Siân Melangell Dafydd
Siân Melangell Dafydd | |
---|---|
Ganwyd | 28 Ebrill 1977 ![]() Dolgellau ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, cyfieithydd, llenor ![]() |
Bardd o Llwyneinion ger y Bala, Gwynedd, yw Siân Melangell Dafydd (ganed Ebrill 1977). Ffug enw: "Mynydd Segur", sef cam-gyfieithiad o Montségur, Ariège, yn rhanbarth Midi-Pyrénées, Ffrainc (castell Cathar nid nepell o'r lle bu'n ysgrifennu'r rhan fwyaf o nofel ddiweddar).
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Fe’i haddysgwyd yn Ysgolion Bro Tegid a Berwyn, y Bala, ond cwblhaodd ei Safon A yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Dolgellau. Graddiodd gyda gradd MA mewn Hanes Celf o Brifysgol St Andrews, yr Alban, cyn gweithio mewn orielau gwahanol o Lundain i Chianti. Treuliodd flynyddoedd fel Rheolwr Marchnata Sgript Cymru cyn mynd yn ôl i’r coleg i gwblhau gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol East Anglia (UEA), Norwich.
Cyflwynwyd y Fedal Ryddiaith yn 2009 iddi mewn seremoni arbennig ar lwyfan Pafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Meirion a'r Cyffiniau ddiwedd brynhawn Mercher. Y beirniaid yn y Bala oedd Manon Rhys, Tony Bianchi, ac Elwyn Ashford Jones.
Mae hi bellach yn gweithio’n llawrydd ac yn rhannu ei hamser rhwng Cymru a Pharis. Golygydd y cylchgrawn Taliesin oedd hi.
Yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor,[1] yn 2024 arweiniodd gyfres o gyflwyniadau a sgyrsiau dan enw Coel Gwrach ar wrachyddiaeth yng Nghymru fodern gynnar ac yn benodol ar dreialon, cyhuddiadau, ac erlyniadau pum person a ddienyddwyd ar gyhuddiad o fod yn "wrachod".[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Llyfrau gwreiddiol
[golygu | golygu cod]- Y Trydydd Peth (Gwasg Gomer, 2009)
Addasiadau
[golygu | golygu cod]- Eoin Colfer, Artemis Gwarth a Chôd Tragwyddoldeb (Gwasg Gomer, 2009)
- Eoin Colfer, Artemis Gwarth ac Antur yr Arctig (Gwasg Gomer, 2009)
- Bernard Ashley, Milwr Bychan (Rily, 2011)
- Bernard Ashley, Tŷ Dial (Rily, 2011)
Gwobrau ac Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]Enillydd y Fedal Ryddiaith
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Siân Melangell Dafydd". Prifysgol Bangor. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-08-12. Cyrchwyd 12 Awst 2024.
- ↑ "Coel Gwrach". Coleg Cymraeg Cenedlaethol. 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Archifwyd 2011-12-16 yn y Peiriant Wayback
- Gwybodaeth Archifwyd 2016-02-15 yn y Peiriant Wayback
- Word-express Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- walesliterature.org Archifwyd 2012-03-25 yn y Peiriant Wayback
- Eisteddfod Genedlaethol Archifwyd 2011-07-05 yn y Peiriant Wayback
- Coel Gwrach sgyrsiau ar wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol dan ofal Siân Melangell Dafydd