Dwylo Dros y Môr

Oddi ar Wicipedia
"Dwylo Dros y Môr"
Sengl gan Artistiaid amrywiol
Ochr-B Dewch Ynghyd
Rhyddhawyd 1985
Fformat Sengl 7"
Genre Pop
Ysgrifennwr Huw Chiswell

Cân elusennol a ryddhawyd er mwyn codi arian ar gyfer pobl a oedd yn newynu yn Ethiopia, Affrica oedd Dwylo Dros y Môr. Fe'i rhyddhawyd i gyd-fynd â'r sengl Do They Know It's Christmas? gan Band Aid.[1] Roedd Huw Chiswell, Geraint Griffiths, Gareth Morlais a Linda Griffiths ymhlith y cantorion a ddaeth ynghyd er mwyn recordio'r gân. Cynhyrchwyd y record gan Myfyr Isaac.

Cynhaliwyd 'Cyngerdd Arian Byw' yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd i godi arian at yr elusen.

Rhyddhawyd fersiwn newydd o'r gân yn 1990.

Rhyddhawyd fersiwn newydd o'r gân yn 2020.[2][3]

Rhestr o berfformwyr[golygu | golygu cod]

Unawdwyr
Côr
Cerddorion
  • Myfyr Isaac
  • Graham Smart
  • Graham Land
  • Chris Childs
  • Iolo Jones
  • Graham Pritchard
  • Tich Gwilym

Rhestr o berfformwyr (2020)[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Colin Larkin (1995). The Guinness Encyclopedia of Popular Music (yn Saesneg). Guinness Pub. t. 168. ISBN 978-1-56159-176-3.
  2. "Dwylo Dros y Môr 2020". Community Foundation Wales (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Ionawr 2021.
  3. "Ble mae'n bosib prynu a gwrando ar y gân?". Community Foundation Wales. Cyrchwyd 11 Ionawr 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.