Neidio i'r cynnwys

Sonia Edwards

Oddi ar Wicipedia
Sonia Edwards
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Cemaes Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Awdures Gymraeg o Gymru yw Sonia Edwards (ganed Cemaes, Ynys Môn), enillydd Llyfr y Flwyddyn ym 1996, Medal Ryddiaith 1999 a 2017. Bu'n athrawes yn Ysgol Gyfun Llangefni cyn ymddeol yn gynnar i sgwennu'n llawn amser.[1]

Addysg

[golygu | golygu cod]

Addysgwyd hi yn Ysgol Gynradd Cemaes, Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones a Phrifysgol Bangor.[2]

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 1999 gyda Rhwng Noson Wen a Phlygain ac enillodd eto yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017 gyda Rhannu Ambarél. Daeth Y Goeden Wen yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Dinbych 2001.

Enillodd y gyfrol Byd Llawn Hud o farddoniaeth (a oedd yn cynnwys cyfraniadau gan Sonia Edwards, Ceri Wyn, Tudur Dylan, Mererid Hopwood, ac Elinor Wyn Reynolds) Wobr Tir na n-Og yn 2003.[3]

Roedd ei llyfr Merch Noeth ar restr hir Llyfr y Flwyddyn yn 2004. Hyd at 2017 roedd wedi cyhoeddi 27 o nofelau a chasgliadau o straeon byrion i blant, pobl ifanc ac oedolion.[4]

Personol

[golygu | golygu cod]

Mae'n fam i Rhys, sy'n athro ac yn brif leisydd y grŵp Fleur de Lys, ac yn byw yn Llangefni.

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Sonia Edwards. Y Lolfa. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.
  2.  Adnabod Awdur: Sonia Edwards. Cyngor Llyfrau Cymru (2009).
  3.  BYWGRAFFIADAU AWDUR: Sonia Edwards. Gomer. Adalwyd ar 13 Mehefin 2011.
  4. Gwefan lleol.cymru; adalwyd 9 Awst 2017.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]