Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1864

Oddi ar Wicipedia
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llandudno 1864
Enghraifft o'r canlynolun o gyfres reolaidd o wyliau Edit this on Wikidata
Dyddiad1864 Edit this on Wikidata
CyfresEisteddfod Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
LleoliadLlandudno Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1864 yn Llandudno, Sir Gaernarfon, ar 24-26 Awst 1864, o ddydd Mercher i nos Wener.[1]

Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Ioan yn Ynys Patmos". Derbyniwyd saith cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Nicander ar ran ei gyd-feirniad Emrys gan ddatgan fod 'Barakel' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Richard Foulkes Edwards (Risiart Ddu o Wynedd). Fe'i cludwyd i'r gadair gan Clwydfardd a Thalhaiarn.[2]

Roedd cryn feirniadaeth o'r Eisteddfod yma yn y wasg Gymreig gyda erthygl olygyddol yn Seren Cymru yn ei alw'n "fethiant hollol" yn rhannol am ei fod wedi gwneud colled o £200 ond hefyd am ddiffyg trefn. Fe'i ddisgrifwyd yn y Faner fel Eisteddfod "fflat... ddi-hwyl, ddi-fynd, ddi-fywyd".[3] Nid oedd dyddiadau'r eisteddfod wedi ei hysbysu'n ddigonol yn y de a ni chafwyd un côr yn cystadlu. Roedd yna bryderon hefyd am unffurfioldeb y gweithgareddau a'r areithiau, y gost o logi'r pafiliwn, a'r lleoliad.[4]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Yr Eisteddfod Genedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
  2. "Y GYMDEITHAS HENAFIAETHOLI GYMREIGl - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1864-09-02. Cyrchwyd 2016-08-13.
  3. "YR EISTEDDFOD - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1864-09-16. Cyrchwyd 2016-08-13.
  4. "YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL YN LLANDUDNO - Y Gwladgarwr". Abraham Mason. 1864-09-03. Cyrchwyd 2016-08-13.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Catefori:Hanes Conwy