Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009
 ← Blaenorol Nesaf →

-

Lleoliad Tir Stad y Rhiwlas, Y Bala, Gwynedd. LL23 7DN
Cynhaliwyd 1af-8fed o Awst 2009
Archdderwydd Dic Jones
Daliwr y cleddyf Robin o Fôn
Cadeirydd Elfyn Llwyd
Llywydd Gwilym Prys Davies
Cost cynnal £3.3 miliwn
Nifer yr ymwelwyr 164,689 [1]
Enillydd y Goron Ceri Wyn Jones
Enillydd y Gadair neb yn deilwng
Gwobr Daniel Owen Fflur Dafydd
Gwobr Goffa David Ellis Trebor Lloyd Evans
Gwobr Goffa Llwyd o’r Bryn Elin Williams
Gwobr Goffa Osborne Roberts Trystan Llŷr Griffiths
Gwobr Richard Burton Gwydion Rhys
Y Fedal Ryddiaith Siân Melangell Dafydd
Medal T.H. Parry-Williams Haf Morris
Tlws Dysgwr y Flwyddyn Meggan Lloyd Prys
Tlws y Cerddor Atal y Wobr
Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts Catrin Aur
Medal Aur am Gelfyddyd Gain Elfyn Lewis
Medal Aur am Grefft a Dylunio Lowri Davies
Gwobr Ivor Davies Osi Rhys Osmond
Gwobr Dewis y Bobl Lowri Davies
Ysgoloriaeth yr Artist Ifanc Hywel Prytherch Roberts
Medal Aur mewn Pensaernïaeth penseiri canolfan ymwelwyr Hafod Eryri
Ysgoloriaeth Pensaernïaeth Sian Seys-Evans
Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg Dafydd Dafis
Gwefan www.eisteddfod.org

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau 2009 ar gaeau Stad Rhiwlas, ger Y Bala, Gwynedd, rhwng y 1af a’r 8fed o Awst. Roedd cost yr Eisteddfod yn £3.3 miliwn gyda'r gronfa leol wedi codi £290,000, sef £90,00 yn fwy na'r targed.[2]

Oherwydd yr holl law yn ystod yr wythnosau a oedd yn arwain at yr eisteddfod, roedd y maes ei hun mewn stâd reit ddrwg ar ddydd Sadwrn cyntaf yr ŵyl. Dywedodd y prif weithredwr, Elfed Roberts, fod y sefyllfa'n "edrych yn ddigon blêr ar y Maes ond bod gweithwyr yn ceisio cymoni a gosod ffyrdd i lawr". Erbyn canol yr wythnos, roedd cyflwr llawr y maes wedi gwella'n sylweddol oherwydd gwellhad yn y tywydd ac ymdrechau i gorchuddio'r ardaloedd gwlyb efo lloriau.

Poster Gigs Cymdeithas yr Iaith

Prif gystadlaethau[golygu | golygu cod]

Prif Gystadlaethau
Cystadleuaeth Teitl y Darn Ffugenw Enw
Y Gadair Atal y wobr
Y Goron Yn y Gwaed "Moelwyn" Ceri Wyn Jones
Y Fedal Ryddiaeth Y Trydydd Peth "y mynydd segur" Siân Melangell Dafydd
Gwobr Goffa Daniel Owen Y Llyfrgell "Palindrom" Fflur Dafydd

Y Cadeirio[golygu | golygu cod]

Dyfarnwyd nad oedd neb yn deilwng yn 2009, ac atalwyd y gadair am y tro cyntaf ers 1998. Dywedodd y cyn-Archdderwydd Selwyn Iolen (yn absenoldeb Dic Jones) ei bod yn "bwysicach cadw safon na chynnal seremoni".

Y Coroni[golygu | golygu cod]

Enillydd y goron oedd y Prifardd Ceri Wyn Jones am gerddi wedi'u cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.

Gwobr Goffa Daniel Owen[golygu | golygu cod]

Fflur Dafydd a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen. Y beirniaid oedd John Rowlands, Geraint Vaughan Jones a Rhiannon Lloyd. Galwodd John Rowlands yr awdur yn "ddewin llenyddol" a luniodd "nofel anghyffredin dros ben".

Gwobrau Celf[golygu | golygu cod]

  • Y Fedal Aur am Bensaernïaeth: penseiri canolfan ymwelwyr Hafod Eryri, y ganolfan newydd ar gopa'r Wyddfa gafodd ei hagor ym mis Mehefin.
  • Y Fedal Aur am Grefft a Dylunio: Lowri Davies, crochenydd o Gaerdydd, sy'n derbyn £5,000 fel gwobr am ei gwaith cerameg.
  • Y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain: Elfyn Lewis, Porthmadog, am ei baentiadau haniaethol.

Dysgwr y Flwyddyn[golygu | golygu cod]

Y pedwar a aeth ymlaen i'r rownd derfynol oedd: John Burton, Zoë Morag Pettinger, Meggan Lloyd Prys a Dominic Gilbert. Enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2009 oedd Meggan Lloyd Prys.

Maes B[golygu | golygu cod]

Roedd Maes B yn dal 3,000 o bobl.[3]

Darlledu ar y we[golygu | golygu cod]

Am y tro cyntaf erioed roedd yn bosib i bawb drwy'r byd wylio'r Brifwyl wrth i BBC Cymru ddarlledu'r digwyddiadau yn fyw ar y we, gydag Arfon Haines Davies a Sara Edwards yn sylwebu'n fyw ar y digwyddiadau. Roedd y darllediadau drwy gyfrwng y Saesneg.[4]

Prif swyddogion y pwyllgor gwaith[golygu | golygu cod]

  • Cadeirydd: Elfyn Llwyd, Llanuwchllyn
  • Is-gadeiryddion: Gerallt Hughes, Arthog; Evie Morgan Jones, Llanbedr; Geriant Lloyd Jones, Penrhyndeudraeth; Dilwyn Morgan, Y Bala
  • Ysgrifennydd: Ian Lloyd Hughes, Y Bala.

Galeri Lluniau[golygu | golygu cod]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Adroddiad Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro. tud.85" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-06-27. Cyrchwyd 2012-08-09.
  2. Gwefan y BBC
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-11-17. Cyrchwyd 2012-04-05.
  4. Gwefan y BBC

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]