Rhiannon Lloyd

Oddi ar Wicipedia
Rhiannon Lloyd
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Meddyg ac awdur o Dreborth yw Rhiannon Lloyd. Hyfforddodd Dr Rhiannon Lloyd fel meddyg meddygaeth a seiciatreg a bu’n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Treuliodd flynyddoedd yn cynghori pobl â chlwyfau emosiynol dwfn ac yn dysgu ar gyrsiau i weithwyr Cristnogol.[1]

Ers 1994, mae hi wedi arloesi â gweinidogaeth gymodi yn Rwanda, gan weithio efo African Enterprise, ac yn ddiweddarach gyda Mercy Ministries International sydd wedi'i leoli yn Genefa.

Mae hi wedi siarad mewn ysgolion, eglwysi, carchardai, cyfarfodydd cyhoeddus, brecwastau gweddi’r Llywodraeth ac ar radio a theledu mewn sawl gwlad.

Cyhoeddwyd y gyfrol Llwybr Gobaith gan Gwasg Pantycelyn yn 2005.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "www.gwales.com - 1903314755". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-19.



Gwybodaeth o Gwales

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o fywgraffiad yr awdur Rhiannon Lloyd ar wefan Gwales, sef gwefan gan Cyngor Llyfrau Cymru. Mae gan yr wybodaeth berthnasol drwydded agored CC BY-SA 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.