Undeb yr Annibynwyr Cymraeg
Gwedd
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad crefyddol ![]() |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1872 ![]() |
Aelod o'r canlynol | Cymundeb Eglwysi Diwygiedig y Byd ![]() |
![]() |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8b/T%C5%B7_John_Penri%2C_Undeb_yr_Annibynwyr_Cymraeg.jpg/220px-T%C5%B7_John_Penri%2C_Undeb_yr_Annibynwyr_Cymraeg.jpg)
Undeb yr Annibynwyr yw'r Undeb gwirfoddol o eglwysi Annibynnol Cymraeg, yng Nghymru a Lloegr, sy'n cydlynu gweithgarwch a thystiolaeth yr Annibynwyr. Fe'i sefydlwyd yn Abertawe ym 1871 a chynhaliodd ei Gyfarfodydd Blynyddol cyntaf yng Nghaerfyrddin ym 1872. Y Parchg Jill-Hailey Harries yw'r Llywydd ar hyn o bryd (2018-20) a'r Parch Dyfrig Rees yw'r Ysgrifennydd Cyffredinol (2018- ).
Mae swyddfa'r Undeb, sef Tŷ John Penri, ar gyrion dinas Abertawe, yn agos i Gyffordd 45 ar yr M4, ac mae dros 400 o eglwysi yn perthyn iddo (2019).