Ysgol Ramadeg Ardwyn

Oddi ar Wicipedia
adeilad hen Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth

Hen ysgol ramadeg yn Aberystwyth ar gyfer talgylch gogledd Ceredigion oedd Ysgol Ramadeg Ardwyn. Addysgwyd nifer o enwogion Cymru yn yr ysgol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd yr ysgol yn 1891 gan ddod i ben yn 1973. Cedwyr ei harchifau yn Archifdy Ceredigion. Wedi cau'r ysgol daeth yr adeilad yn gartref i Ysgol Penweddig a'r hen ysgol 'Secondary Modern' Pendinas, yn gartref i ysgol cyfrwng Saesneg, Ysgol Penglais.

Saesneg oedd cyfrwng addysg yr ysgol. Byddai disgyblion yn teithio o ardal hen gantref Penweddig a thu hwnt i aros dros nos neu am wythnos, yn ogystal â disgyblion mwy lleol yn mynychu'n ddyddiol.

Ceir atgofion o safon ac amrywiaeth yr addysg a'r sioc o fynd i awyrgylch Seisnig wedi bod mewn ysgolion cynradd Cymraeg lleol gan aelodau Merched y Wawr.[1]

Yn ystod yr 1960au gyda'r twf yn y symudiad oddi ar addysg ramadeg a tuag at addysg gyfun. Yn 1966 roedd natur a chyflwr yr adeilad yn destun trafodaeth a codwyd cwestiwn ar fuddsoddiad yn yr adeilad gan y cyn-ddisbygl a'r aelod seneddol lleol, Elystan Morgan[2]

Presennol[golygu | golygu cod]

Mae'r adeilad bellach wedi ei throi'n fflatiau ac adeiladwyd tai ar y tir o'i hamgylch. Gelwir fflatiau'r hen adeilad yn 'Llŷs Ardwyn' a cheir 'Bryn Ardwyn' lle bu rhai o adeiladau allanol yr ysgol.

Cyn-ddisgyblion[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]