Elinor Wyn Reynolds
Gwedd
Elinor Wyn Reynolds | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 24 Mawrth 1970 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater |
Mae Elinor Wyn Reynolds (ganwyd 24 Mawrth 1970) yn fardd, awdur a golygydd Cymreig.
Elinor Wyn Reynolds enillodd Llyfr y Flwyddyn yn y categori Barddoniaeth am ei chyfrol Anwyddoldeb yn 2023.[1] Yn 2019, cyhoeddwyd ei chyfrol ryddiaith gyntaf Gwirionedd. Cyrhaeddodd Gwirionedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn 2020.[2]
Yn 2024 roedd hi'n gweithio fel swyddog cyhoeddiadau a chynorthwy-ydd i Undeb yr Annibynwyr Cymraeg ac yn byw yng Nghaerfyrddin.[3]
Yn 2025, cafodd ei hethol fel Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb yr Annibynwyr Cymraeg i olynu’r Parchg Dyfrig Rees. Hi oedd y fenyw cyntaf i gael y swydd yma erioed.[4]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwirionedd (Bwthyn 2019)
- Anwyddoldeb (Barddas 2022)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ www.llenyddiaethcymru.org; Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023: Yr Enillwyr Cymraeg; adalwyd 20 Ionawr 2024.
- ↑ llenyddiaethcymru.org; Llyfr y flwyddyn 2020; adalwyd 20 Ionawr 2023
- ↑ waleslitexchange.org; adalwyd 21 Ionawr 2023.
- ↑ "Elinor Wyn Reynolds yn Ysgrifennydd Cyffredinol newydd - The Union of Welsh Independents". www.annibynwyr.org. Cyrchwyd 25 Mai 2025.