Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts
Mae Ysgoloriaeth W. Towyn Roberts yn cael ei wobrwyo yn dilyn cystadleuaeth flynyddol yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ei bwrpas yw hyrwyddo cerddoriaeth glasurol yng Nghymru a'i dyfarnu i gefnogi datblygiad proffesiynol y cystadleuydd yn y diwydiant canu clasurol.[1]
Sefydlwyd yr ysgoloriaeth yn 1982 gan William Towyn Roberts (1906-1996) er cof am ei wraig Violet Jones, Nantclwyd (bu farw 1980) ac mae'n werth swm sylweddol.
Rheolau cystadlu
[golygu | golygu cod]Mae'r gystadleuaeth yn agored i:
- unrhyw berson a anwyd yng Nghymru;
- unrhyw berson y ganwyd un o’i rieni yng Nghymru;
- unrhyw berson sy’n byw neu’n gweithio yng Nghymru am dair blynedd cyn diwedd Awst flwyddyn yr Eisteddfod.
Gwahoddir pob cystadleuydd i ragbrawf ar ddydd Sul cyntaf yr Eisteddfod i gyflwyno rhaglen hyd at 15 munud sy’n cynnwys o leiaf un gân gan gyfansoddwr o Gymru a chenir pob un o'r caneuon yn Gymraeg. Yn ogystal rhaid i'r cystadleuwyr baratoi cyflwyniad ysgrifenedig hyd at 200 o eiriau yn nodi bwriad defnydd o'r Ysgoloriaeth. Gwahoddir holl gystadleuwyr y gystadleuaeth i sesiwn weithdy ar faes yr Eisteddfod gydag aelodau o’r panel beirniadu.[1]
Rhestr enillwyr
[golygu | golygu cod]- 1982 - Mari Ffion Williams / Vaughan Howells
- 1983 - Meinir Williams
- 1984 - Aneirin Mason Hughes
- 1985 - Leah Marian Jones
- 1986 - Helen Hessey White
- 1987 - Rhian Owen / Bryn Terfel
- 1988 - Gail Pearson / Nicola Railton
- 1989 - Sharon Evans / Marc Luther
- 1990 - Jeffrey Roberts
- 1991 - Eldrydd Cynan Jones
- 1992 - Elizabeth Stevens
- 1993 - Ellen Môn
- 1994 - Aled Hall Jones
- 1995 - Kathryn Turpin / Vanessa Woodfine
- 1996 - Timothy Richards
- 1997 - Rhys Meirion Jones
- 1998 - Jill Padfield
- 1999 - Elizabeth Donovan
- 2000 - Richard Allen
- 2001 - Paul Carey Jones
- 2002 - Cecilia Eleri Smiga
- 2003 - Mari Wyn Williams
- 2004 - Alun Rhys Jenkins
- 2005 - Caryl Hughes
- 2006 - Katherine Allen
- 2007 - Gwawr Edwards
- 2008 - Angharad Lisabeth Rees
- 2009 - Catrin Aur
- 2010 - Laura Pooley
- 2011 - Trystan Llŷr Griffiths
- 2012 - Elin Pritchard / Menna Cazel Davies
- 2013 - Joshua Mills
- 2014 - Eirlys Myfanwy Davies
- 2015 - Meinir Wyn Roberts
- 2016 - Robert Lewis
- 2017 - Sarah Gilford
- 2018 - Steffan Lloyd Owen
- 2019 - John Ieuan Jones[2]
- 2022 - Eiry Price[3]
- 2023 - Erin Gwyn Rossington[4]
- 2024 - Owain Rowlands[5]
- 2025 - Manon Ogwen Parry[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 "Ysgoloriaeth W Towyn Roberts | Eisteddfod". eisteddfod.cymru. Cyrchwyd 2025-08-05.
- ↑ Enillwyr Ysgoloriaeth W Towyn Roberts. Eisteddfod Genedlaethol. Adalwyd ar 3 Awst 2016.
- ↑ Canlyniadau Nos Fercher 3 Awst // Results for Wednesday evening 3 August , BBC Cymru Fyw, 3 Awst 2022.
- ↑ Canlyniadau Dydd Llun 7 Awst // Results for Monday 7 August , BBC Cymru Fyw, 8 Awst 2023.
- ↑ "Canlyniadau Dydd Llun 5 Awst // Results for Monday 5 August". BBC Cymru Fyw. 2024-08-05. Cyrchwyd 2024-08-06.
- ↑ "Canlyniadau Dydd Llun 4 Awst // Results for Monday 4 August". BBC Cymru Fyw. 2025-08-04. Cyrchwyd 2025-08-04.