Palas Sant Iago
Gwedd
| Math | palas |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Iago fab Sebedeus |
| Ardal weinyddol | Dinas Westminster |
| Agoriad swyddogol | 1536 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Lleoliad | Llundain |
| Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 51.5047°N 0.1378°W |
| Cod OS | TQ2934980046 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Brick Gothic |
| Perchnogaeth | Harri VIII |
| Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I |
| Manylion | |
Lleolir Palas Sant Iago yn Ninas Westminster, Llundain Fwyaf. Yn draddodiadol dyma gartref swyddogol brenin neu frenhines y Deyrnas Unedig, ond ers oes Victoria mae pob un ohonynt wedi byw ym Mhalas Buckingham. Saif ar safle hen ysbyty ar gyfer merched gwahanglwyfus, a sefydlwyd cyn 1100. Adeiladwyd y porthdy ar gyfer Harri VIII rhwng 1531 a thua 1540. Gwnaeth Inigo Jones nifer o newidiadau i'r palas, ond dim ond Capel y Frenhines sy'n dal i sefyll. Mae Clarence House, cartref swyddogol Tywysog presennol Cymru, yn rhan o gyfadeilad y palas.
