Meg Elis

Oddi ar Wicipedia
Meg Elis
GanwydMargaret Ann Ellis Edit this on Wikidata
26 Hydref 1950 Edit this on Wikidata
Aberystwyth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethawdur, cyfieithydd Edit this on Wikidata
TadThomas Iorwerth Ellis Edit this on Wikidata
PerthnasauThomas Edward Ellis Edit this on Wikidata

Gwleidydd, cyfieithydd ac awdur toreithiog yw Meg Elis (ganwyd 26 Hydref 1950) a safodd yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 ar ran Plaid Cymru ac sy'n byw ers rhai blynyddoedd yn Waunfawr, Caernarfon.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganed Margaret Ann Ellis yn Aberystwyth yn ferch i Thomas Iorwerth Ellis a Mari Ellis. Roedd ei mam yn ei galw yn Marged. Yn y coleg roedd cyn-gariad yn hoff o dalfyrru enwau a felly cafodd yr enw 'Meg'.[1]

Mynychodd Ysgol Ramadeg Ardwyn ac aeth ymlaen i astudio yn Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Yn yr adeg yma bu'n ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith ac aeth i'r carchar dwy neu dair gwaith. Bu hefyd yn protestio yn Greenham Common.[2]

Roedd ganddi fusnes o'r enw 'NEWID' yn cynnig gwasanaeth cyfieithu a bu'n newyddiadurwr ac yn gynhyrchydd radio cyn hynny.[3]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Llyfrau[golygu | golygu cod]

Dyddiad Cyhoeddi Hydref 2015; Cyhoeddwr: Gwasg y Bwthyn, Caernarfon. Nofel.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Beti a'i Phobol - Meg Elis. BBC Cymru (2 Gorffennaf 2017). Adalwyd ar 28 Medi 2020.
  2.  BBC - Llais Merch. BBC Cymru. Adalwyd ar 28 Medi 2020.
  3. cyfieithwyr.cymru; adalwyd Rhagfyr 2016.
  4. amazon.co.uk; adalwyd Rhagfyr 2016.
  5. Gwasg y Lolfa;[dolen marw] adalwyd Rhagfyr 2016.