Sara Edwards

Oddi ar Wicipedia
Sara Edwards
Ganwyd1960 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
Man preswylLlundain, Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata
SwyddArglwydd Raglaw Dyfed Edit this on Wikidata
MamGwenyth Petty Edit this on Wikidata

Cyflwynydd yw Sara Edwards (ganwyd yn 1960). Bu'n cyd-gyflwyno rhaglen newyddion nosweithiol BBC Wales Today.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Ganwyd Sara yng Nghaerdydd ac fe'i magwyd a'i haddysgu yn Llundain, lle astudiodd hanes canoloesol a modern cynnar.

Fe gychwynnodd ei gyrfa gyda Capital Radio, a chyfrannodd eitemau yn rheolaidd i BBC Radio Four, ac roedd yn gyflwynydd cyswllt a darllenydd newyddion i HTV West cyn ymuno â BBC Cymru. Mae Sara wedi cyflwyno yn rheolaidd o Sioe Frenhinol Cymru a'r Eisteddfod Genedlaethol, a gwnaeth sawl cyfres i BBC 2W.[1]

Cyhoeddwyd yn Awst 2007 ei bod yn gadael BBC Wales Today i ddilyn prosiectau eraill, ac mai ei holynydd fyddai Lucy Owen a drosglwyddodd o raglen newyddion ITV Cymru.[2][3]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Mae Sara yn ferch i'r llawfeddyg John M. Edwards M.S.,F.R.C.S.,F.A.C.N.M a'r actores a darlledwraig Gwenyth Petty. Mae'n briod i'r hanesydd milwrol Dr.Jonathon Riley. Mae gan Sara un ferch, Hannah Elinor Alys, a anwyd ar 19 Mawrth 2006.

Mae diddordebau Sara yn cynnwys theatr, cerddoriaeth, cyngherddau, coginio—mae ganddi ddiploma coginio proffesiynol o ysgol coginio La Petite Cuisine yn Llundain—peintio, a chefn gwlad, am fod gan ei theulu fferm yng Ngorllewin Cymru. Mae'n mwynhau golff, tenis, rasio ceffylau a marchogaeth.

Mae Sara yn Is-Arglwydd Raglaw Dyfed. Mae hi'n gefnogwr i gynllun Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru ac wedi cyflwyno Gwobrau Aur ar ran Dug Caeredin yn St James' Palace. Mae hi yn ymwneud ag Ymchwil Cancr Cymru,[4] a Sefydliad Prydeinig y Galon; mae ar gyngor Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan,[5] yn Chwaer o Ambiwlans St. John,[6] ac roedd ar fwrdd Asiantaeth Ieuenctid Cymru.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "BBC – Press Office – Sara Edwards". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-01-22. Cyrchwyd 2015-11-23.
  2. Changing faces of BBC Wales news BBC News – 29 August 2007
  3. TV's Sara tells real story behind Beeb axe Marc Baker, Wales On Sunday – September 2, 2007
  4. Welcome to the Wales Cancer Institute – Latest News
  5. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-02-05. Cyrchwyd 2015-11-23.
  6. "St John Ambulance Wales". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-13. Cyrchwyd 2015-11-23.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]