Mari Ellis

Oddi ar Wicipedia
Mari Ellis
Ganwyd21 Gorffennaf 1913 Edit this on Wikidata
Dylife Edit this on Wikidata
Bu farw25 Ionawr 2015 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
PriodThomas Iorwerth Ellis Edit this on Wikidata
PlantMeg Elis Edit this on Wikidata

Awdur ac ymgyrchydd dros hawliau menywod o Gymraes oedd Mari Gwendoline Ellis (ganwyd Mary Gwendoline Headley, 21 Gorffennaf 191325 Ionawr 2015).[1]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Fe'i ganed yn Dylife, Sir Drefaldwyn, yn ferch i'r Parchedig Richard Llewelyn Headley. Ym 1936 graddiodd gyda BA Anrh yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, a gwnaeth radd MA ym 1938. Ar ôl gweithio mewn amryw lyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr, ym 1944 fe’i penodwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. Priododd â Thomas Iorwerth Ellis ym 1949. Eu merch yw'r awdur Meg Elis. Bu'n golygu 'Tŷ Ni', adran merched yn Y Cymro am 9 mlynedd a chyhoeddodd Ffenest y Gegin ym 1965. Roedd ganddi golofn hefyd yn Y Llan am nifer o flynyddoedd.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Ffenest y Gegin 1965
  • Y Golau Gwan - llythyrau caru TE Ellis

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Meic Stephens (2015-03-15). "Mari Ellis: Writer who worked for the New Wales Union and championed women's rights - People - News". Independent.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-07. Cyrchwyd 2015-04-16.