Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1863
| Enghraifft o: | un o gyfres reolaidd o wyliau |
|---|---|
| Dyddiad | 1863 |
| Cyfres | Eisteddfod Genedlaethol Cymru |
| Lleoliad | Abertawe |
| Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Dynodwyr | |
Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1863 yn Abertawe ar 2-4 Medi 1863, o ddydd Mercher i nos Wener. Y Llywydd oedd David Pugh AS.[1]
Cynigiwyd Y Gadair am awdl ar y testun "Albert Dda". Derbyniwyd deg cyfansoddiad a thraddodwyd y feirniadaeth gan Iago Emlyn (y Parch James James) gan ddatgan fod 'Idwal' yn deilwng o'r gadair. Datgelwyd mai'r bardd buddugol oedd Emrys (y Parch William Ambrose, Porthmadog) ond nid oedd yn bresennol felly fe'i gynrychiolwyd gan ei gefnder Ambrose Lloyd, Caerlleon.
Cyngerdd
[golygu | golygu cod]Roedd y babell a godwyd ar gyfer yr Eisteddod yn ddigon mawr i ddal 7,000 o bobl ond eto roedd yn rhy fach i ddal y dorf a ddaeth i'r gyngerdd ar y nos Iau.[2] Yn ôl adroddiadau o'r cyfnod, ar ddechrau y gyngerdd, fe wnaeth un o drawstiau'r babell gracio a holltwyd rhai eraill. Daliwyd y trawst yn ei le gan wialen haearn ond roedd y dorf wedi cael eu cynhyrfu gymaint ac yn teimlo'n anesmwyth o ran eu diogelwch. Yn fuan wedyn symudodd trawst arall o'i le. Ymgynghorodd y maer gyda aelodau y pwyllgor yn gyflym a dygwyd y noson i ben. Dywedodd y maer y gallai'r gynulleidfa ddefnyddio'r tocynnau ar gyfer y noson ganlynol a fe wagiodd y babell o fewn hanner awr.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Eisteddfod Genedlaethol Cymru – hanes yr Eisteddfod Genedlaethol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "YrEisteddfodGenedlaethol - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1863-09-11. Cyrchwyd 2016-08-13.
- ↑ "DYDDGWENERI - Baner ac Amserau Cymru". Thomas Gee. 1863-09-09. Cyrchwyd 2016-08-13.