Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1877 |
Gwefan | https://www.stjohninternational.org |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhwydwaith byd-eang o wasanaethau ambiwlans yw Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan (Saesneg: St John Ambulance Association) sy'n rhan o Urdd Sant Ioan. Mae'n cynnwys 400,000 o aelodau mewn 39 o wledydd.[1] Mae Ambiwlans Sant Ioan yn aml yn gwasanaethu digwyddiadau cyhoeddus mawr,[2] megis cyngherddau,[3] cystadlaethau chwaraeon, a jiwbilïau.[4]
Sefydlwyd y Gymdeithas ym 1877 gan aelodau Urdd Brydeinig Sant Ioan, oedd yn dymuno hyfforddi aelodau'r cyhoedd mewn cymorth cyntaf. Mewn nifer o ardaloedd Gwledydd Prydain, Ambiwlans Sant Ioan oedd yr unig wasanaeth ambiwlans ar gael nes sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948. Bu rhai o nyrsiau Sant Ioan yn gofalu am gleifion mewn tai eu hunain. Cyfunodd Cymdeithas Ambiwlans Sant Ioan a Brigâd Ambiwlans Sant Ioan ym 1974.[5]
Rhennir Ambiwlans Sant Ioan yn unedau o wirfoddolwyr a hyfforddir mewn cymorth cyntaf a gofal iechyd yn y cartref. Maent yn dibynnu ar feddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill am gyngor technegol.[6]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Corfflu Ambiwlans Urdd Malta, sy'n gweithredu yn Iwerddon
- Cymdeithas Ambiwlans Sant Andreas, sy'n gweithredu yn yr Alban
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) St John Ambulance. Urdd Sant Ioan. Adalwyd ar 20 Hydref 2012.
- ↑ Flabouris, Arthas; Bridgewater, Franklin (1996). "An Analysis of Demand for First-Aid Care at a Major Public Event". Prehospital and Disaster Medicine 11 (1): 48–54. doi:10.1017/S1049023X00042345. http://journals.cambridge.org/action/displayAbstract?fromPage=online&aid=8436894. Adalwyd 20 Hydref 2012.
- ↑ Hewitt, Susanne; Jarrett, Lyn; Winter, Bob (1996). "Emergency medicine at a large rock festival". Journal of Accident and Emergency Medicine 13: 26–27. doi:10.1136/emj.13.1.26. http://emj.bmj.com/content/13/1/26.full.pdf. Adalwyd 20 Hydref 2012.
- ↑ (Saesneg) Our history. Ambiwlans Sant Ioan yn Lloegr (a'r Ynysoedd). Adalwyd ar 20 Hydref 2012.
- ↑ (Saesneg) Our History. Urdd Sant Ioan. Adalwyd ar 20 Hydref 2012.
- ↑ Prendergast, W. F. (1980). "St. John Ambulance Needs Volunteers". Canadian Family Physician 26: 20. http://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC2383505/pdf/canfamphys00262-0022b.pdf. Adalwyd 20 Hydref 2012.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) St John Cymru