Ceri Wyn Jones
Ceri Wyn Jones | |
---|---|
Geni | Ceri Wyn Jones 5 Rhagfyr 1967 Welwyn Garden City, Swydd Hertford, Lloegr |
Galwedigaeth | Bardd |
Addysg | Ysgol Uwchradd Aberteifi, Prifysgol Aberystwyth |
Gwaith nodedig | Byd Llawn Hud, Dwli o Ddifri, Dauwynebog |
Gwobrau nodedig | Cadair a Choron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
Priod | Catrin |
Plant | Gruffudd, Ifan, Gwilym |
Bardd Cymraeg ydy Ceri Wyn Jones (ganed 5 Rhagfyr 1967), sy'n adnabyddus am ennill Cadair a Choron, Eisteddfod Genedlaethol Cymru.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Ganed yn Welwyn Garden City, Swydd Hertford a magwyd ef yno ac yn Aberteifi a Phen y Bryn yng ngogledd Sir Benfro. Mynychodd ysgolion cynradd Cilgerran ac Aberteifi, cyn mynd i Ysgol Uwchradd Aberteifi.
Dysgodd gynganeddu mewn cyfres o weithdai gyda T. Llew Jones pan oedd yn 17 oed. Ysgrifennodd Ceri Wyn Jones gyfres o englynion i T. Llew Jones i ddathlu ei benblwydd yn 90 oed.[1]
Graddiodd mewn Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn dechrau dysgu yn Ysgol Gyfun Dyffryn Teifi, Llandysul, lle bu'n bennaeth yr adran Saesneg am ddros degawd. Gadawodd byd addysg i ddilyn gyrfa fel golygydd gyda Gwasg Gomer yn 2002.[2]
Ef oedd Prifardd y Gadair, yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1997, am ei awdl Gwaddol. Enillodd hefyd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 2009 am gerddi ar y testun Yn y Gwaed, a oedd wedi eu cyflwyno i'w ewythr, y diweddar Barchedig Aled ap Gwynedd.[2]
Wedi ei gyfnod fel Bardd Plant Cymru o 2003 hyd 2004, cyhoeddodd y gyfrol Dwli o Ddifri i blant, a chyrhaeddodd honno restr fer Gwobr Tir Na-n Og yn 2005. Er na enillodd y gyfrol hon y wobr, roedd Ceri hefyd wedi cyfrannu at y gyfrol fuddugol, sef Byd Llawn Hud. Yn 2007, ef oedd awdur geiriau cân fuddugol Cân i Gymru, sef Blwyddyn Mâs, a ganwyd ac a gyfansoddwyd gan Einir Dafydd. Cyrhaeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Dauwynebog, restr fer gwobr Llyfr y Flwyddyn yn 2008.[2]
Derbyniodd ysgoloriaeth gan yr Academi yn 2008, i ddechrau gwaith ar ail gyfrol o farddoniaeth.[2]
Yn 2012, cyhoeddwyd mai Ceri Wyn fyddai'n olynu Gerallt Lloyd Owen fel llywydd a meuryn Talwrn y Beirdd.[3]
Yn 2014, enillodd ei ail Gadair Genedalethol yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr am Awdl ar y thema Lloches. Bu cryn anghytuno rhwng Alan Llwyd a'i ddau gyd-feirniad Idris Reynolds a Llion Jones ynghylch teilyngdod y gerdd: y cyntaf yn ei beirniadu am gynnwys gormod o Saesneg a'r ddau arall yn gryf o'r farn fod y geiriau Saesneg yna i bwrpas ac yn rhan annatod o'r gerdd.[4]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Mae Ceri Wyn yn briod â Catrin ac mae ganddynt dri mab; Gruffudd, Ifan a Gwilym.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cerddi a barddoniaeth
[golygu | golygu cod]- Byd Llawn Hud (gyda Tudur Dylan, Mererid Hopwood, Sonia Edwards, Elinor Wyn Reynolds) (Gwasg Gomer, 2004)
- Dwli o Ddifri (Gwasg Gomer, 2004)
- Dauwynebog (Gwasg Gomer, 2007)
- Nawr 'Te, Blant/Now Then, Children (Gwasg Gomer, 2008)
- Dau Mewn Cau/Ruck in the Muck (Gwasg Gomer, 2015)
- Santa Corn (Gwasg Gomer, 2015)
Rhyddiaith
[golygu | golygu cod]- Aberteifi: Y Dre a'r Wlad (Gwasg Carreg Gwalch, 2020)
Golygydd
[golygu | golygu cod]- Cerddi Dic yr Hendre: Detholiad o Farddoniaeth Dic Jones (Gwasg Gomer, 2010)
- Pigion y Talwrn (Cyhoeddiadau Barddas, 2016)
Gwobrau ac anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- 1997 – Prifardd y Gadair, Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 1997 – Gwaddol
- 2003–2004 – Bardd Plant Cymru
- 2009 – Coron, Eisteddfod Genedlaethol Y Bala, 2009 – Yn y Gwaed
- 2014 – Prifardd y Gadair, Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, 2014 – Lloches
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Proffil ar wefan Plant ar Lein Archifwyd 2007-09-21 yn y Peiriant Wayback