Gwirfoddoli
Gwedd
Yr ymarfer o weithio dros rhywun arall heb ennill yn ariannol na'n faterol yw gwirfoddoli. Cysidrir gwirfoddoli i fod yn weithgaredd allgarol, sydd â'r bwriad o hybu achosion da neu wella ansawdd bywyd. Mae nifer o bobl hefyd yn gwirfoddoli er mwyn ennill profiad gwaith heb orfod derbyn cefnogaeth ariannol y cyflogwr.
Mae amryw o fathau gwahanol o wirfoddoli, ac mae amryw helaeth o bobl yn gwirfoddoli. Mae rhai wedi eu hyffordi'n arbennig yn y maes y maent yn gwirfoddoli ynddi, megis meddygaeth, addysg neu achub mewn argyfwng. Mae eraill yn gwirfoddoli dim ond mewn achos o argyfwng megis daeargryn.