddodd Young £1,100 pellach yn y crochenwaith yn ogystal â chodi £1,000 pellach gan "deg bonheddwr o'r sir". Parhaodd Billingsley a Walker i danio eu porslen, a oedd erbyn hyn o'r ansawdd gorau llwyddodd Billingsley i'w creu, ond eto'n dal i wneud colled.
Ym mis Ebrill 1820, tra bod Young i ffwrdd ym Mryste, ffodd Billingsley a Walker i Coalport [8] gan adael ar eu hol y brydles i'r crochenwaith a sawl mil o ddarnau o borslen mewn gwahanol gamau o gynhyrchiad.
Rhoddodd Young Crochenwaith Nantgarw a'i chynnwys ar werth trwy ocsiwn cyhoeddus ym mis Hydref 1820. Roedd yr arian a godwyd o'r ocsiwn yn ei alluogi i ad-dalu ei fân bartneriaid a daeth yn unig berchennog yr hyn oedd yn weddill o'r busnes. Dechreuodd rheoli, cwblhau a gwerthu'r stoc oedd yn weddill; gan achub y busnes yn effeithiol. Gwahoddodd ei gyfaill a'i gyn artist cydweithredol o Grochenwaith Cambrian, Thomas Pardoe, i'w gynorthwyo gyda chwblhau ac addurno'r porslen a achubwyd. Llwyddodd Young a Pardoe i berffeithio gwydredd ar gyfer y llestr, ond ni allent ychwanegu at y stoc heb rysáit Billingsley. Cododd gwerthiant terfynol y porslen gorffenedig (a werthwyd rhwng 1821 a 1822), digon i dalu Pardoe a chyflogau ei staff, ond methodd ag ad-dalu buddsoddiad Young, gan adael iddo osgoi methdaliad o drwch blewyn. Heblaw am y porslen a addurnwyd gan Young, ond yn bennaf gan Pardoe, yn Nantgarw, gwerthwyd llawer o ddarnau yn y gwyn i'w haddurno yn Llundain [9]. Mae'n hysbys bod y nwyddau hyn wedi'u haddurno gan Thomas Martin Randall (yn gweithio i John Mortlock ar y pryd), John Latham, William Peg ac mae'n debyg Matthew Colclough.
Gwaith Pardoe
[golygu | golygu cod]Yn 1833 cymerodd William Henry Pardoe, mab Thomas Pardoe, rheolaeth Crochenwaith Nantgarw a dechreuodd cynhyrchu boteli crochenwaith caled a phriddlestri gwydrog brown a elwir yn Rockingham ware. Dechreuodd hefyd gynhyrchu cetynau tybaco clai, gyda llawer ohonynt yn cael eu hallforio i Iwerddon. Parhaodd y busnes o dan ddisgynyddion Pardoe, ac ar ei uchafbwynt roedd tua 10,000 cetyn yr wythnos yn cael ei gynhyrchu, hyd iddo gael ei gau ym 1920, pan ddisodlodd sigaréts cetynau clai o'r fath.
Casgliadau
[golygu | golygu cod]Gellir gweld casgliadau o'r nwyddau hanesyddol mewn amgueddfeydd gan gynnwys Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd,[10][11] Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog, Pwllheli[12] ac Amgueddfa Victoria ac Albert yn Llundain.
Amgueddfa'r Crochendy
[golygu | golygu cod]Ym 1989, prynwyd y safle lled adfeiliedig gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Taf-Elai. Ar ôl cloddio archeolegol ac adfer yr odynnau a'r adeiladau, agorodd y safle i'r cyhoedd ddwy flynedd yn ddiweddarach fel Gwaith ac Amgueddfa Crochendy Nantgarw. Caeodd ar ddiwedd 2008 oherwydd toriadau yn gyllideb Cyngor Rhondda Cynon Taf. Ail-agorwyd yr Amgueddfa ym mis Tachwedd 2010 gan ddau artist. Mae'r amgueddfa ar hyn o bryd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer stiwdios arlunwyr, arddangosfeydd, dosbarthiadau celf a digwyddiadau arbennig.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "NANTGARW POTTERY, TAFF'S WELL". Coflein Cymru. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ Honey, W.B., Old English Porcelain, 1977 (3rd edn.), Faber and Faber, ISBN 0571049028
- ↑ "Nantgarw China Works porcelain produced after 200 years". Bewyddion BBC Cymru. 10 Rhagfyr 2017. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ "Crochendy Nantgarw - Hanes". Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ "SWANSEA SCIENTIFIC SOCIETY - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1887-08-30. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "GWEITHIAU PRIDDLESTRI CHINA NANTGARW - Y Dydd". William Hughes. 1868-11-06. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "Recreating Nantgarw porcelain". Art Fund. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ "CARDIFF NATURALISTS SOCIETY - The Western Mail". Abel Nadin. 1888-03-24. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "OLD WELSH PORCELAIN - The Cambrian". T. Jenkins. 1902-02-07. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "NANTGARW CHINA AT THE CARDIFF MUSEUM - Evening Express". Walter Alfred Pearce. 1891-05-02. Cyrchwyd 2019-01-11.
- ↑ "Crochenwaith a phorslen Cymru". Amgueddfa Cymru. Cyrchwyd 11 Ionawr 2019.
- ↑ Gwefan Plas Glyn y Weddw - Casglaid Porslen adalwyd 11 Ionawr 2019