Huw Chiswell

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Huw Chiswell
Huw Chiswell - 4493156484.jpg
Huw Chiswell. Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987.
Gwybodaeth gefndirol
Enw genedigol Donald Huw Chiswell[1]
Ganwyd (1961-05-11) 11 Mai 1961 (58 oed)
Man geni Baner Cymru Cwm Tawe
Galwedigaeth(au) Cantor, cyfansoddwr, actor
Label(i) recordio Sain
Gwefan huwchiswell.com

Cerddor, actor, cynhyrchydd a cyfarwyddwr Cymreig ydy Huw Chiswell (ganwyd 11 Mai 1961).[1][2]

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd yng Nghwm Tawe, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Pant-teg, Ysgol Gyfun Ystalyfera a Phrifysgolion Aberystwyth ac Abertawe.

Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987. Lluniau gan Medwyn Jones

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd yn aelod o'r bandiau Y Crach a Y Trwynau Coch. Cyfansoddodd y gân elusen i Ethiopia "Dwylo dros y môr" yn 1985.[3] Ym 1984 enillodd gystadleuaeth Cân i Gymru gyda'r gân "Y Cwm", a gyfansoddwyd gan Chiswell a'i chanu gan Geraint Griffiths. Ym mis Tachwedd 2005 cyhoeddwyd cryno-ddisg a llyfr caneuon Goreuon Huw Chiswell. Ar 26 Ionawr 2005 cymerodd ran yng nghyngerdd Tsunami Caerdydd. Yn 2006 bu'n feirniad ar raglen gerddoriaeth Wawffactor ar S4C .

Actio[golygu | golygu cod y dudalen]

Ymddangosiad fel y cymeriad golygus Carlos yn y ffilm Ibiza Ibiza!.

Disgograffi[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rhywbeth o'i le 1986
  • Rhywun yn gadael 1989
  • Cameo Man 1993, Sain
  • Dere Nawr 2003, Sain
  • Goreuon Huw Chiswell Tachwedd 2005, Sain

Clipiau cerddoriaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Y Cwm
Rhywbeth O'i Le
Y Gwir

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1  FindTheCompany. findthecompany.co.uk. Adalwyd ar 25 Ionawr 2016.
  2. Noson Lawen - Huw Chiswell, S4C; Adalwyd 2015-12-29
  3. Bywgraffiad Huw Chiswell; BBC Cymru; Adalwyd 2015-12-29
Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.