Lucy Owen

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Lucy Owen
Lucy Cohen-Owen.jpg
Ganwyd (1970-11-28) 28 Tachwedd 1970 (45 oed)
Llandaf, Caerdydd, Baner Cymru Cymru
Cartref Llangan
Cenedligrwydd Cymru Cymraes
Yn enwog am Wales Tonight, BBC Wales Today
Galwedigaeth Cyflwynydd teledu, Newyddiadurwraig
Priod Rhodri Owen
Plant Gabriel Owen (g. 10 Mawrth 2008)
Gwefan http://www.bbc.co.uk/programmes/b0079fxq

Mae Lucy Jane Owen (née Cohen) (ganed 28 Tachwedd 1970) yn newyddiadurwraig teledu Cymreig.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mynychodd Owen Ysgol Howell's yn Llandaf, Caerdydd a graddiodd mewn Saesneg o Royal Holloway, Prifysgol Llundain.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Dechreuodd ei gyrfa darlledu fel ymchwilydd gyda BBC Radio Wales, cyn symud ymlaen i ddarparu adroddiadau a chyd-gyflwyno rhaglenni. Dechreuodd ddarllen y newyddion gyda HTV Wales ym 1995 gyda chyfraniadau newyddion lleol ar gyfer GMTV. Rhwng 1996 a 2007, cyflwynodd Wales Tonight, y rhaglen newyddion rhanbarthol ar ITV Wales, a ddarlledir o Gaerdydd.

Cyflwynodd Owen ar yr ITV News Channel, a bu'n prif gyflwynydd ar ITV News, Lunchtime News, Evening News a'r Weekend News. Cyflwynodd ei rhaglen olaf o Wales Tonight ar ddydd Gwener, 19 Hydref, 2007.

Mewn cam annisgwyl a wnaed am resymau personol, o'r 5 Tachwedd 2007, dechreuodd Owen gyflwyno rhaglen newyddion nosweithiol BBC Wales, "BBC Wales Today", gan gymryd lle'r cyflwynydd Sara Edwards.[1] O ganlyniad i newid o'r naill sianel i'r llall, ymunodd Owen â'i gŵr ar y rhaglen deledu X-Ray.

Bywyd personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Priododd Owen y cyflwynydd teledu Rhodri Owen ym mis Mehefin 2004, yn Eglwys Saint Andras, Saint Andras ger Dinas Powys,[2] ac mae ganddynt un mab, Gabriel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1.  Changing faces of BBC Wales news. BBC (29-08-2007).
  2.  Paul Maunder (23 Rhagfyr 2005). TV star Rhodri in court. South Wales Echo.