Fflur Dafydd

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Fflur Dafydd
Ganwyd 1978 Edit this on Wikidata
Llandysul Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Dwyrain Anglia Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwefan http://www.fflurdafydd.com/ Edit this on Wikidata

Nofelydd, academydd a cherddores Cymreig yw Fflur Dafydd (ganwyd 1978).

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yn 1978 yn ferch i'r bardd Menna Elfyn, a magwyd yn Llandysul. Yn 1999, enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd am Y Gwir am Gelwydd. Astudiodd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan ennill gradd yn y Saesneg, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Dwyrain Anglia, ac ennill gradd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Wedi hynny enillodd ddoethuriaeth yn seiliedig ar waith R. S. Thomas ym Mhrifysgol Cymru, Bangor.

Wedi gorffen ei hastudiaethau, bu'n ysgrifennu ar gyfer y theatr, y radio a'r teledu, cyn penderfynu canolbwyntio ar ryddiaith. Bu’n awdur preswyl ar Ynys Enlli yn 2002, ac eto yn Helsinki, y Ffindir yn 2006. Mae hefyd yn cyhoeddi ysgrifau beirniadol ar farddoniaeth R. S. Thomas ac yn darlithio ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe a Choleg y Drindod.[1]

Cyhoeddodd ei nofel gyntaf Lliwiau Liw Nos yn 2005, a'i hail, Atyniad, yn 2006. Enillodd Atyniad y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 2006. Cyhoeddwyd ei nofel Saesneg gyntaf, Twenty Thousand Saints, gan wasg Alcemi.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 gyda'i nofel Y Llyfrgell, nofel ffantasi wedi ei gosod yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.[2]

Ysgrifennodd dri chyfres o'r ddrama deledu Parch rhwng 2015 a 2018 a phedwerydd cyfres 35 Awr yn 2019.

Erbyn hyn mae Fflur yn briod ac yn byw yng Nghaerfyrddin.

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn codi o ludw'r band 'girl power-pop' Johnny Panic / Y Panics ar ddechrau'r degawd, dechreuodd Fflur Dafydd ar ei thaith fel artist unigol drwy ryddhau'r albwm Coch Am Weddill Fy Oes yn 2004.

Yn glanio ar y sîn ar yr un pryd â Gwyneth Glyn a Lleuwen Steffan, roedd gan Fflur ei steil ei hun oedd yn adleisio cantorion-gyfansoddwyr Americanaidd y 70au, wedi eu sianelu drwy ysbryd y grŵp Jess a Huw Chiswell yn llywio'r cyfan.

Dawn dweud stori yn gryno mewn cân sydd gan Fflur, a gyda'i band Y Barf - wedi'u henwi ar ôl y blew bythol-bresennol ar wyneb ei phrif gitarydd, Rhys James - gall ymddangos ar ffurf baled tawel neu jam ffwnclyd.

Yn ymwybodol o'i hetifeddiaeth cerddorol Cymraeg, mae'r briodas eiriol ac offerynnol yn ei chaneuon yn un lwyddiannus iawn, gyda'r melys, y chwerw, y dathlu a'r hiraethu i gyd yn nodweddion sydd i'w clywed ar draws ei gwaith.

Rhyddhawyd yr ail albwm Un Ffordd Mas yn 2007, a gwelwyd ei chrefft yn aeddfedu eto. Ar diwedd 2009 rhyddhawyd Byd Bach; trydydd albwm sydd yn cynnwys caneuon wedi'u seilio ar y llefydd hynny yng Nghymru sydd wedi gadael eu marc ar y gantores o Gaerfyrddin.

Rhyddhawyd Ffydd, Gobaith, Cariad, ei phedwaredd albwm fel artist unigol, yn 2012.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau Cymraeg[golygu | golygu cod y dudalen]

Nofelau Saesneg[golygu | golygu cod y dudalen]

Straeon byrion[golygu | golygu cod y dudalen]

Dramâu[golygu | golygu cod y dudalen]

Disgograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

Albymau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Pethau Rhyfedd (2003)
  • Coch am weddill fy oes (2004)
  • Un Ffordd Mas (2007)
  • Byd Bach (2009)
  • Ffydd Gobaith Cariad (2012)

Senglau/EPs[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Dala Fe Nôl
  • Helsinki
  • Caerdydd / Porthgain

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Mark Thwaite. Interview with Fflur Dafydd. Book Depository.
  2.  Fflur Dafydd yn ennill gwobr goffa Daniel Owen am ei nofel 'Y Llyfrgell'. Llyfrgell Genedlaethol Cymru (5 Awst 2009).

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]