Gwilym Prys-Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Gwilym Prys Davies)
Jump to navigation Jump to search
Gwilym Prys-Davies
Ganwyd 8 Rhagfyr 1923 Edit this on Wikidata
Llanegryn Edit this on Wikidata
Bu farw 28 Mawrth 2017 Edit this on Wikidata (93 oed)
Man preswyl Pontypridd Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaeth Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd aelod o Dŷ'r Arglwyddi Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Y Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/au Arglwydd Edit this on Wikidata

Sosialydd Cymreig oedd yr Arglwydd Gwilym Prys-Davies (8 Rhagfyr 192328 Mawrth 2017). Bu'n ymgeisydd y Blaid Lafur yn Is-etholiad Caerfyrddin, 1966, ond nid oedd yn llwyddiannus.

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Gwilym Prys-Davies yn Llanegryn, Meirionnydd. Gwasanaethodd yn y llynges yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi hynny astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth ac aeth i weithio fel cyfreithiwr ym Mhontypridd yn 1956.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Daeth yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi ar 9 Chwefror 1983 a gwasanaethodd fel Arglwydd hyd nes iddo ymddeol fel Arglwydd ar 23 Mai 2015.

Bu'n llefaru ar faterion iechyd a Gogledd Iwerddon ar ran yr wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi yn ystod yr 1980au a 1990au. Gwasanaethodd fel llefarydd yr Wrthblaid yn Nhy'r Arglwyddi ar faterion Cymreig rhwng 1987 a 1997.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfarfu ei wraig Llinos yn y brifysgol a bu'r ddau yn briod am dros 50 mlynedd hyd ei marwolaeth yn 2010. Bu farw ar 23 Mawrth 2017 yn 93 blwydd oed.[1]

Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies[golygu | golygu cod y dudalen]

Gan ddechrau yn 2018 cynigiwyd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies i fyfyriwr/aig o'r hen sir Feirionnydd neu bwrdeisdref sirol Rhondda, Cynon, Tâf sy'n astudio'r Gyfraith gyda elfen o'r Gymraeg yn un o brifysgolion Cymru.[2] Gweindyddir yr Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Cynhaeaf Hanner Canrif Gwleidyddol Gymraeg, 1945–2005 (Gwasg Gomer, 2008)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]